ZOMBIES!!!
ZOMBIES!!!
Ia wir: zombies. Os oeddet ti ym Mhenwythnos Preswyl CLIC ym Mae Caerdydd ychydig fisoedd yn l yna rwyt ti’n sicr yn ymwybodol ohonynt. [Emily o Swoosh, da ni’n edrych arnat ti]
Os nad wyt ti’n ffan o’r anfarwol, yna efallai byddai’n well cadw draw o Gaerdydd y dydd Sadwrn hwn gan fod haid o zombies yn disgyn ar Gymru.
Tra mae Noson Calan Gaeaf yn dechnegol ar ddydd Sul, mae nifer o bobl yn gorfod deffro’n fuan bore Llun felly penderfynwyd mai’r dydd Sadwrn yma, rhwng 6 8yh bydd yr Ymlusgiad Zombie Caerdydd yn digwydd!
Mae’r rheolau yn syml: gwisga fel zombie, gorchuddio dy hun mewn gwaed ffug, gwegian drwy’r dref yn griddfanu ‘Ymeeeennydd!’ yn dy ffordd anfarwol gorau, a chael hwyl dda.
Mae pob zombie yn gorfod cyfarfod yn y Sainsbury’s ar waelod Heol y Frenhines (ger y Capitol) am 6yh. Er os wyt ti’n hwyr fydd hi ddim yn rhy anodd i weld nhw (na dal i fyny gyda nhw os nad mai’r zombies sydyn yna o 28 Days Later ydynt!).
Ymennydd ddim yn gynwysedig.
Linciau
Digwyddiad Facebook
Sioe Gerdd Zombie CLIC: Rhan 1
Sioe gerdd Zombie CLIC: Rhan 2
Barddoniaeth: Timothy Monster
Mae hefyd Thema Zombie ar gyfer y wefan!