Ysgol Drama Gerdd Y Fro
Clwb Drama Gerdd newydd!
Wyt ti’n hoffi canu / actio /dawnsio / perfformio / bod o flaen cynulleidfa?! Dyma gyfle gwych i ti!
Mae bwriad i ysgol ddrama gerdd newydd agor yn y Fro.
Bydd y clwb yma i bobl ifanc blynyddoedd 5,6,7 a 8 ac i’w gynnal yn wythnosol. Mi fydd tair adran amrywiol i chi gylch droi o amgylch dros y diwrnod - gwersi canu, actio a dawnsio!
Mi fydd yr ysgol yn perfformio sioeau cerdd amrywiol Cymraeg bob diwedd tymor.
Mi fydd sesiwn blasu o’r ysgol yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 29ain Hydref 2009 (wythnos hanner tymor) yn stiwdio ddrama Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, croeso i bawb fynychu!
Cyn i’r ysgol ddrama gerdd agor mi fydd clwediadau yn cael ei cynnal, felly edrycha allan am fwy o wyboadeth yn y dyfodol agos!
Cydweithrediad yr Urdd a Menter y Fro
DELWEDD: vramak