Yr Etholiad Ofnadwy
Dwi wedi drysu am yr etholiad cyffredinol.
Dwi wedi bod yn gwylio’r Dadlau Prif Weinidogion ar ITV a Sky News rhwng y tri phrif arweinydd plaid, Gordon Brown (Llafur), David Cameron (Ceidwadwyr) a Nick Clegg (Y Democratiaid Rhyddfrydol). Mae’r un nesaf ar BBC1 y dydd Iau hwn (Ebrill 29) am 8.30yh.
O’r tri, dwi’n meddwl mai Nick Clegg fyddai wirioneddol yn gwneud bywyd yn well i bobl ifanc.
Ar y funud dwi’n ceisio chwilio am waith trin gwallt, ond yn ei chael yn anodd. Dim ond pobl sydd newydd adael yr ysgol mae’r salons yn chwilio amdanynt, fel bod posib talu’r mwyafrif lleiaf o arian mewn cyflog ag y caent yn gyfreithiol [Nodyn Is-Olyg: Mae tri grŵp oed wrth ystyried isafswm cyflog, 16-18 (£3.57 yr awr), 18-21 (£4.83 yr awr) a 22+ (£5.80 yr awr)].
Dwi wedi clywed am rai salons sydd ddim yn talu ti'r ffordd gywir ac iawn. Yn hytrach nag rhoi’r arian yn syth i dy gyfrif banc, maent yn rhoi arian parod, sydd yn od iawn i fi.
Beth wyt ti’n ei feddwl? Pa blaid wyt ti’n meddwl byddai’n cynrychioli diddordebau pobl ifanc? Gadawa sylwad isod neu cyflwyna erthygl dy hun!