Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Ynghylch Sin Corn

Posted by National Editor from National - Published on 23/12/2010 at 15:43
0 comments » - Tagged as Topical

  • santa

English version

Rydym wedi derbyn e-bost gan Niall Porter o Bowys, sydd wedi gofyn cwestiwn i ni rydym yn teimlo sydd angen ei ateb ar ran plant a phobl ifanc o bob oedran.

Annwyl CLIC,

Dwi’n 11 oed. Mae rhai o fy ffrindiau yn dweud nad yw Sin Corn yn bodoli. Mae Dad yn deud,  “Os ti’n ei weld o ar CLIC, yna mae o”. Pls dweud y gwir wrtha i; oes yna Sin Corn?

Niall Porter, Y Trallwng, Powys

Mae CLIC yn dweud:

Niall, mae dy ffrindiau di’n anghywir. Maen nhw wedi cael eu heffeithio gan oes amheugar. Nid ydynt yn credu os nad ydynt yn ei weld.

Mae pob meddwl, Niall, pa unai yw’n un oedolyn neu blentyn, yn ifanc. Yn ein cyfanfyd gwych nid yw dyn yn ddim ond pryfyn syml, morgrugyn, yn ei ddealltwriaeth, o gymharu ’r byd diderfyn o’i gwmpas, fel y mesurwyd gan y deallusrwydd galluog o gael gafael ar yr holl wir a gwybodaeth.

Oes Niall, mae yna Sin Corn. Mae’n bodoli mor sicr ac y mae cariad a haelioni ac ymroddiad yn bodoli, a ti’n gwybod fod y rheini’n bodoli yn aml ac yn rhoi’r prydferthwch a’r llawenydd uchaf yn dy fywyd. Pa mor llwm fyddai’r byd hwn os na fyddai Sin Corn. Byddai mor llwm ag os na fyddai unrhyw Niall yn bodoli.

Ni fyddai ffydd plentyn, dim barddoni, dim rhamant i wneud y fodolaeth hon yn oddefol. Ni fyddai unrhyw fwynhad, heblaw mewn synnwyr a golwg. Byddai’r golau tragwyddol  o blentyndod sydd yn llenwi’r byd yn cael ei ddiffodd.

Efallai gall cael dy Dad i hurio dynion i wylio’r holl simneiau ar Noswyl Nadolig i ddal Sin Corn, ond hyd yn oed os nad ydynt yn ei weld yn dod i lawr, beth fyddai hynny yn profi? Does neb yn ei weld, ond nid yw hynny yn arwydd nad oes Sin Corn. Mae’r pethau mwyaf gwir yn y byd yn rai dydy oedolion nag plant yn eu gweld.

Welais di erioed gremlin yn dy gyfrifiadur yn gwneud iddo dorri? Wrth gwrs ddim, ond dydy hynna ddim yn profi nad ydynt yno. Does neb yn gallu synio na ddychmygu'r holl ryfeddodau gweledig ac anweledig sydd yn y byd.

Gallet dynnu ratl y babi i ddarnau i weld beth sydd yn gwneud y sŵn tu mewn ond mae yna orchudd dros y byd anweledig na all yr oedolyn fwyaf cryf na’r cryfder unedig y dynion cryfaf i gyd fu’n fyw, yn gallu ei rwygo.

Mae Sin Corn yn byw, ac mae’n byw am byth. Mil o flynyddoedd o heddiw, Niall, na, deg gwaith deg mil o flynyddoedd o nawr, bydd yn parhau i lonyddu calon plentyndod.

Mwynha dy Nadolig!

www.northpole.com

DELWEDD: rts



Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.