Y Llyfr Teithio Yn Cychwyn Ei Siwrne
Mae Llyfr Teithio, wedi'i greu gan gr?p o Deithwyr Sipsi ifanc o wersyll Shirenewton Caerdydd, wedi cael y parch mawreddog o gael ei arddangos ym Mis Hanes Teithwyr Sipsi Roma yn galeri islawr y Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd.
Dyluniwyd y llyfr gan bobl ifanc yn Shirenewton i herio stereoteipiau negyddol o bobl ifanc y gymuned Teithwyr Sipsi; rhywbeth sydd yn amserol iawn ar hyn o bryd yn dilyn llawer o sylw negyddol ar y teledu am y gymuned Teithwyr Sipsi.
Cer draw i'w weld yn Galeri Islawr, Theatr Glan yr Afon, Casnewydd tan ddydd Iau 28ain Gorffennaf cyn iddo deithio o gwmpas Cymru.
Sefydliadau – Prosiect Sipsi a Theithwyr Caerdydd
Erthygl Berthnasol: Dathliad Diwylliant Sipsi