Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Y Gyfraith Ac Adrodd Gwyddonol

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 17/04/2011 at 13:38
0 comments » - Tagged as Education, Health, People

  • singh
  • xray

English version

Yn fis Chwefror fe es i ddigwyddiad o’r enw Cardiff Skeptics in the Pub, lle gwrandawais ar gyflwyniad am feddygaeth amgen, adrodd gwyddonol ac achosion enllib. Simon Singh oedd y siaradwr.

Cafodd Singh ei siwio yn 2008 gan y Gymdeithas Ceiropractig Prydeinig (BCA) ar l ysgrifennu erthygl yn beirniadu ceiropractyddion, sydd yn aelodau o’r BCA, sydd yn hyrwyddo eu triniaeth ar gyfer cyflyrau plentyndod fel colig ac asma, gyda dim tystiolaeth. Yna fe ysgrifennodd, am y BCA, “Y sefydliad yma ydy’r wyneb parchus o’r proffesiwn ceiropractig ac eto mae’n hapus i hyrwyddo triniaeth ffug.” Siwiodd y Gymdeithas Ceiropractig Prydeinig Singh am enllib.

Bu dwy flynedd o fynd yn l ac yn ymlaen i’r llys, i benderfynu os oedd Singh yn datgan ffaith – fod y Gymdeithas Ceiropractig Prydeinig yn twyllo cleifion yn fwriadol. Dywedodd Singh nad dyma oedd ei fwriad o gwbl. Rheolwyd yn ei erbyn mewn dyfarniad cynnar.

Ond, penderfynodd Singh apelio’r penderfyniad. Mae apelio yn cynyddu’r gost yn sylweddol os ydy’r diffynnydd yn colli’r achos. Ond dwy flynedd wedi’r achos cyfreithiol gael ei gyflwyno, fe enillodd y pwynt allweddol – ei fod yn datgan barn. Enillodd yr achos llys.

Beth ydy enllib?

Mae enllib yn gyfraith sydd yn atal pobl o wneud sylwadau difenwol am berson arall gallai wneud niwed i’w enw da. Mae hyn yn ymwneud ’r gair ysgrifenedig. Athrod ydy’r cywerth geiriol.

Y prif fater gyda chyfraith enllib ydy fod rhaid i’r diffynnydd brofi ei diniweidrwydd, ac nid y cyhuddwr. Mae hyn yn wrthdroad llwyr o’r baich y profi arferol. Mater mawr arall ydy’r costau llys mawr. Er bod y Gymdeithas Ceiropractig Prydeinig wedi’u gorchymyn i dalu costau llys, mae’n annhebyg bydd Simon Singh yn cael ei arian i gyd yn l. Mae hyn oherwydd bod rhaid iddo gyflwyno bil wedi’i eitemeiddio, a bydd manylion hwnnw yn cael ei ddadlau. Amcangyfrif ar ddiwedd yr holl broses, bydd Singh £20,000 allan o boced.

Hyd yn oed os wyt ti’n ennill, gydag enllib, ti dal yn colli. Mae cael dy siwio yn gostus iawn ac yn straen mawr.

Ond nid Simon Singh ydy’r unig newyddiadurwr gwyddonol i gael ei siwio am enllib am ysgrifennu critigol. Mae Ben Goldacre yn un arall – cafodd ei siwio gan Matthias Rath, pedler fitaminau sydd yn gwerthu ei dabledi fitaminau i gleifion HIV/AIDS yn De Affrica, yn dweud wrthynt y byddent yn gwella nhw. Ysgrifennodd Goldacre fod “gweithrediadau [Rath] yn hynod o boenus.” Mae Peter Wilmhurst yn drydedd esiampl. Cafodd ei siwio ar l cwestiynu diogelwch dyfais feddygol.

Mae cyfreithion enllib Prydain ymysg y gwaethaf yn y byd. Maent yn gwahodd achosion cyfreithiol o amgylch y byd sydd yn achosi problem arall o’r enw twristiaeth enllib. Dyma le mae unrhyw un sydd yn meddwl eu bod yn cael eu difenwi yn mynd a’r achos i Brydain, gan fod y cyhuddwr efo enw da i’w amddiffyn ym Mhrydain. Ond, mae’n eithaf hawdd arddangos enw da, ac mae’n amlwg fod pobl yn ecsploetio ein cyfreithiau enllib annheg.

Effaith difrodus arall o’r cyfreithiau enllib draconaidd ydy rhywbeth sydd yn cael ei adnabod fel oerni enllib. Dyma le fydd pobl ddim yn ysgrifennu erthygl oherwydd poeni am enllib, neu mae’r erthygl yn cael ei atal gan gyfreithwyr sydd yn meddwl fod yr erthygl efo potensial enllib.

Cyfuna twristiaeth enllib gydag oerni enllib ac mae gen ti broblem byd eang o bobl sydd yn ofni cael eu siwio, dim ond am ysgrifennu dy farn, neu farnu rhywun.

Siaradais gyda Simon Singh am y broblem:

Ydych chi'n meddwl gall cyfreithiau enllib fygu gallu gohebwyr gwyddonol rhag archwilio ac adrodd ar dystiolaeth am honiadau?

“Nid oes llawer o achosion o wyddonwyr yn mynd i’r llys. Fe gefais i achos hir dymor, fel y cafodd Ben Goldacre, ac mae Peter Wilmshurst yn cael ei siwio am enllib ar hyn o bryd, ond rydym yn edrych ar lond llaw o achosion enllib yn cael eu ffeilio bob blwyddyn yn erbyn gwyddonwyr, yn hytrach na dwsinau o achosion. Ond, mae’n debyg fod deg gwaith cymaint o sefyllfaoedd pam fydd gwyddonwyr (ac eraill) yn derbyn llythyr bygythiol ac yna’n camu lawr cyn i achos enllib gael ei ffeilio. Ti byth yn clywed am yr achosion yma. Ac yna, yn hyd yn oed gwaeth, mae yna tua deg gwaith mwy o erthyglau eto sydd yn cael eu difrodi cyn iddynt gael eu cyhoeddi, neu sydd ddim yn cael eu cyhoeddi yn y lle cyntaf. Gelwir hyn yn effaith oerni enllib.

Er esiampl, rhoddais gyfweliad am homeopathi i newyddiadurwr o Awstralia, Nick Miller, sydd yn gweithio i The Australian Age – un o’r papurau newydd mwyaf yn Awstralia. Roeddwn i yn cael fy siwio am enllib yn barod, felly roeddwn i’n bod yn ofalus a dwi’n gwybod fod popeth ddywedais i yn gyfiawnadwy,  ac eto ni chaniataodd y cyfreithiwr mewnol i’r cyfweliad gael ei gyhoeddi, gan nad allai beryglu cael eu siwio am enllib ar ochr arall y blaned, yn Llundain. Felly ni allai Nick gyhoeddi’r cyfweliad ac yn lle hyn, penderfynodd cyhoeddi erthygl am ba mor anodd oedd hi fod yn newyddiadurwr gwyddonol yn Awstralia, lle'r oedd rhaid iddo fod ofn cyfraith enllib Lloegr. Felly, mae’n anodd dweud sawl erthygl sydd yn cael ei ddifrodi cyn cael ei gyhoeddi. Dwi newydd dderbyn e-bost gan academaidd o America, oedd eisiau cyhoeddi papur academaidd fydda’n berthnasol i unrhyw wyddonwyr yn y byd. Fe gynigodd y papur i siwrnal Prydeinig, oedd yn gwrthod ei gyhoeddi gan ofni enllib. Yna aeth ac ef i siwrnal yn yr UDA, lle ddywedodd y golygydd “Iawn, fe gyhoeddwn i o.” Cyflwynodd y papur i’r cyfreithiwr mewnol i gael golwg drosto, a chafodd nifer o olygu ei wneud. Ond, nid o ofni cyfraith enllib yn America oedd pwrpas hyn. Cafodd bob un ei wneud er mwyn i’r erthygl fod yn gytn chyfraith enllib Lloegr. Mae cyfraith enllib Lloegr yn cael effaith oeri byd-eang.” – Simon Singh

Mae’n glir fod angen gwneud rhywbeth am gyfreithiau enllib Prydeinig. Cafodd ymgyrch, Ymgyrch Diwygio Enllib, ei lansio, i geisio rhoi pwysau ar y llywodraeth i wneud newidiadau. Hyd yn hyn, ymddangosai fod pethau wedi bod yn eithaf llwyddiannus wrth i fesur difenwad drafft gael ei gyhoeddi er mwyn i AS addewid cefnogaeth iddo. Y cwestiwn yw, ydy hyn yn ddigon?

Yn l eu gwefan, mae’r Ymgyrch Diwygio Enllib yn croesawu’r mesur difenwad newydd. Maent yn parhau i alw am well amddiffyniad er lles y cyhoedd, lle os oes rhywbeth sydd yn bwysig i adrodd arno, e.e. adroddiad beirniadol o bapur gwyddonol, yna os bydda’r awdur yn cael ei siwio, gallent amlinellu’r angenrheidrwydd i adrodd ar y pwnc, er lles y cyhoedd. Maent hefyd yn galw am ddiwedd i gorfforaethau siwio am enllib ac yn olaf am amddiffyniad gwesteiwyr y we o atebolrwydd eraill.

Yn glir, er bod y mesur difenwad drafft yn gam ymlaen i’r cyfeiriad cywir, mae siwrne hir yn dal o’m blaenau.

DELWEDD: planetc1 a englishpen

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.