Y Gwir Am Y X-Factor
Dwi wedi cael fy hyfforddi i ganu ers ysgol gynradd. Mae unrhyw un sydd yn meddwl fod cymaint hynna o hyfforddiant yn gwneud rhywun yn ddigon da i gael clyweliad am y X-Factor yn, yn anffodus, yn anghywir. Mae’r rhaglen hwn yn hwyl i gyd ac yn bleserus i wylio, mae pleidleisio yn eithaf hwyl hefyd, ond mae pethau yn gallu bod yn gamarweiniol.
Cefais i glyweliad am y X Factor dydd Mercher 21ain Ebrill yn Stadiwm Pl Droed Dinas Caerdydd, wedi’i drefnu gan fy ffrind. Nid oedd gen i syniad ei bod wedi gwneud hyn. Aethom i’r clyweliad ac ymuno’r ciw o gwmpas 11 o’r gloch. Roedd hi’n dipyn o amser cyn i’r ciw ddechrau lleihau ac roedd y gwres yn gwneud pethau’n waeth.
Roedd cynnwrf mawr pan gyrhaeddodd Dermot O’Leary. Dim ond y rhai oedd wedi gwisgo yn od a’r rhai oedd ddim yn gwisgo digon gafodd gyfweliad. Nid oedd eisiau siarad gyda neb arall ac ychydig ar l ei gyfweliadau fe ddiflannodd. Ac fe ddiflannodd hwyliau pobl hefyd.
Unwaith gychwynnodd i ciw symud fe aethom i mewn i’r stadiwm a chael rhif hap oedd yn edrych yn ofnus iawn (111029 oeddwn i). Yna fe eisteddom yng nghefn y stadiwm yn edrych ar bawb arall yn ciwio am eu clyweliad.
Fe eisteddom yna am 7 awr yn disgwyl, roedd myfyrwyr ysgol yn cael eu heistedd tu l i ni ac yn aml yn cael eu gyrru i lawr i’r ciw i gael clyweliadau cyn ni. Nid oeddem yn hapus iawn efo hyn ac eistedd yno am ryw awr neu fwy arall. Roedd y clyweliadau yn cael eu cynnal mewn bwth bach oedd yn sefyll ar flaen y cae. Ymhob bwth roedd cynhyrchydd. Ar yr adeg nid oedd gen i glem pwy neu beth oedd o, roeddwn yn meddwl mai rhyw neb ar hap oedd o yn gwrando ac yn gwylio ni’n canu, ac yn barnu ni’n ddrwg.
Fe ganais fy nghan, Testify, a chefais y frawddeg sydd wedi’i defnyddio nifer gwaith “Mae’n ddrwg gen i ond na fydd o”. Yn peri syndod roeddwn yn teimlo’n ddiolchgar fod yr holl beth drosodd ac nid oedd rhaid mynd trwy’r holl beth eto.
I’r rhai aeth drwodd i’r rownd nesaf roedd rhaid iddynt fynd i’r 4ydd llawr a chofrestru. Ar l hynny roedd clyweliad arall ac yna mis o ddisgwyl i gael clyweliad o flaen y panel adnabyddus o bedwar beirniad (Simon, Cheryl, Danni a Louis).
Y rhai hen oedd yn y rhan fwyaf i gael drwodd i’r rownd nesaf ac roedd y rhai doedd sydd ddim i fod i ganu yn mynd drwodd i’r rownd nesaf am y rhesymau anghywir.
Gwnaeth fi a fy ffrind ein ffordd allan ac adref i gael ymlacio ar l disgwyl cyfanswm o wyth awr a hanner am ddim.
Gallaf ddweud yn onest nad yw’r rhaglen hwn yn werth codi gobeithion amdano. Mae'r rhai sy'n gwneud y rhaglen yn dweud wrth gystadleuwyr unwaith maent drwodd i’r clyweliadau o flaen y panel ac os ydynt yn dweud nad ydynt yn gallu canu, nid ydynt i fod i siarad yn l mewn unrhyw ffordd. Mae hyn oherwydd os byddent yn datgelu nad eu clyweliad cyntaf oedd hwn, gallai ddatgelu cyfrinachau'r rhaglen. Cefais wybod hyn gan gystadleuwyr o gyfres llynedd.
Fy nghyngor i ydy i ganu’r ffordd rwyt ti eisiau, sut wyt ti eisiau a lle rwyt ti eisiau.
Am wybodaeth ar y celfyddydau perfformio edrycha fan hyn,