Y Gair B
Mae’r BBC wedi bod yn cynnal cyfres o raglenni i godi ymwybyddiaeth am fwlio, gyda chyfraniadau gan bobl ifanc yr effeithiwyd yn uniongyrchol arnynt. Dangoswyd tair rhaglen, o’r enw The B Word, gyda’r un olaf ar gael i’w gwylio am gyfnod byr yma.
Os na chefais gyfle i wylio’r rhaglenni yna rydym wedi casglu rhai ffilmiau gwrthfwlio gwych o nifer o brosiectau a ffynonellau. Gall gyrchu at y rhain drwy glicio ar y linc.
Cynhelir yr wythnos Gwrthfwlio genedlaethol o 16-20 Tachwedd 2009 ac mae’n arbennig o berthnasol ar gyfer CLIC eleni gyda’r thema “Cadw’ch Hun yn Ddiogel yn y Seibrofod”. Gall ddisgwyl gweld llawer o newyddion ac erthyglau nodwedd yma ar CLIC.
Os hoffet gymryd rhan mewn prosiect neu gynllun gwrthfwlio, siarada gyda dy ysgol, coleg neu weithwyr ieuenctid i ddarganfod beth sy’n digwydd yn dy ardal di. Gall gyflwyno manylion am dy ddigwyddiad neu brosiect yn newyddion CLIC a rhoi gwybod i bawb sut rydym yn cysylltu ’n gilydd yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth am fwlio, sut mae’n effeithio yn ddifrifol ar bobl ifanc ac na wnawn ei oddef.
Os wyt ti'n cael problemau o ran dy gyfeillgarwch, teulu neu berthnasau y peth gorau y gallet ei wneud yw siarad am hyn gyda rhywun y gallet ymddiried ynddo.
I gael mwy o wybodaeth a manylion am leoedd y gall gael cymorth a chefnogaeth clicia yma.
Gwybodaeth pellach am fwlio yma