Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Y Frwydr: Pleidleisio Yn Agor

Posted by National Editor from National - Published on 08/07/2012 at 15:07
0 comments » - Tagged as Culture, Festivals, Music, Sport & Leisure, Yn Gymraeg

English Version

NB : mae'r pleidleisio ar agor nawr ar clicarlein.co.uk/byb/pleidleisiwch

Ydy hi wir wedi bod yn flwyddyn ers i Eric Unseen chwarae ei ffordd i fuddugoliaeth ym Mrwydr Y Bandiau CLICarlein/Merthyr Rock 2011 i berfformio gydag Ocean Colour Scene ac eraill ar y prif lwyfan ng?yl Merthyr Rock?

Wel, mae'n wir fy ffrindiau, ac mae'r amser wedi dod i ni unwaith eto i agor drysau lleoliad y gig ac i wahodd ceisiadau ar gyfer brwydr 2012.

Bydd gwobrau y flwyddyn yma'n cynnwys, unwaith eto, slotiau i chwarae Merthyr Rock, gitr Dean, llawer o nwyddau CLIC a llawer, llawer mwy.

Mae'r dyddiadau i'w gadarnhau, ond fydd y rowndiau yn digwydd tua diwedd mis Gorffennaf / dechrau mis Awst yn:

  • Hobos, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Galeri, Caernarfon
  • Clwb Ifor Bach, Caerdydd
  • Central Station, Wrecsam
  • Soar Chapel, Merthyr Tudful
  • Sin City, Abertawe

Fydd y rownd derfynol yn digwydd yn Sefydliad Glyn Ebwy ar Ddydd Gwener 17eg o Awst.

Bydd pleidlais ar-lein yn dewis pwy fydd ar y rhestr fer, wedyn fydd panel o feirniaid diwydiant cerddoriaeth yn dewis y pump olaf i bob rownd.

Sut I Ymgeisio
E-bostiwch dolen i'ch tudalen MySpace, Facebook neu SoundCloud a.y.b. (sydd rhaid cynnwys o leiaf un trac llawn, bywgraffiad a llun) i botb@cliconline.co.uk.

Bydd pleidleisio'n agored ar clicarlein.co.uk/byb yn ddiweddarach yr wythnos hon. Pan fyddech ar y dudalen pleidleisio, gallai pobl gofrestri a phleidleisio i chi. Dyddiad cau am ymgeiswyr yw 5pm ar Ddydd Gwener yr 20fed o Orffennaf 2012. Nodwch mai'r frwydr hon ond yn agored i bobl ifanc sy'n byw yng Nghymru'n. Mae rhaid i bob aelod o'r band fod rhwng 14-25 mlwydd oed.

Pob lwc!

www.merthyrrock.com

Rowndiau Llynedd
Rownd Terfynol Llynedd
Cyfweliad gyda'r prif fand llynedd, The Blackout

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.