Xbox 360 Yn Erbyn PS3 Dibwynt
English Version
Nodyn Golygydd Cenedlaethol: 54 o sylwadau ers i hwn gael ei lwytho pedwar diwrnod yn l! Pwnc llosg go iawn. Cymera ran yn y ddadl o dan yr erthygl
Mae cystadleuaeth fawr rhwng ffans yr Xbox 360 a ffans y PS3 gyda’r ddau yn mynnu fod yn un yn well a’r llall yn ofnadwy.
Nawr dwi’n teimlo fod y gystadleuaeth yma yn wirion bost ac yn tynnu’r holl hwyl allan o chwarae gemau, gan fod yn ddau gonsol wedi’i dylunio ar gyfer hamdden a ddim angen y gystadleuaeth yma i gyd. Mae’r ddau gonsol efo miloedd o ffans sydd yn cymryd dim sylw ac yn mwynhau chwarae’r gemau fel y maent i fod i gael eu chwarae. Ond mae’r ddau hefyd efo miloedd o ffans sydd yn mynnu fod y consol arall yn ofnadwy ac os nad wyt ti’n cytuno yna ti’n dwp.
Mae’r ddau gonsol yn dda mewn gwahanol ffyrdd a dydy’r un ohonynt yn well ym mhob peth, felly mae’r ddau yn dda am wahanol resymau:
XBOX 360
*Grt i chwarae gyda dy ffrindiau i gyd diolch i’r system parti syml a hawdd i ddefnyddio.
*Mae chwarae gemau ar-lein mor syml gwthio botwm ac rwyt ti ar-lein ac yn chwarae gyda phobl o amgylch y byd.
*Gemau unigryw gwych fel HALO (1, 2, 3 a REACH), Gears Of War (1, 2 a 3 ar y gweill), Ninja Gaiden 2
PS3
*Graffeg wych yn gwneud yn gonsol grt ar gyfer chwarae RPG unigol.
*System amlgyfryngau gwych yn ei wneud yn anhygoel i wylio ffilmiau a chlipiau fideo.
*Gemau unigryw gwych fel Little Big Planet, Kill Zone (1, 2), Metal Gear Solid 4, SOCOM Confrontation, Massive Action Game (M.A.G)