Wythnos Gwaith Ieuenctid
Wythnos Gwaith Ieuenctid
Tachwedd 1 7
Yn ystod wythnos gyntaf mis Tachwedd, mae digwyddiadau yn cael eu cynnal dros Gymru fel rhan o ddathliad cenedlaethol o waith ieuenctid o’r enw Wythnos Gwaith Ieuenctid.
Nid digwyddiadau sydd yn digwydd am wythnos yn unig yw'r rhain gyda llaw: pwrpas Wythnos Gwaith Ieuenctid ydy i wneud pobl yn ymwybodol o’r gweithgareddau i gyd sydd ar gael i bobl ifanc bob wythnos dros Gymru.
Mae’n dangos i bobl eu bod yn gallu dysgu sgiliau newydd tra maent yn cael hwyl, a bod y rhain yn gallu arwain at gymwysterau a thystysgrifau fel y Wobr Dug Caeredin a hyd yn oed NVQ’s sydd yn gallu dy helpu ymhellach ymlaen.
Yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid bydd grwpiau a phrosiectau ieuenctid dros y wlad yn dangos i bobl beth maen nhw yn ei wneud.
Bydd rhywbeth i bawb: i’r rhai creadigol bydd digonedd o gerddoriaeth, arlunio a chrefftau, gwneud ffilmiau a gweithdai drama. I’r rhai sydd yn hoffi chwaraeon bydd digonedd o weithgareddau awyr agored. Pwynt y holl beth ydy i gael hwyl efo dy ffrindiau, trio pethau newydd a gwneud ffrindiau newydd hefyd.
I weld beth sydd yn mynd ymlaen yn agos i ti, cer i’r wefan a chlicia ar y tudalen gweithgareddau.
Maen nhw’n dweud: Tra ti’n pori ein gwefan, edrycha ar ein tudalen gyrfaoedd hefyd! Mae cymaint o bobl ifanc yn cael amser mor dda gyda ni, maen nhw yn sylweddoli’n sydyn pa mor wobrwyol gall gyrfa fel gweithiwr ieuenctid fod. Felly rydym wedi cynnwys pecyn gyrfaoedd llawn gwybodaeth i ti lawr lwytho. Cer i weld.
Linciau
http://www.nya.org.uk/youth-work-week-2010
Gwybodaeth >> Cyflogaeth A Hyfforddiant