Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Un Ymhob Pump Ohonom Yn Teimlo'n Bryderus Llawer O'r Amser Neu Drwy'r Adeg

Posted by Tom (Sub-Editor) from Cardiff - Published on 16/05/2014 at 09:19
0 comments » - Tagged as Education, Health, People, Topical, Yn Gymraeg

  • Merch mewn cysgod gyda'i phen yn ei llaw

English version // Yn Saesneg

Cafodd yr erthygl hon ei hysgrifennu mewn ymateb i'r adroddiad diweddar ar bryder gan y Sefydliad Iechyd Meddwl, cafodd ei ryddhau i farcio Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yr wythnos yma. Mae'r adroddiad yn dweud bod un ymhob pump ohonom yn teimlo'n bryderus llawer o'r amser, neu drwy'r adeg. Yma, mae person ifanc yn cynnig ei feddyliau ar bryderon a'i ganfyddiad poblogaidd, ac, yn dilyn ymchwil personol helaeth, yn archwilio'r achosion, canlyniadau gwir ac 'gwrthwenwyn' i bryder.

'Mae pawb yn pryderu.'

Mae hwn yn frawddeg annodd i lawer sydd yn dioddef yn ddrwg gyda phryder. Pam mod i'n dioddef mwy nag eraill? Pam bod eraill yn dweud fod fy nioddef i'n ddychmygol ac yn labelu fi fel bod yn "wan" ac fel rhywun sydd "methu ymdopi"? Oes rhywbeth gwahanol yn digwydd i mi nag i eraill?

Y gwir ydy fod pawb yn teimlo pryder ar ryw bwynt yn eu bywydau, felly beth mae hyn yn ei olygu i'r datganiad hwn, i'r  naratif yma ac i'r dioddefwyr? I ateb hyn, mae'n rhaid i ni gysidro rhai o'r gwirioneddau mawr eraill, sydd yn aml ddim yn cael eu clywed, yn aml yn cael ei anwybyddu gan rai sydd ddim yn dioddef ac yn aml yn cael ei guddio gan y dioddefwyr sydd â chywilydd ac yn unig yn gymdeithasol. Mae rhai pobl yn naturiol yn cael mwy o feddyliau pryderus nag eraill, mae rhai yn teimlo mwy o deimladau pryderus nag eraill, mae gwahanol bobl yn ymateb i wahanol sbardun pryder, ac mae rhai gwir ddioddefwyr yn teimlo pryder dwys am ddim rheswm amlwg. Pan fydd pryder yn cael gafael ar y dioddefwyr, mae'n gwneud hynny gallai i fwydo ei hun a chadw i fynd. Felly, nid yw'n bosib dweud yn syml wrth rywun ysgwyd y pryder i ffwrdd. Dyw'r bobl anwybodus a/neu nawddoglyd yna sydd yn dweud "tyrd drosta ef" neu "paid â chynhyrfu" ddim yn sylweddoli bod eu geiriau, yn union fel yr hunan-araith parhaus yna dwi'n siŵr bod y mwyafrif o ddioddefwyr pryder yn mynd drwyddo pob tro byddant yn cael eu taro gan don o deimladau pryderus, yn cael effaith cyfyngedig iawn. Y gwir ydy bod bioleg wedi cymryd drosodd. Fedri di ddim siarad geiriau i dy gemegau-niwro adrenalin. Mae dy lais pryderus yn uwch nag unrhyw lais sydd yn ceisio rhesymu gyda thi. Mae pryder yn afresymol gynhenid ac yn cynnal ei hun nes bydd y "perygl" amlwg yn pasio. Golygai hyn bod ceisio rhesymu gyda rhywun sydd â phryder, hyd yn oed os mai ti ydyw, yn dasg ddi-werth. Felly, dyw pryder nid yn unig yn wir ac wedi'i selio ar gemegau, ond mae hefyd yn gallu bod yn erchyll tanbaid, yn cyfyngu bywyd ac yn anodd iawn i gael allan ohono. Gallai arwain at iselder, hunan-gasáu, a diffyg hunanhyder a hyd yn oed hunan laddiad, ond ni fydd yn dy ladd di ei hun, beth bynnag mae dy feddwl pryderus yn ei ddweud wrthyt ti.

Yn rhoi mwy i ti: 'mae gwrthwynebiad yn ofer!'

Y newyddion da ydy bod yr un fioleg sydd yn creu ac yn cynnal pryder hefyd yn dod â'i derfyn ac yn gallu rhoi heddwch parhaol i ti. Er bod meddyliau pryderus yn parhau, maent yn gallu llifo drwy dy feddwl yn llai aml ac yn arafach nag y maent nawr, yn syml drwy beidio gwrthwynebu cymaint. Pam ddim gwahodd nhw i mewn rŵan hyn? Os bydda ganddynt feddwl eu hunain, byddant yn dweud "Rydym yn anfodlon i wneud hynny gan nad oes pwynt; fedrwn ni wneud dim i ti nawr!" Byddi di'n darllen ymhob llyfr neu siwrnal pryder neu daflen gwybodaeth hunangymorth nad oes gwellhad hud ar gyfer pryder' neu 'nid oes gwellhad llwyr ar gyfer pryder'. Yn anffodus, byddi di'n darllen fy ngeiriau nesaf gydag anesmwythder, ond bydda'n barod, mae heddwch ar yr ochr arall: mae'r ddau ddyfyniad yma yn gywir. Nid oes posib cael gwared ar bryder yn gyfan gwbl. Mae cael rhai meddyliau a theimladau pryderus yn normal. Nid oes posib stopio nhw os ydynt yn ceisio dod i mewn. Mae doethineb wedi dysgu i ni ers milenia bod y pethau nad oes posib stopio yn brifo llai os ydym ni'n eu derbyn. Mae pobl sydd yn dioddef poen hir dymor yn aml yn cael math o ryddhad os ydynt yn derbyn y boen. Dwi'n dyfalu nad ydynt wedi sylweddoli bod peth o'r boen yn dod o wrthwynebiad a bod peth ohono yn dod o atgof. Nid yw hyn yn gymorth dychmygol; am fisoedd, blynyddoedd, degawdau hyd yn oed, mae'n bosib dy fod di wedi ychwanegu i'r boen yna pan nad oedd rhaid i ti. Roedd ceisio cael gwared â'r boen yna yn chwyddo'r ffocws arno ond hefyd yn cynhyrchu gwrthwynebiad, sydd yn boen yn ei hun. Felly pam ydym ni'n gwrthwynebu o gwbl?

Pam bod ni'n ymladd? Y trap.

Rydym ni'n gwrthwynebu dim ond am ein bod yn meddwl bod pryder yn ceisio dod i mewn a "dal ni". Rydym yn meddwl efo pryder, nad fyddem yn gallu ymdopi. I'r wraig neu ŵr tŷ modern sy'n cael ei orlethu gan waith tŷ, maethu plant, nyrsio problemau priodasol ac efallai yn cael profiadau straen cyflogaeth ran-amser neu lawn amser, mae straen yn ei hun yn gallu bod yn gyfyngol. Mae'n gallu lleihau ein gallu i feddwl yn glir ac yn effeithiol, mae'n gallu cadw ni "yn brysur bob tro ond yn cyflawni dim" neu "wastad yn mynd i rywle ond ddim yn cyrraedd unlle", a gallai flino ni'n lân. Am y rhesymau yma, efallai bydd y wraig neu ŵr tŷ gorlethol a dan straen eisiau cael gwared â'r straen yma neu flocio'r straen o ddigwydd. Ond dim ond bwydo'r straen mae hyn. Mae pryder, fel iselder, yn fath o straen, felly mae'r goblygiadau o hyn yn bellgyrhaeddol.

Yn yr un ffordd, efallai bod y person cymdeithasol pryderus yna, sydd yn rhywun sydd ag ofn dwys o bobl, grwpiau o bobl ac/neu berfformio o'u blaen, yn efallai'n bwydo ei ofn wrth geisio stopio ofn rhag digwydd yn y lle cyntaf. Os yw hyn yn ymddangos yn afresymegol ar yr arwyneb, wel, efallai ei fod o: ti'n ymladd tân efo tân. Ond gad i mi ddangos i ti pa mor rhesymol a hawdd ydyw i gael i mewn i gymaint o smonach. Mae gen ti gyflwyniad mawr yn y gwaith neu yn gorfod rhoi dy law i fyny i ateb cwestiwn o flaen y dosbarth cyfan cyn i ti gael mynd adref o'r ysgol. Ti'n sylwi ar bobl yn gwylio ac yn gwrando arnat ti, ti'n ofni "cael o'n anghywir", ac yn ddwfn i lawr ti'n ofni edrych fel ffŵl a theimlo cywilydd neu arwahanrwydd cymdeithasol o ganlyniad. Ti'n teimlo pryder. Yna ti'n sylwi bod yr "aflwyddiant" yma ti'n ei ofni yn fwy tebygol o ddigwydd am fod gen ti lefelau uchel o bryder; gall dy galon di guro allan o dy frest a tharo dy athro yn ei wyneb, mae dy anadlu di wedi mynd yn wyllt a ddim eisiau gwneud pethau'n hawdd i ti siarad, fedri di ddim meddwl yn glir bellach heb sôn am feddwl am ateb. Ti ddim yn gwybod o ble mae'r teimladau'n dod nac sut i'w stopio, nid yw'n ymddangos fel bod gen ti ddigon o amser i gael gwared arnyn nhw cyn "dy dwrn di" a ti'n ceisio ymladd nhw gyda dy holl gryfder. Ond, fel uchod, dim ond bwydo'r straen mae hyn.

Tu hwnt i 'ychwanegol': 'y gwrthwenwyn byd-eang'!

Yn y ddwy esiampl uchod, mae bwydo straen gyda mwy o straen yn cael yr effaith o dyfu'r straen ac, yn bwysig, dyma'r unig reswm pam bod straen yn cael ei gadw'n fyw o gwbl. Wrth gwrs, mae'r esiamplau yma yn gorfod cael eu darllen mewn llais straen mewnol uchel, efallai hyd yn oed sgrechian, sydd yn stopio ni rhag teimlo fel "diffodd popeth yn syml" fel mae rhai efallai yn awgrymu. Mae hwn yn bwynt arall yn yr erthygl yma ble fyddi di'n teimlo mwy o banig, gan fy mod i wedi disgrifio "trap" ofnadwy. Mae'r comas gwrthdroëdig yn bwysig yma gan mai dim ond trap ymddangosiadol ydyw; un penodol o anodd i weld ffordd allan ohono tra bod dy lais straen uchel yn gweiddi arnat ti a ti'n cael dy fombardio ar yr un pryd gan don fawr o deimladau straen ofnadwy o ddwys. Ond parha i ddarllen, gan fod heddwch o afael straen wir y bodoli. Hyd yn hyn, dwi wedi disgrifio pam bod straen yn cynyddu pan ti'n ei wrthsefyll, felly'r rhagdybiaeth ydy ei fod yn lleihau rhywfaint pan ti'n peidio gwrthsefyll. Ond, mae derbyniaeth, sydd yn aml yn cael ei ddisgrifio fel 'gwrthwenwyn byd-eang' i straen, gan gynnwys pryder (noda: nid 'gwellhad'), yn gwneud mwy nag troi gwres straen i lawr, mae'n gallu diffodd y boen yn gyfan gwbl; mae'n gallu darparu heddwch sydd yn parhau ac o fewn rhwymau normal straen e.e. y lefelau rydym ni'n iawn efo nhw neu hyd yn oed yn eu mwynhau. Ond, nid yw'n lladd yr ofn o'r ofn yn unig, mae'n gallu lladd yr ofn hefyd. Bydd digon ar ôl i gadw ni'n ddiogel ond i beidio achosi niwed na chyfyngiad o gwbl. Efallai, yn syndod, mai yng nghalon y frawddeg eithaf plaen yma mae'r allwedd i ddatgloi straen a chelwyddau derbyniaeth: rhaid i ni gysidro pam bod gennym straen i weld pam bod derbyniaeth yn gweithio. Mae'n eithaf clyfar; mae'n cadw ein rhywogaeth yn fyw hyd yn hyn.

Pam bod derbyniaeth yn gweithio: pwrpas straen...

Pwrpas poen a straen, gan gynnwys pryder, ydy i'n rhybuddio a'n paratoi ni ac i'n cadw ni'n ddiogel yn y pen draw. Pan rydym mewn sefyllfa wir beryglus, mae'r corff angen system larwm a mecanwaith effeithiol i'n paratoi ni i ymateb mewn ffordd fydd yn achub ein bywyd. Mae'r ymateb yma angen bod yn sydyn felly mae'n isymwybodol a dim yn cael ei arafu gan ein meddwl ymwybodol. Ein datrysiad achub-bywyd, rydym wedi'i ddefnyddio ers dechreuad ein rhywogaeth, ydy ymladd neu ffoi. Dychmyga arth mawr ar ein holau neu dychmyga un o'n rhywogaeth yn ymosod arnom neu ein plant... byddwn ni eisiau ymateb mor dda ag y gallem, na fyddem?! Wel, mae'r corff yn ein paratoi ar gyfer y mecanwaith goroesiad ymladd neu ffoi yma mewn sawl ffordd. Mae'n ein pwmpio gydag adrenalin i roi pob math o allu siwper i ni, mae'n ein gwneud yn hynod wyliadwrus i ni gael adnabod holl fygythiadau, mae'n cael mwy o ocsigen i mewn i'r corff drwy anadlu yn fwy dofn, mae'n pwmpio'r gwaed yn fwy sydyn o gwmpas y corff, ac ymlaen. Mae hyd yn oed yn cael gwared ar hylifau gormodol drwy chwysu a stopio gwastraffu egni ar y bledren ac felly'n gadael i ni bi-pi ein hunain! Os wyt ti'n meddwl bod gormod o bwyslais ar adrenalin, yna gwranda ar y stori yma. Yn 2012 roedd tad yn Virginia, America, o'r enw Alex Kornacki, yn trwsio rhywbeth o dan ei gar pan lithrodd y car oedd wedi'i godi a disgyn ar ei ben. Rhedodd ei ferch 22 oed, Glen Allen, i'w achub ac, gyda chryfder goruwchddynol, cododd y car oddi arno a llwyddo i berfformio CPR arno i achub ei fywyd. Maent yn galw hyn yn gryfder hysterig. Pwy feddyliodd bod straen yn gallu bod mor ddoniol? Wir, diolch byth am y mecanwaith goroesi yma. Y prif bwynt ydy bod y mecanwaith yma yn dy amddiffyn ond bydd dy gorff ddim ond yn ymateb yn y ffordd yma os wyt ti'n trin sefyllfa neu'r syniadau ingol yna fel bygythiad. Felly, os wyt ti'n derbyn syniadau a theimladau ingol, mae dy gorff yn eu hystyried fel "dim bygythiad" ac mae'n diffodd ei ymateb rhagbaratoawl - yn stopio paratoi ti ar gyfer ymladd neu ffoi ac yn mynd yn ôl i "normal". Dyma pam mai derbyniaeth ydy dy ffordd allan o straen, gan gynnwys pryder.

Synthesis: "Pwy sy'n ddi-rym nawr?!"

Yn ffodus, nid yw'r mecanwaith amddiffynnol angen dim gwaith ar ein rhan ni, gan fod ein meddwl isymwybod pwerus dwys yn cymryd rheolaeth ac yn ein hamddiffyn, yn aml cyn i ni fedru cael amser i feddwl yn ymwybodol. Ond, pan fydd y mecanwaith achub bywyd pwerus yma yn digwydd yn y lle anghywir, pan nad oes bygythiad go iawn, yna gallai fod yn cyfyngu ar fywyd a ddim yn amddiffyn bywyd. Felly, mae'r frwydr mae pob dioddefwr straen yn ei wynebu bob dydd yn un ymddangosai fel bywyd neu farwolaeth. Hyd yn oed os nad fydd y straen yn dy ladd a hyd yn oed pan nad oes bygythiad go iawn; mae dy gorff yn ymddwyn fel petai dy fywyd mewn perygl. Os nad yw'r sefyllfa yn un gwir bygythiol, yna mae'n atgyfnerthu'r pwynt mai ein dehongliad ni o'r sefyllfa sydd yn ei wneud yn "fygythiad". Ein hymateb i straen sydd yn bwysig, nid y straen ei hun. Y gwerth a'r pŵer rydym yn ei roi i'r straen sydd yn rhoi unrhyw bŵer o gwbl iddo, gan nad oes ganddo ddim. Bob tro bydd straen ar ei waethaf, mae'n ymddangos yn fwy aml ac yn parhau yn hirach, am ein bod yn ei drin fel "bygythiad" (hyd yn oed pan nad oes un) ac rydym yn ceisio'u hatal rhag dod i fyny neu fod yno. Bob tro mae gennym deimladau gwan a thonau anaml ohonynt, mae hyn oherwydd ein bod wedi'u derbyn (a'r meddyliau maent wedi selio arnynt), sydd yn eu gwneud yn "ddim bygythiad" ac mae'r corff yn ymddwyn fel y dylai. Y gwir ydy bod y corff bob tro'n ymddwyn fel yr wyt ti'n dweud wrtho, dim ond dy fod di'n siarad ag ef yn yr iaith gywir. Felly gad iddo fynd; dim ond yr ofn nad fydd yn gweithio sydd yn gwneud i ti gadw gafael, ond y gollwng sydd yn lleihau'r ofn! Mae straen, gan gynnwys pryder, yn bleser, nid yn fygythiad, ond os ydym ni'n ymddwyn fel arall, bydd ein corff dibynadwy yn gweithio i'n hamddiffyn rhagddo.

Trafferthion y dyfodol: Yr Ail Ddyfodiad a'r "Newyddion Da"

Hyd yn oed pan fydd y dioddefwr straen wedi gwneud cynyddiad da, maent yn cael eu twyllo gan ddychweliad straen i feddwl bydd hyn wastad yn broblem. Ond, dim ond gwrando ar lais pryder maen nhw! Mae'r dychweliad yma yn dal yn rhan o ddyletswyddau amddiffyn y corff. Nid fydd yn rhoi'r gorau arnat ti, felly bydd meddyliau a rhai teimladau bob tro'n digwydd; paid dychryn pan fydd mwy yn codi. Y peth gwaethaf gallet ti wneud ydy ceisio cael gwared arnynt i gyd. Cofia, nid oes posib cael perffeithrwydd beth bynnag, felly mae gwrthwynebiad yn ofer. Mae'r straen yma'r un peth â chynt, felly gall ymdopi ag ef yn yr un ffordd: os wyt ti'n parhau i adael iddo, mae'n pasio o hyd. Newyddion hyd yn oed gwell ydy bod straen bob tro'n mynd ar sail ei hun os wyt ti'n gadael iddo (a dyna pam dweud "gad iddo fynd"), a bydd yn parhau i basio, a bydd y meddyliau yn dod yn ôl yn llai aml hefyd. Felly, mae hwn yn stori "newyddion da". Pan rydym yn cychwyn ar y cylch positif yma, mae straen wedi colli ei afael arnom yn barod, ac rydym mewn rheolaeth yn barod (fel y gallem fod bob tro), ac rydym yn gwella yn gynyddol mewn ffordd hunan-fythol. Felly, mae'r pŵer o'r cylch straen yn gweithio dwy ffordd, ond mae'n cymryd amynedd iddo weithio i ti. Ond, pan fydd, byddi di'n feistr ar un o'r teclynnau mwyaf pwerus (noda: nid gwellhad) yn y byd. Mae'n well na hynny hefyd...

Gwelliant hirdymor: sensiteiddio a dadsensiteiddio

Y pwynt diwethaf ydy bydd cryfder tonau teimladau straen awtomatig y dyfodol yn gallu lleihau. Tra bod posib eu lleihau pan gyrhaeddant, gall hefyd leihau pa mor gryf byddant yn cyrraedd yn y lle cyntaf. Ond, i ddeall pam bod hyn yn digwydd mae angen i ti ddeall pam ti’n cael y teimladau awtomatig i gychwyn. Ti'n cael teimladau awtomatig am fod dy gorff wedi sensiteiddio i beth mae'n ystyried fel bygythiad. Cyn gynted ag y byddi di'n mynd i sefyllfa neu'n cael syniad, atgof neu hyd yn oed arogl rhywbeth oedd unwaith yn cael ei drin fel bygythiad, bydd dy gorff yn ymateb i baratoi ti ar gyfer ymladd neu ffoi, rhag ofn i'r "bygythiad" ail-ddigwydd. Mae hyn i baratoi ti cyn gynted, ac mor dda, â phosib ar gyfer y "bygythiad". Os byddem yn cerdded i mewn i'r ffau eirth mawr yn y Sŵ ar ôl wynebu un o'r anifeiliaid mawr cynt, bydd ein corff yn ymateb i'n paratoi ar gyfer yr arth cyn iddo ymddangos. Yn debyg, os ydym ni'n perfformio ymarfer corff neu ymestyn penodol sydd wedi achosi niwed o'r blaen, efallai byddem yn cael poen yn y man yna eto i rybuddio ni rhag niwed potensial, hyd yn oed os nad ydym yn gwneud niwed i'n hunain ar y pryd. Mae'n glyfar iawn. Ond, golygai hyn fod rhywun sydd yn dioddef o bryder cymdeithasol yn gallu cael teimladau o bryder dwys iawn drwy fod mewn ystafell efo pobl eraill ar ôl un profiad drwg yn y gorffennol ac/neu yn cael teimladau pryderus iawn drwy gael meddyliau pryderus, fel "Beth os na allaf weithio na pherfformio gyda phryder?" Felly, ble mae'r newyddion da?

Yn gyntaf, cofiwch er ei fod yn awtomatig, dyw'r teimladau yma ddim yn broblem am eu bod yn pasio os wyt ti'n eu derbyn - mae'r corff yn diffodd i'r bygythiad. Yn ail - y darn allweddol yma - os wyt ti'n ymarfer derbyniaeth yna mae'r corff yn dod i arfer â diffodd i'r "bygythiad" ac yn dod i arfer â'r syniad ei fod yn llai o fygythiad nag yr oeddent wedi meddwl. Golygai hyn, y tro nesaf fyddi di yn yr un sefyllfa neu yn cael yr un meddyliau, atgofion ac/neu arogleuon, mae'r corff yn ymateb llai yn awtomatig, felly ti'n derbyn teimladau gwannach yn awtomatig. Cofia, mae'r cylch straen yn gweithio'r ddwy ffordd felly byddi di'n gwella'n raddol mewn ffordd hunan-barhaus, ond dim ond os wyt ti'n cadw ati ac yn parhau i ymarfer. Efallai byddi di'n gofyn, pa mor bell gall y lleihad mewn teimladau fynd? Wel, mor bell ag sydd yn "normal" ac yn ddiogel i ti fynd, heb amharu ar dy fywyd. Ni fyddant yn dy stopio rhag gwneud beth wyt ti eisiau gwneud ac efallai bydd yn rhoi digon o adrenalin ac ymwybyddiaeth uwch i roi'r awch yna i ti. Yr awch yna ydy'r un awch mae cyfreithwyr yn ceisio rhoi i'w hunain trwy bigo'u hunain gyda phin cyn achos llys, fel y gallent fod ar flaen y gêm. Dyheu amdano. Nid yw'n ddigon i stopio nhw rhag cymryd rhan neu'n chwarae eu gêm. Felly parha; bydd mwy o straen yn dod, ond os wyt ti ddim yn ei wrthsefyll, bydd yn pasio, ac, dros amser, bydd yn dod yn haws fyth.

Felly, paid â phoeni!

Nodyn is-olygydd: Os wyt ti angen help neu gyngor ar straen, gan gynnwys pryder neu iselder, cysyllta â Meic ar-lein, ar y llinell gymorth 080880 23456, neu neges testun ar 84001. Mae'r holl gyngor am ddim ac yn gyfrinachol. Amcangyfrif er mai straen yw'r peth gweler fwyaf aml gan ddoctoriaid, dyw hanner y rhai gyda straen ddim yn cael eu gweld. Gall dy feddyg teulu roi cyngor i ti a rhoi ti mewn cysylltiad â Gwasanaeth Cefnogol Iechyd Meddwl Cynradd Caerdydd a Bro Morgannwg, sydd yn cynnig amrywiaeth fawr o gymorth yn canolbwyntio ar adferiad a chyrsiau newid bywyd, am ddim.

Perthnasol:

Erthyglau Perthnasol:

Delwedd: Reinekaos trwy Compfight cc

Egluryn fideo: Mae'r 'gwrthwenwyn' yma yn debyg i'r fideo enwog Sefydliad Iechyd y Byd, 'I had a black dog, his name was depression'.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.