Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Trethu'r Ystafell Wely

Posted by National Editor from National - Published on 27/08/2013 at 14:14
0 comments » - Tagged as People, Topical

  • llofft

English versiion // Yn Saesneg

Mae'r gyfres yma o erthyglau yn edrych ar yr effaith o'r Diwygiad Lles (Welfare Reform) ar bobl ifanc. Mae yna cymaint o wybodaeth allan yna fel ei bod yn amhosib crynhoi popeth i mewn i un erthygl, ond os oes gen ti unrhyw gwestiynau siarada gyda MEIC – maent yn disgwyl am dy alwad, neges testun neu neges sydyn trwy'r dydd bob dydd. Os oes gen ti brofiad o'r dreth ystafell wely i rannu, gad sylwad isod.

Diwygiad Lles: Treth Ystafell Wely – Effaith Ar Bobl Ifanc a Deiliaid

"Dywedodd mam wrtha i symud allan, am ei bod hi'n rhatach iddi dalu'r dreth ystafell wely na thalu treth cyngor iawn." – Jade, Glyn Ebwy.

Ar 1 Ebrill eleni, cyflwynodd Llywodraeth Prydain y dreth ystafell wely. Golygai hyn bod budd-daliadau tai yn cael ei gwtogi i gartrefi sydd efo ystafell sbâr.

Ond sut fydd hyn yn effeithio pobl ifanc? Yn yr hir dymor dim ond amser a ddengys, ond mae yna ychydig o ffeithiau a rheolau sylfaenol i'r dreth fydd yn helpu ti i ddeall sut gallai gael effaith arnat ti a dy gartref.

Sut Fydd Pobl Ifanc Yn Cael Eu Heffeithio Gan Dreth Ystafell Wely?

Gallai pobl ifanc sydd yn byw yn annibynnol mewn tai cymdeithasol gael eu heffeithio. Bydd pobl ifanc sydd yn byw gyda'u teulu mewn tai cymdeithasol efallai yn darganfod bod y teulu yn tan feddiannu ac efallai bydd gofyn iddynt helpu yn ariannol i helpu talu'r rhent 'coll'. Mae posib bydd gofyn ar berson ifanc sydd wedi gadael cartref i ddychwelyd er mwyn llenwi'r 'ystafell wely' sbâr.

Newidiadau Allweddol i Fudd-daliadau Tai Cymdeithasol

Mae'r sector rhentu cymdeithasol yn cyfrannu at 70% o'r holl hawlwyr budd-daliadau tai. Mae'r llywodraeth yn:

  • Amcangyfrif bod un filiwn o ystafelloedd gwely ddim yn cael eu defnyddio yn y sector, gyda chost o £0.5 biliwn yn flynyddol
  • Dweud bod ychydig iawn o gymhelliant (cyn y dreth ystafell wely) i bobl symud o eiddo sydd yn 'rhy fawr'.
  • Gofyn 'pam defnyddio arian cyhoeddus i gefnogi ystafelloedd gwely gwag mewn cyfnod o enciliad (recession) ac argyfwng tai honedig?'

Felly mae pobl mewn eiddo gydag un llofft na ddefnyddir wedi cael gostyngiad o 14% yn eu budd-daliad tai, tra mae'r rhai sydd â dau neu fwy o lofftydd na ddefnyddir yn wynebu gostyngiad o 25%. Amcangyfrif bod 660,000 o hawlwyr budd-daliadau tai sy'n byw mewn eiddo rhent cymdeithasol yn byw mewn tai sydd yn rhy fawr ar gyfer eu hanghenion. Amcangyfrif bydd £480 miliwn yn cael ei arbed o'r dreth ystafell wely yn 2013/14.

"Mae dad yn gorfod darganfod 25% o'i rent ar gyfer ei dÅ·." – Eddie (23), Cwmbrân

Beth Sydd Yn Cyfri Fel Ystafell Wely?

Mae pob awdurdod lleol yn gorfod penderfynu ar y nifer o ystafelloedd gwely, ac felly yn gorfod penderfynu os ydy ystafell yn llofft. Nid oes diffiniad o 'ystafell wely' mewn rheolau na chyfraith achos, ond mae yna ddwy ffordd o benderfynu os ydy ystafell yn llofft:

  1. Sut bydda'n cael ei ddisgrifio os yn wag? neu
  2. Sawl llofft o wir ddefnydd tenantiaid

Gall maint ystafell hefyd fod yn berthnasol. Mae Deddf Tai 1985 yn dweud bod ystafelloedd sydd yn llai nag 4.64 metr sgwâr yn eithriedig.

Sawl Ystafell Wely Sy'n Dderbyniol?

Mae llofft i bob un o'r canlynol yn dderbyniol:

  • Cwpl sydd yn oedolion
  • Unrhyw oedolyn arall dros 16
  • Dau blentyn o dan 16 (o'r un rhyw)
  • Dau blentyn o dan 10 (gwahanol ryw)
  • Unrhyw blentyn arall
  • Gofalwr sydd ddim yn breswylydd
  • Mae gofalwr maeth cymeradwy yn cael llofft ar gyfer plentyn maeth
  • Mab/merch sydd yn y fyddin ond yn parhau i fyw cartref

Oes Unrhyw Eithriadau?

  • Myfyrwyr absennol (hyd a 52 wythnos i ffwrdd)
  • Person annibynnol yn y lluoedd arfog (gyda'r bwriad o ddychwelyd)
  • Pobl dros oed gweithio (61 a hanner o Ebrill 2013)
  • Rhai mewn llety dros dro
  • Perchnogaeth a rennir
  • Pobl mewn llety cefnogol eithriedig (ble mae'r landlord hefyd yn darparu gofal, cefnogaeth a goruchwyliaeth i'r tenant)

"Diwrnod o'r blaen, roedd mam mewn dagrau yn ofni'r dreth ystafell wely newydd, a beth ydym ni am wneud gan fod gennym ni ystafell ychwanegol yn ein cartref." – Chris (18), Caerdydd.

Pa Opsiynau Eraill Sydd Ar Gael I'r Rhai Effeithir?

Mae'r Llywodraeth wedi awgrymu sawl dewis:

  • Symud i dÅ· llai gyda'r un landlord
  • Symud i'r sector rhentu preifat
  • Cael lletywr (mae'n rhaid i'r landlord gytuno ac mae'r incwm yn effeithio budd-daliadau)
  • Gofyn i aelodau eraill o'r teulu i helpu
  • Cael gwaith neu weithio mwy o oriau i gynyddu cyllid

Ond gallet ti hefyd:

  • Cysylltu â Chyngor Ar Bopeth i sicrhau dy fod yn cael yr holl fudd-daliadau rwyt ti â hawl iddynt fel arian i helpu ti gyda chostau anabledd.
  • Ceisio gofyn i dy landlord i newid ystafell sbâr i mewn i ystafell amhenodol os wyt ti'n meddwl ei fod yn benodol o anaddas i fod yn ystafell wely. Er esiampl, efallai byddant yn cytuno i wneud hyn os ydy'r ystafell yn fach iawn neu yn gorfod cael ei ddefnyddio fel ffordd i gyrraedd ystafell arall. Golygai hyn na fyddai'n cael ei gysidro fel ystafell sbâr ar gyfer pwrpas Budd-daliadau Tai.
  • Gwneud cais i adran Budd-daliadau Tai y cyngor lleol ar gyfer Taliad Tai Dewisol. Ond, dim ond cyfanswm cyfyngedig o arian sydd ganddynt a bydd rhaid iddynt flaenoriaethu taliadau i denantiaid anabl lle mae'r tÅ· wedi cael ei addasu yn arbennig iddyn nhw, a thaliadau i ofalwyr maeth.

Ddim yn sicr beth wyt ti'n feddwl am y ar dreth ystafell wely? Ceisia ddefnyddio Cyfrifydd Ystafell Wely Cyngor ar Bopeth.

FFYNONELLAU

www.centrallondonconnexions.org.uk

Youth Access

Chester Benefits Training

Siop Wybodaeth Wrecsam

SEFYDLIADAU

Cyngor Ar Bopeth Cymru

Shelter Cymru (cefnogaeth 24 awr: 0845 075 5005)

Gwybodaeth – Cymdeithasau Tai

DELWEDD: H is for Home trwy Compfight cc

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.