Ti Dal Yn Y Gm
“Ellis. Mae hynna’n anhygoel. Hoffwn i os byddai’r byd i gyd yn gallu darllen be ti newydd ysgrifennu i mi a’i ddeall. Dwi’n meddwl na all dy gwrw mewnol aros yn gudd gan fod ganddo gymaint i ddweud sydd yn gwneud cymaint o synnwyr. Ti’n gwneud i mi wenu :)” Arnia Southworth, fy nghyfnither sy'n fyd o’r neilltu.
Dyna un o’r pethau gorau erioed sydd wedi ei ddweud wrthyf. Felly o’r geiriau yna dwi’n mynd i ysgrifennu llyfr, nid ar y funud hon ond wrth i mi fyw fy mywyd byddaf yn ysgrifennu. Dwi wedi cael fy ysbrydoli gan bethau a phobl allweddol, byddaf yn cyfeirio atynt ar l beth ti'n mynd i ddarllen nawr.
Cyflawniad
Cyflawniad ydy i ennill rhywbeth newydd. Ond dwi’n teimlo fel bod mwy iddo. Dwi’n credu fod cyflawniad yn dod o deimlad y tu fewn. Mae pobl yn ei anwybyddu ac yn chwilio am fwy, ond os wyt ti’n ei dderbyn ac yn meddwl amdano o ddifrif a’i theimlo hapusrwydd ydyw? Hyd yn oed yn y pethau lleiaf ti’n ei gael. Mae’n ymwneud gweld y byd a theimlo cyflawniad, hyd yn oed trwy fod yma yn unig.
Ti’n gweld babi, yn edrych o gwmpas ac yn gwenu, llygaid llydan gloyw? Mae hyn oherwydd y peth petryal mawr na draw acw, nid yw’n gwybod mai bys ydyw, ond mae’n bendant yn hoffi ei olwg! Mae popeth yn newydd iddo, a pan fydd yn dysgu beth ydyw, bydd yn sylwi arno unwaith eto, gallai adnabod ef ac felly mae wedi cyflawni, yn creu’r teimlad cyffrous yna sydd yn gwneud iddo wenu.
Y dyddiau hyn mae pawb yn diflasu ar beth maen nhw'n ei weld bob dydd, a ddim yn gweld y cyflawniad pam fydd yn taro nhw yn eu hwyneb. Mae’r diwydiant gemau cyfrifiadur wedi dod yn enfawr oherwydd y teimlad hwn. Mae lefel 2 yn gam i fyny o lefel 1, dyna gyflawniad. Fel mae Daniel Ilabaca yn esbonio mewn ffilm fer o’r enw Choose Not To Fall; “Dyna pam fod plant mor gaeth i gemau, gan ei fod yn ffordd hawdd o gyflawni.” Mae pl droed, rygbi a chwaraeon poblogaidd eraill hefyd yn cael yr effaith yma; mae’r chwaraewyr yn cyflawni beth mae’r mwyafrif eisiau, arian ac enwogrwydd. Felly mae’r fyddin o gefnogwyr yn dilyn pob cam, ac yn teimlo cyflawniad drwy gyflawniad y chwaraewyr. Er nad ydynt wedi cyflawni llawr eu hunain yn wirioneddol.
Dwi’n gofyn i bob person dwi’n ei gyfarfod am eu hobau, ac mae nifer yn dweud nad oes ganddynt un. Neu eu hobi ydy Facebook, neu Call Of Duty ar yr Xbox. Dyma’r pethau mwyaf yn eu bywydau. Ysgol? Crap. Dref? Crap. Cymaint o ddiffyg nwyd! Coda tri oren i fyny; gallet fod yn jyglwr am weddill dy fywyd. Coda bensel i fyny, gallet fod yn arluniwr.
Wyt ti’n cofio pam oeddet ti’n bedwar oed ac yn chwarae gyda dy ffrindiau? Gad i ni gogio bod yn hyn, yna gad i ni gogio bod yn hynny. Faint o hwyl oedd hynna? Yn union pa mor fach oeddet ti bryd hynny, mae’n cychwyn yna. Cychwyn yn fach ac mae’n tyfu. Pryna gitr, dysga un nodyn. Ti’n sicr o wella. Bydd y gerddoriaeth yn tyfu’n fwy ac yn fwy, yn union fel y gwnes di. Jyst chwarae! Chwarae gemau pan ti’n cerdded i lawr y stryd, edrycha i mewn i fyw llygaid dieithrion, gweld os gei di wen. Gofynna i’r ferch tu l i’r cownter yn Tesco sut mae hi, gofynna sut wythnos mae hi wedi’i gael. Y pethau fwyaf syml sydd yn gwneud deffro'n gyflawniad cyffrous.
Safbwynt Newydd?
Pa mor gryf ydy’r gadair yna ti’n eistedd arno?
Y rheswm dwi’n gofyn ydy i ofyn y cwestiwn nesaf.
Wyt ti erioed wedi sefyll ar gadair, ac wedi edrych o gwmpas yn iawn?
Nawr y cwestiwn hwn ydy ble mae’r ystyr. Dwi eisiau i ti sefyll ar dy gadair, ac edrych o gwmpas yn iawn. Edrycha ar beth sydd o dy amgylch. Meddylia am yr abnormaledd. Efallai dy fod yn gweld yr ystafell yma bob dydd, yn meddwl dim amdano, ond yn uwch i fyny ti’n sylwi ar eitemau gwahanol. Patrymau gwahanol. Efallai bydd yr ystafell hon yn dod yn llawer mwy diddorol, er dy fod wedi ei weld bob dydd am gyfnod hir. Nid yw’n wahaniaeth enfawr, ond mae’n rhoi safbwynt newydd i mewn i gyd-destun gweledol.
Erioed wedi gwneud pensafiad (headstand)? Neu wedi eistedd ar dy soffa wyneb i waered ac yn hongian dy ben ac edrych o gwmpas? Gwna hynny eto yn fuan, ond edrycha o gwmpas yn iawn y tro hyn. Mae’r byd yn anhygoel wyneb i waered. Paid meddwl amdanat fel bod yn wyneb i waered, meddylia mai’r llawr ydy’r to, ac mae popeth yn sownd iddo. Mae beth ti’n weld pob dydd yn dod yn llawer mwy diddorol. Yn mynd a ti yn l i pam oeddet yn blentyn.
Pan ti wyneb i waered, yn union fel yr oedd pan oeddet yn fach, ti’n dysgu am y byd unwaith eto. Pan ti wyneb i waered mae popeth ti’n ei weld yn newydd, felly mae’n rhaid i dy feddwl dod i arfer gyda phopeth. Dwi’n teimlo fod hyn yn gychwyn mawr i deimlo’n gartrefol o fewn dy hun, yn gwybod fod y byd o dy gwmpas ddim yn beth wyt ti. Ti ydy dy fyd, dy freuddwydion, dy atgofion, dy feddyliau.
Dwi’n aml yn dringo ar ben y toeau i wylio bywyd oddi tanodd. Pan ti’n gwneud hyn am dipyn ti’n dechrau sylwi sut mae bob person yn gln o’r llall. Maent yn syllu yn syth yn eu blaen, yn sylwi ar ddim wrth geisio cyrraedd pen taith mor gyflym phosib. Roeddwn i'r un peth unwaith, ond ar l dechrau meddwl yn wahanol mae tri gair syml wedi cael eu printio i mewn i’m meddwl, a byddent yno am weddill fy mywyd.
Edrycha I Fyny Mwy
Fe gychwynnais edrych i fyny a sylwi ar bethau nad oeddwn i erioed wedi eu gweld o’r blaen, llythrennau anferth, manylion, toeau, roeddent mor newydd a chyffroes! Fe wnaeth y dasg ddiflas o gerdded adref o’r ysgol yn brofiad hollol wahanol. Dydy pobl jyst ddim yn edrych. Ni welant y manylu, ddim yn teimlo’r graen. Nid ydynt yn gadael i’w hunain gael yr amser.
Ond mae un peth bob tro yn tynnu sylw i mi. Mae plant bob tro yn edrych i fyny. Mae ganddynt ddychymyg. Mae’n rhaid iddynt chwarae gyda’r coed, y waliau, y cathod a’r cŵn. Cofia pan oeddet ti’n chwarae ar ben dy hun? Y teimlad gwych o ddychmygu dy amgylchedd i gyd. Yn mynd i mewn i dy fyd. Yn dychmygu gwahanol senario i fywyd cyffredin. Dyma beth dwi’n siarad amdano; dyma beth dwi’n gweld plant yn ei wneud drwy’r adeg. Gall hyn fod yn rhywbeth i ti feddwl amdano y tro nesaf ti’n cerdded i ble bynnag ti’n mynd. I blentyn, mae bywyd yn gm.
Ti Dal Yn Y Gm
Paid byth a cholli hynna. Tyfa i fyny, bydda’r oedolyn, cael yr yrfa ond paid byth a cholli’r meddylfryd plentynnaidd. Y gm o fywyd. Bydda yn pwy wyt ti, bydda’n bopeth ti erioed wedi bod, ond ychwanega i’r gorffennol gydag ef. Rydym i gyd yn cael ein geni yn floc mawr o rew, mae pob profiad, ein gofidion; ein poen, yn arlunydd yn tsipio i ffwrdd ar y rhew. Ti’n troi i mewn i’r cerflun gwych ti wedi cael dy eni i fod.
Gall popeth dwi wedi’i ddweud fod yn ddim ond un diwrnod o dy fywyd; efallai gallet roi cynnig arni? Fy mwriad gyda’r llyfr efallai byddaf yn cyhoeddi un dydd ydy i wneud pawb sydd yn ei ddarllen yn gyffrous am ddeffro yn y bora. I gofio eu plentyndod a pa mor bwysig oeddent. Ddim yn cymryd y byd anhygoel hwn yn ganiataol.
Dyma gysylltiadau i rai o’r pethau byddaf yn siarad amdanynt:
www.whataboutme.tv - DymaOne Giant Leap, ffilm ddogfen gan Jamie Catto a Duncan Bridgeman. Wyt ti erioed wedi meddwl am un peth sydd yn cysylltu pob person ar y blaned? Mae’r bobl yma yn bendant wedi darganfod un. A cherddoriaeth ydy hyn. Darllena beth sydd ganddynt i ddweud, gwranda ar beth maen nhw wedi’i greu, gwylia’r fideos. Dwi hefyd yn annog ti i brynu’r DVD.
www.peacefulwarrior.com - Dyma wefan Dan Millman; mae’n awdur llyfr anhygoel o’r enw Way of the Peaceful Warrior. Stori wir sydd wedi newid bywydau. Darllena amdano ar y safwe hwn.
www.gabrielleroth.com - Dyma wefan Gabrielle Roth. Sylfaenydd y cysyniad ysgol ddawns pum rhythm. Mae wedi creu’r cysyniad o bum rhythm bywyd. Llifeirio, Stacato, Anrhefn, Telynegol ac Anrhefn. I ganolbwyntio ar y pwyntiau hyn yn dy fodolaeth ac i fynegi dy hun gyda dawns, gall ryddhau dy hun a dod yn berson llawer hapusach. Mae hwn hefyd efo nifer o straeon o fywydau ymarferwyr yn cael ei newid am y gwell.
www.danielilabaca.co.uk - Dwi hefyd yn ysgrifennu am y ddisgyblaeth o Parkour, a dwi’n credu mai’r dyn i fynd ato os wyt ti eisiau dod i adnabod Parkour ydy Daniel Ilabaca. Dyma ddogfen byr yn rhannu ychydig o’i eiriau - http://www.youtube.com/watch?v=nRSOe-rDa9Y
Dilyna dy freuddwydion, Ellis x