Teyrnged I Ŵr Bonheddig Unigryw Aamir Siddiqi
Fel yr ydych yn gwybod erbyn nawr mae’n debyg, bu colled trasig mawr i’r byd ar ddydd Sul 11eg Ebrill.
Dwi’n siarad am farwolaeth mab, marwolaeth brawd, marwolaeth gwr bonheddig oedd y person fwyaf cyfeillgar, caredig a chariadus dwi’n adnabod, a marwolaeth fy ffrind Aamir Siddiqi.
Doedden ni ddim mor agos hynna, sydd yn siom i mi, ond roeddwn i yn gallu galw o’n ffrind a hyd yn oed os nad oeddwn i’n gwybod am ei galon pur yn bersonol roeddwn i yn gallu ei weld drwy faint o bobl sydd wedi’i effeithio gan ei farwolaeth.
Felly dyma fy nheyrnged i ffrind nad oedd byth yn ffaelu gwneud i mi chwerthin bob tro roeddwn yn ei weld, pa un ai efo’i wybodaeth ecsentrig am y pethau fwyaf ar hap neu ei sylwebaeth cymhariaeth fisr lle'r oedd o’n cymharu ni i chwaraewyr ar hap yr Ail Gynghrair nad oedd neb yn eu hadnabod heblaw am ef.
Mae’n rhaid ei fod wedi bod yn darllen gwyddoniaduron ar yr un adeg ag oeddwn i yn siarad ag ef i allu amsugno'r holl wybodaeth roedd o’n synnu ni efo yn barhaol. Dwi’n cofio Aamir yn darllen y Financial Times pan oedd ym mlwyddyn 9 ac mae’n rhaid bod hynny wedi’i sbarduno iddo i sicrhau ei le cyfiawn yn astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd.
Parhaodd gyda’i gariad o chwaraeon ac roeddwn i bob tro’n difyrru pan oeddwn i’n chwarae pl droed gydag ef, pan glywais fy enw yn cael ei grybwyll ynghanol sylwebaeth hudol y tu l i mi. Hyd yn oed pan oeddem yn colli 29-1 erbyn hanner amser rydym ni wedi gwella erbyn nawr byddai Aamir bob tro yn oleuni o obaith, yn dweud rhywbeth fel, “Roedd Accrington Stanley Juniors unwaith i lawr o 30 gl erbyn hanner amser, ond fe lwyddon i dynnu fo’n l.”
Cafodd y gm bl droed teyrnged, ymddangosodd ar y sianeli newyddion mawrion i gyd, ei gynnal dydd Iau diwethaf ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Roedd yn wych gweld, hyd yn oed ar l I Aamir gael ei gymeryd oddi wrthym yn annheg, ei fod wedi ffeindio ffordd i ddod a phawb at ei gilydd a rhoi gwen ar ein hwynebau. Dwi’n cofio fel dirywiodd y gm yn araf bach i mewn i sgramblo mawr ac roedd pawb yn chwerthin ac yn gwenu, byddai Aamir wrth ei fodd efo hynny.
Ymunodd plismon oedd yn sefyll ar y llinell ochr ni hefyd wrth i’r gm 11 yr ochr droi i gm 50 yr ochr. Mae’n rhad fod yna gannoedd wedi dod at ei gilydd oedd wedi chwarae pl droed efo Aamir, yno i ddangos parch at wir ŵr bonheddig i’r carn. Statws diwethaf Facebook Aamir oedd “Diolch hogia' am ddiwrnod gwych.” Ar l i ni fod yn chwarae pl droed efo fo.
Felly Aamir, y cwbl byddwn yn hoffi ei ddweud ydy diolch. Diolch am wneud i fi chwerthin dwsinau o weithiau. Diolch am adael i mi fod yn ffrind i ti ac am loywi fy mywyd pam oeddwn yn gweld ti. Gobeithio fe welai di eto felly tan yr adeg yno hoffwn ddiolch i ti eto a dweud hwyl fawr. Fe gofiai’r tro diwethaf i mi dy weld ti am byth pam wnes di gyfaddef i fi fod ti wirioneddol yn darllen gwyddoniaduron.
Welai di cyn bo hir, fy ffrind.