Taith Urdd Mon i Gatalunya, Sbaen a Barcelona
Fis Gorffennaf eleni, bu rhai o aelodau Bl 9 a 10 yr Urdd yn ymweld Chatalunya, Sbaen a Barcelona.
Bu digonedd o haul a hwyl yn ystod y daith a chafwyd nifer o brofiadau bythgofiadwy megis trip i Port Aventura, Water World a Nou Camp, a chafwyd cyfle i fynd o amgylch dinas Barcelona i weld amryw o adeiladau anhygoel, hanesyddol.
Cafwyd ambell i dro trwstan yn ystod y daith ond da oedd gweld nad oedd y digwyddiadau hyn wedi effeithio ar frwdfrydedd y bobl ifanc a naws hwyliog y daith.
Diolch i bawb a fynychodd, yn blant, staff a gyrrwyr y bws.
Fe brofodd y daith i fod yn brofiad anhygoel, ac yn gyfle gwych i’r criw o bobl ifanc gael blas ar fywyd a diwylliant gwlad wahanol, yn ogystal chymdeithasu a dod i wneud ffrindiau newydd.