Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Stori O Drais Rhywiol

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 24/05/2012 at 13:00
0 comments » - Tagged as Health

  • trais

English version

'Rape'. Gair cas sydd yn gweddu beth ydyw. Yn ddiweddar mae'r Swyddfa Gartref wedi lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am ddigwyddiadau trais rhywiol sydd yn digwydd i bobl ifanc. Mae'r llywodraeth yn ofni bod pobl ifanc efo golwg aneglur o beth ydy trais rhywiol neu pwy ydy treisiwr hyd yn oed.

Rhyddhawyd ffigyrau yn dweud bod dros 250,000 o enethod yn ddioddefwyr trais ond yn rhyw ofn neu efo cywilydd dweud wrth rywun. Isod mae sefyllfa gyda bwriad o fod yn adnodd i bobl ifanc ddarllen a helpu gwneud dioddefwyr potensial yn ymwybodol o bwy ydy'r treisiwr, gan na fyddai rhai yn meddwl bod eu cyn gariad yn dreisiwr.
 
Digwyddodd hyn i gyd dwy flynedd yn �l. I gychwyn, roedd hi mewn perthynas erchyll, perthynas treisiol. Roedd hi'n ifanc (15 oed) ac yn fregus, bydda ti'n gallu dweud. Roedd hi'n wallgof am y bachgen yma, yn gwneud unrhyw beth iddo (heblaw am unrhyw beth rhywiol, roedd hi'n credu mewn 'dim rhyw cyn priodas'). Fo oedd ei chariad cyntaf a doedd hi erioed wedi cusanu bachgen cynt.

Gan fod hi yn erbyn gwneud unrhyw beth rhywiol, roedd hyn yn gwylltio fo ac roedd yn taro hi. Anwybyddu a chamdriniaeth barhaol. I gychwyn roedd yn halio ar ei braich neu ei ysgwydd yn dynn, weithiau mor galed fel y bydda'n gadael marc neu friw. Yna fe ddaeth yn fwy ffyrnig, yn pwnsho hi yn ei stumog, yn cymryd ei gwynt, ac yna bydda'n gafael yn ei gwddf.

Unwaith, rhoddodd lygaid du iddi ac am tuag wythnos roedd hi wedi'i orchuddio gyda cholur. Dyna pryd sylweddolodd ei ffrindiau bod rhywbeth o'i le.

Bydda ffrindiau yn dweud, "pam wnei di ddim ei adael?" Gyda hyn mewn meddwl, wynebodd ef, dywedodd wrtho nad oedd hi eisiau perthynas ddim mwy. Aeth yn falistig. Haliodd yn ei gwallt a'i llusgo i le allan o'r golwg ac ysgwyd ei phen drosodd a throsodd gan sgrechian arni. Dechreuodd penlinio hi yn ei choesau a'i slapio. Yn lwcus, cafodd ei ddychryn gan rywun roedd hi'n adnabod yn gweiddi arno i stopio.

Rhedodd i ffwrdd. A hithau hefyd. Doedd hi ddim yn gallu wynebu nhw, bydda'r cywilydd yn lladd hi. Fe geisiodd nifer gwaith i orffen y berthynas gyda neges testun ond bydda ef yn gyrru hi ble oedd hi a bygwth rhoi hi yn yr ysbyty. Beth wyt ti i fod i wneud yn y sefyllfa yma?

Felly fe ddioddefodd hi am gwpl o fisoedd. Roedd hi'n fis Ionawr. Cafodd neges testun ganddo yn gofyn i gyfarfod mewn parti mewn t?’n agos iddo, felly atebodd hi yn dweud iawn ond na fyddai'n gallu aros am hir. Doedd hi ddim yn rhy hoff o yfed chwaith ond pan gyrhaeddodd cynigodd rhywun alcohol iddi a doedd hi ddim eisiau gwrthod achos doedd hi ddim eisiau edrych yn lletchwith yn gymdeithasol.

Roedd hi wedi bod yno rhyw awr, yn sipian ar ei diod, oedd yn hanner gwag erbyn hyn ac roedd y ddau ohonynt yn sobr. Roedd hi eisiau gadael, a dywedodd wrtho fod hi am adael. Ni wnaeth ymateb yn dda iawn. Gafaelodd yn ei harddwrn, yn gwasgu mor dynn fel y gallai deimlo ei gwaed yn cael trafferth cyrraedd blaen ei bysedd. Gorfododd hi i gerdded fyny'r grisiau gyda fo ac i ymddwyn yn 'gyffredin' neu bydda 'canlyniadau',

Ceisiodd ddianc o'i afael heb dynnu sylw i'r sefyllfa ond roedd hyn yn ei wylltio fwy. Cafodd ei gwthio i mewn i ystafell, ei dal i lawr a digwyddodd y gwaethaf. Trais rhywiol. Wylodd cymaint, gwaeddodd am help, ond doedd neb yn clywed gan fod y gerddoriaeth rhy uchel. Gyda golwg hunanfoddhaol ar ei wyneb, fe wnaeth adael gan wneud sylwadau sarcastig, cas ac afiach tuag ati. Gwisgodd amdani yn sydyn, rhedeg i lawr y grisiau ac allan trwy'r drws. Eisteddodd yn y parc agosaf yn ceisio hel meddyliau a thawelu ei hun. Pan gyrhaeddodd adref, wylodd. Roedd hi wedi'i threisio, yn flin, yn fregus ac yn fudur.

Dywedodd wrth neb am y noson honno. Roedd rhaid iddi gael allan nawr, yn enwedig ar �l beth ddigwyddodd. Felly fe ddywedodd celwydd bach fod hi wedi cusanu rhywun fel ei fod ef efallai yn gorffen y berthynas a diolch byth, fe wnaeth. O'r diwedd roedd hi'n rhydd. Roedd hi mor hapus ond yn parhau i gario'r baich o beth ddigwyddodd y noson honno. Mae wedi gadael marc arni am byth.

Bydda ef yn parhau i boeni hi gyda negeseuon testun bygythiol a galwadau ff�n gwirion ac yn dal i wneud hyd heddiw. Mae hi wedi newid ei rhif cymaint o weithiau, wedi blocio ei rif gormod o weithiau, ond ta waeth pa mor galed mae hi'n ceisio anghofio beth ddigwyddodd, dyna fo, yn atgoffa hi o hyd o'r ofn y noson honno.

Am nad yw hi wedi adrodd ef i'r heddlu, beth os ydi hi yn peryglu bywyd ac urddas merch arall drwy beidio gwneud? Hi ydy un o'r 250,000 o enethod yna ac mae hi'n dymuno cymaint i beidio bod. Roedd hi'n rhy ofn a gyda gormod o gywilydd i ddweud ei stori wrth ei rhieni, yr heddlu a' hyd yn oed ei ffrindiau (er mae llond llaw yn ymwybodol nawr).

Mae hi'n annog ti, pl�s, os wyt ti'n ddioddefwr trais neu gamdriniaeth rywiol, pl�s, pl�s dweud wrth rywun ac os fedri di, adrodd nhw i'r heddlu. Mae yna bobl allan yna i helpu ti. Dydy hi ddim eisiau i bobl ifanc fynd drwy'r un peth � hi.

Un peth fydd hi'n feddwl am byth ydy: beth os ydy o' n gwneud hyn eto? Gallai hi fod wedi stopio hynny, ond wnaeth hi ddim.

Os wyt ti wedi cael dy effeithio gan unrhyw fater yn yr erthygl yma, clicia yma i siarad efo Meic. Maen nhw'n gyfrinachol, am ddim, ar-lein ac ar y ff�n trwy'r dydd, bob dydd.

Cymorth i Ferched Cymru

DELWEDD: Dia

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.