Stori Holly
English version
I ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid, rydym wedi gofyn i bobl ifainc ddisgrifio sut brofiad yw bod yn rhan o glwb ieuenctid.
Dyma stori Holly.
Roeddwn i’n cael trafferth dod i delerau gyda fy hunaniaeth rywiol, yn teimlo cywilydd ac yn methu siarad am y peth gyda’r bobl o’m cwmpas. Dw i’n lesbiad 17 mlwydd oed ac mae dod o hyd i Loud & Proud wedi fy helpu i ddweud wrth fy ffrindiau a fy nheulu. Mae wedi bod yn gyfle gwych i gyfarfod oedolion a phobl ifainc eraill sy’n wynebu problemau tebyg, a thrwy hyn dw i wedi magu llawer o hunanhyder.
Dw i’n teimlo’n gyfforddus yn gwybod bod rhai o’r staff yn y prosiect hefyd yn LGBT (Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol). Mae hyn wedi dylanwadu arnaf i wneud pobl yn fy nheulu a’m grŵp o ffrindiau yn fwy ymwybodol o’r materion yma. Rydym yn trafod pethau mewn awyrgylch agored a chyfeillgar ac maen nhw’n cynnig cyngor personol agored a chyfrinachedd bob amser. Mae pob un ohonom wedi dysgu cefnogi ein gilydd, dysgu mwy am y materion yma a dysgu sgiliau trin pobl.
Bwriad Loud & Proud yw cefnogi pobl LGBT ifanc yng Nghaerdydd a De Ddwyrain Cymru. Drwy gael trafodaethau un-i-un a thrafodaethau grŵp maen nhw’n cynnig gwybodaeth a chyngor am amrywiaeth o faterion sy’n cynnwys dod i delerau gyda’ch rhywioldeb, dod allan, rhyw ddiogel, cyffuriau ac alcohol, a bod yn ddigartref. Yn ddiweddar, rydym wedi llunio llyfryn gwybodaeth am ryw a chynnal perthynas LGBT i’w ddosbarthu i bobl ac rydym yn gweithio ar ffilmio, golygu a chyhoeddi DVD ar hyn o bryd sy’n tynnu sylw at faterion tebyg i’r llyfryn.
Mae’n brofiad gwobrwyol iawn yn bersonol ac mae’n helpu i roi teimlad o berthyn i ni fel cymuned, yn ogystal rhoi cyfle i ni gymryd rhan mewn digwyddiadau fel y Mardi Gras. Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn hynod o bwysig am ei bod yn tynnu sylw at y ffordd mae pobl a chymunedau wedi elwa o’r amrywiaeth enfawr o gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael i’r genhedlaeth iau.
Mae rhywbeth i bawb ac mae’n sicr bod hyn yn helpu i aeddfedu a datblygu diwylliant ieuenctid heddiw ar gyfer cymdeithas yfory.
Cer i www.thankssam.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Pam ddim cysylltu gyda Loud & Proud?
Erthyglau perthnasol:
Stori Amy - Bwlio
Stori Paige - Clwb Bocsio Aerafan
Stori Charlotte - Babis Ffug
Stori Catherine - Clwb Ieuenctid KPC