Snwcer A Fi
English version
Mae snwcer yn gm lle ti’n potio peli gyda chiw snwcer. Mae’r bwrdd yn sip petryal gyda chwe phoced (pedwar cornel, dau ganol) a dau ddeg dau o beli (gwyn, melyn, gwyrdd, brown, glas, pinc a du a hefyd pymtheg coch mewn triongl o dan y sbot pinc). Fel arfer, mae dau chwaraewr yn cymryd rhan.
Mae’r gamp yma yn gwneud i mi deimlo’n dda amdanaf fy hun gan fy mod wedi chwarae snwcer am bedair blynedd a dwi wedi chwarae i Gymru yn erbyn Iwerddon mewn gornest gorau o chwech (enillodd Cymru 4-2_ a dwi hefyd yn Bencampwr Adran 2 Cwmbrn. Dwi’n cystadlu mewn llawer o ddigwyddiadau Cymraeg ac yn ceisio dod yn y chwech uchaf bob tymor er mwyn ennill lle i gystadlu i Gymru eto, gobeithio.
Mae’n gm anodd ond pam ti efo cymaint o flynyddoedd o ymarfer a finnau, mae’n dod yn hawdd yn araf deg. Dwi fel arfer yn chwarae gyda fy ffrindiau ar y penwythnos yn fy amser rhydd; roeddwn yn arfer chwarae o leiaf tri i bedair waith yr wythnos ond nawr dwi’n ceisio canolbwyntio ar fy nghwrs coleg ac yn ceisio ennill cymwysterau da mewn BTEC Diploma 1af TG a’r Fagloriaeth Cymraeg. Flwyddyn nesaf, dwi’n gobeithio ennill lle yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd Dan-19 ym mis Ebrill yn yr Ukraine, Kiev. Dwi’n gobeithio cyflawni hyn oherwydd os byddaf yn cael ddigon pell, yna efallai byddaf yn troi’n broffesiynol.
Dwi’n edmygu’r Mark Allen, gyrhaeddodd rowndiau cynderfynol y Bencampwriaeth Snwcer y Byd, a Phencampwr y Shanghai Masters 2010 Ali Carter. Chwaraewr arall sydd yn ffefryn ydy Paul Hunter. Yn drist, bu farw o gancr yn 2006 a nawr mae’n cael ei adnabod fel delw, fe drechodd y mwyafrif o’r chwaraewyr gorau yn y gm ac roedd o’n wych a gallai fod wedi mynd yn bell. Y tri yma ydy fy chwaraewyr gorau oherwydd eu cysondeb a’u gwaith ciw perffaith. Dwi wedi gwylio Allen a Carter ar eu gorau yn fyw yn y Welsh Open 2010 yng Nghasnewydd; fe gawsom yn eithaf pell yn y twrnamaint yma.
Fy uchelgeisiau snwcer ydy i geisio dod yn broffesiynol ac i gael fy adnabod, gan fy mod wedi bod yn chwarae snwcer am gyfnod hir ac yn teimlo nawr fy mod angen gwneud y gamp yn un o fy uchelgeisiau mewn bywyd. Rheswm arall pam fyddwn i eisiau ei gwneud hi fel un proffesiynol ydy byddwn wrth fy modd yn cael engrafu fy enw ar y Tlws Pencampwriaeth Snwcer y Byd ac yna ni fyddaf yn cael fy anghofio.
Gwybodaeth Chwaraeon a Hamdden Chwaraeon Dan Do Chwaraeon Bwrdd
DELWEDD: Snooker virtuoso 2 :] gan boolve