Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Sioe Newydd S4C Yn Trafod Materion Ieuenctid

Posted by Scattered from Cardiff - Published on 10/04/2015 at 09:59
0 comments » - Tagged as People, Topical

  • Logo - Llond Ceg
  • Cyflwynwyr
  • Aled Haydn Jones

English version // Yn Saesneg

Bydd sefyllfaoedd caled sy'n wynebu pobl ifanc, gan gynnwys bwlio, rhyw, hunan ddelwedd ac ysgariad, yn cael ei drafod mewn sioe newydd sy'n dod i S4C fel rhan o'u hamserlen Stwnsh.

Cyflwynir Llond Ceg gan Aled Haydn Jones o sioe The Surgery Radio 1, fydd yn arwain trafodaethau ar bynciau sydd yn cael effaith ar bobl ifanc mewn ffordd agored, gytbwys a sensitif. Yn cychwyn wythnos nesaf ar 15fed Ebrill, bydd 8 sioe yn y gyfres, fydd yn cael ei ddarlledu pob dydd Mercher am 5:30yh.

Yn ogystal â nifer o ysgolion eraill ledled Cymru, un o'r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y trafodaethau dangosir yn y gyfres oedd Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yng Nghaerffili. Dychwelodd Aled i'r ysgol yn ddiweddar i roi rhagolwg arbennig o un o'r penodau i'r disgyblion.

Dywedodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C. "Mae llawer o'r pynciau yn y gyfres Llond Ceg yn rai anodd eu trafod, ac mae wedi bod yn agoriad llygaid i weld pobl ifanc yn siarad am bynciau sensitif fel iechyd meddwl a glasoed mewn ffordd agored a hyderus. Hoffwn ddiolch i'r plant fu'n cymryd rhan am fod mor onest am y pynciau sydd yn cael effaith arnyn nhw."

Roedd cynghorwr ChildLine yn bresennol yn ystod ffilmio'r sesiynau cwestiwn ac ateb, ac mae'r gyfres hefyd yn cynnwys cyngor proffesiynol gan ddoctoriaid. Mae'r seicotherapydd plant Aaron Balick, sydd yn gweithio gydag Aled Haydn Jones ar The Surgery, wedi bod yn rhan o'r broses hefyd.

Yn ymuno gydag Aled, sydd o Aberystwyth, ar Llond Ceg roedd Geraint Hardy, DJ Capital FM a chyflwynydd teledu, a'r gantores Cymraeg Kizzy Crawford. Bydd wynebau enwog eraill fel Rhys Ifans, Richard Elis, Tara Bethan ac Anni Llŷn hefyd yn trafod eu profiadau nhw o dyfu.

Fel rhan o'r gyfres, mae app Llond Ceg arbennig wedi cael ei greu yng Nghymraeg a Saesneg, sydd yn cynnwys gwybodaeth, cyngor a chysylltiadau defnyddiol. Gellir ei lawrlwytho am ddim ar ddyfeisiau Android ac Apple.

Gall plant a phobl ifanc hyd at 19 oed, sydd wedi'u heffeithio gan unrhyw un o'r pynciau trafodir ar y sioe, gysylltu â ChildLine, y gwasanaeth preifat a chyfrinachol, wrth alw 0800 1111 am ddim, neu sgwrsio ar-lein ar www.ChildLine.org.

Yng Nghymru, MEIC ydy'r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Ymwela â www.meiccymru.org

s4c.cymru/llondceg

s4c.cymru/stwnsh

facebook.com/llondceg

twitter.com/llondceg

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.