Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Siarad â Llywodraeth Cymru: Y Sgwrs Go Iawn

Posted by Tom (Sub-Editor) from Cardiff - Published on 31/10/2014 at 09:36
0 comments » - Tagged as Education, Topical, Work & Training, Volunteering

  • Gwahanol luniau o ddigwyddiad Sgwrs Go Iawn
  • Llun o gyflwyniad ar y llwyfan
  • Llun o'r gynulleidfa yn eistedd
  • Llun o'r gynulleidfa yn eistedd

English version // Yn Saesneg

Y Sgwrs Go Iawn

Arena Motorpoint, Caerdydd

23 Hydref 2014

Beth sy‘n atal pobl ifanc Cymru rhag gwneud prentisiaethau? Ai‘r brifysgol yw‘r unig ddewis? Pam mae merched, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl sydd ag anableddau wedi‘u tangynrychioli yn y gweithle? Trafodwyd y materion hyn a llawer o bynciau llosg eraill ddydd Iau diwethaf yn ystod Sgwrs Go Iawn ddiweddaraf Llywodraeth Cymru.

Diben Sgwrs Go Iawn yw annog pobl i siarad. Mae‘n golygu pobl ifanc, cyflogwyr, sefydliadau allweddol yng Nghymru a Llywodraeth Cymru oll yn siarad ‘'i gilydd. Os hoffet ddweud dy farn wrth Lywodraeth Cymru am y materion mwyaf amrywiol, clywed eu hymateb, a thrafod ‘'r bobl a‘r sefydliadau allweddol yn y meysydd perthnasol, mynna Sgwrs Go Iawn.

Roedd Sgwrs Go Iawn heddiw yn trafod Prentisiaethau ac Amrywiaeth. Fe‘i cynhaliwyd yn un o‘r ystafelloedd moethus i fyny‘r grisiau yn un o brif neuaddau cyngherddau Caerdydd, Arena Motorpoint, lle sydd fel arfer yn rhy swnllyd i fwynhau unrhyw sgwrs! Os hoffet symud ymlaen at fy adroddiad o'r trafodaethau, gelli anwybyddu'r paragraff isod, sydd wedi‘i fwriadu ar gyfer unrhyw un sy‘n dymuno gwybod am drefniadau‘r diwrnod a gweld a allai fod o ddiddordeb iddynt y tro nesaf.

I gychwyn, aethom i le gweddol gyfforddus, a chawsom fwynhau nwyddau crwst melys, te a choffi, a chadeiriau esmwyth. Gwnaeth hyn ein hymlacio a‘n gwneud yn fwy parod i siarad. Wedi oddeutu hanner awr, aethom i‘r brif ystafell lle‘r oedd 11 bwrdd a thua 10 o bobl o amgylch bob un. Roedd y grwpiau wedi‘u cymysgu ar hap, ac roedd cymysgedd amrywiol o bobl ifanc, cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol eraill. Roeddwn i yno fel gweithiwr proffesiynol, yn cynrychioli ProMo-Cymru, y bobl sy‘n cefnogi CLICarlein, ySprout a Meic (ond rwy‘n falch o ddweud fy mod yn dal i chwifio baner ‘pobl ifanc‘ hefyd).

"Pam, o pam, ddylai‘r ymgeisydd gorau am swydd gael ei anwybyddu am fod yn ddyn neu‘n fenyw... ac ati?"

Wedi cyflwyniadau gan ein gwestywr siriol (ni chofiaf ei enw), yna Dirprwy Weinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru, Julie James AC, ac yn olaf Golygydd Economeg BBC Wales, Sarah Dickins, cychwynnodd pethau. Roedd eu cyflwyniadau yn fyr a phwrpasol, ac roeddent yn rhannu brwdfrydedd dros chwalu rhwystrau rhag cyflogaeth. Efallai fod hyn yn swnio'n anniddorol, ond fel dywedodd Julie James AC (dyfynnir hyn yn y trydariad isod), pam ddylai ymgeisydd gael ei anwybyddu oherwydd ei ryw, tueddfryd rhywiol, ethnigrwydd ac ati?

Cychwynasom ag ychydig o gwestiynau gwirion tebyg i rai Who Wants to be a Millionaire?, a llaciodd hynny ein tafodau - yn enwedig o gofio ein bod yn eistedd ymhlith dieithriaid - a chawsom brofi'r broses bleidleisio c?l a ddefnyddiwyd trwy gydol y sesiwn awr a hanner. Wrth symud ymlaen i‘r drafodaeth go iawn, y drafodaeth hollbwysig, cawsom oddeutu 5 cwestiwn pryfoclyd, ambell fideo i‘w cyflwyno, ein cyfle i bleidleisio ac yna 15 munud i drafod. Roedd y cyfan yn anffurfiol iawn ac roedd hwylusydd ar bob bwrdd i'n tywys. Cofnodwyd sylwadau bob bwrdd gan sgrifellwr, a chaiff Llywodraeth Cymru'r wybodaeth hon i gynorthwyo i'w llywio wrth lunio polis‘au‘r dyfodol. Proses wych a chyfle gwych.

‘Beth yw‘r prif rwystr sy'n atal cyflogwyr rhag mynd ati‘n rhagweithiol i gyflogi pobl (o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli)?"

Y cwestiwn cyntaf oedd ‘Beth yw‘r prif rwystr sy'n atal cyflogwyr rhag mynd ati‘n rhagweithiol i gyflogi pobl (o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli)?" Canolbwyntiai‘r cwestiwn yn bennaf ar anableddau, a dilynwyd hynny gan gwestiynau ynghylch rhyw ac ethnigrwydd. Gwelsom fideo ffug hynod glyfar a phwerus o Ricky Gervais yn smalio bob yn gyflogwr a gynigai gyfleoedd cyfartal i bobl anabl, ond yna gwn‘i esgusodion i wrthod bron iawn pawb sy'n anabl! Gwnaeth ffordd Gervais o droi‘r pwnc ar ei ben a dweud celwydd mor ddigywilydd am fod yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal beri i‘r rhan fwyaf ohonom chwerthin, yn cynnwys Sarah Dickens, ond yna fe wnaethom oll synfyfyrio‘n dawel, ‘A ddylem chwerthin mewn gwirionedd?‘ Gwaith penigamp, Mr Gervais.

Yn ddiddorol, wrth weld y sgrin fawr yn y pen blaen, dangosai‘r bleidlais fod y cyflogwyr yn credu mai'r rhwystr pennaf rhag y recriwtio rhagweithiol hwn yw... agweddau cyflogwyr! Tybed faint fyddai‘n fodlon cyfaddef fod eu hagweddau fel hyn! Serch hynny, rhaid eu canmol am eu gonestrwydd; dyna hanfod y digwyddiadau hyn. Sicrhaodd Deddf Cyfartaledd 2010 fynediad cyfartal cyfreithiol at swyddi i bawb - waeth beth fo‘u hoedran, anabledd, rhywedd newydd, statws priodasol a phartneriaeth sifil, hil, crefydd, rhyw neu dueddfryd rhywiol - ond golyga‘r canlyniadau hyn fod cyfran sylweddol o bobl ym myd gwaith yn credu fod gwahaniaethu yn dal yn gyffredin.

Rwy‘n gwybod yn sgil yr ugeiniau o geisiadau a lenwais y llynedd pan oeddwn heb swydd lawn amser nad yw'r rhan fwyaf o ffurflenni cais yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol o'r fath, fel na ellir ei defnyddio yn y broses benderfynu. Fodd bynnag, byddant yn aml yn gofyn i chi nodi‘r manylion ar ‘Ffurflen Monitro‘ ar wah‘n, felly pwy a ?yr sut bydd cyflogwyr yn defnyddio‘r wybodaeth hon yn eich erbyn wrth wneud penderfyniadau recriwtio. Yn ‘l cyflogwyr, defnyddir y ffurflenni hyn i asesu a ydynt yn llwyddo i ddenu cymysgedd amrywiol o ymgeiswyr, fel gallant ganfod y ffordd orau o wella'r amrywiaeth hwn. Felly, gellir defnyddio‘r ffurflenni hyn, yn ddamcaniaethol, mewn ffordd dda neu ffordd ddrwg, ac er clod iddynt, bydd o leiaf rhan o'r ffurflen yn ddewisol fel arfer, ond rhaid dweud nad oes unrhyw ffordd bendant o brofi sut bydd cyflogwyr yn gwneud eu penderfyniadau yn y rhan fwyaf o achosion.  Felly, efallai na fydd ewyllys da deddfwriaeth bendant y Llywodraeth i wahardd gwahaniaethu yn dwyn ffrwyth ym mhobman mewn gwirionedd, oherwydd safbwyntiau gwrthrychol a gwahaniaethol cyflogwyr. Dyna pam mae agweddau cyflogwyr yn dal yn hollbwysig ar waethaf y gyfraith, ac mae‘n debyg mai dyna pam gwnaeth y cyflogwyr oedd yn rhan o‘r Sgwrs Go Iawn bleidleisio i ddweud mai hynny yw'r prif rwystr rhag sicrhau cyfle cyfartal.

Yn ddiddorol iawn, eisteddai nyrs wrth ein bwrdd sy'n gweithio mewn theatrau llawdriniaethau, a dywedodd hi'n barchus fod rhai swyddi na all pobl sydd ag anableddau penodol eu gwneud, ac ni ddylem ofni dweud hynny. Er enghraifft, yn ystod llawdriniaeth frys, dywedodd na allai ofyn i ddefnyddiwr cadair olwyn ruthro o gwmpas y lle i chwilio am offer hanfodol. Fodd bynnag - a chlywyd hyn sawl gwaith trwy gydol y diwrnod - dywedodd ei bod hi'n bwysig canolbwyntio ar beth all yr ymgeisydd ei wneud. Pe bai'r unigolyn yn ymgeisydd da am swydd arall, dywedodd y byddai'n bwysig cyfeirio ef neu hi at y swydd honno. Yn y pen draw ‘ cytunai pawb wrth ein bwrdd ‘ hyn - dylai'r ymgeisydd gorau gael y swydd, waeth beth fo lliw ei groen neu ei grefydd, neu beth bynnag arall.

Oherwydd hynny, gwnaethom hefyd drafod y pwnc llosg sy'n ymwneud ‘ dadl bresennol rheolwyr clybiau p‘l-droed: a ddylid sefydlu system cwot‘u sy‘n mynnu fod trawstoriad y gweithlu yn adlewyrchu amrywiaeth y wlad, yr ardal ac ati? Er gallai hyn wahaniaethu yn erbyn yr ymgeiswyr gorau mewn rhai achosion, dywedodd ein hwylusydd y byddai rhai grwpiau sydd wedi‘u tangynrychioli, megis pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, yn dadlau fod hyn yn hanfodol i gynnig dim hanner cyfle iddynt, oherwydd mae'r gwahaniaethu yn eu herbyn mor ddifrifol. A yw‘n dderbyniol felly fod angen ychydig o wahaniaethu o bryd i‘w gilydd i ddatrys y gwahaniaethu dwfn ac oesol hwn?

‘Beth yw‘r prif reswm dros dangynrychiolaeth ar sail rhyw yn y gweithle?"

Ail gwestiwn y diwrnod oedd ‘Beth yw‘r prif reswm dros dangynrychiolaeth ar sail rhyw yn y gweithle?" Fe wnaeth y tri gr?p - pobl ifanc, cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol eraill - bleidleisio bron yn unfrydol mai ‘stereoteipiau ar sail rhyw‘ sydd ‘r bai mwyaf. Gwelsom fideo syml, gobeithiol ac effeithiol iawn gan ferched ifanc sy‘n fecanyddion, a apeliai at ferched ifanc eraill i beidio cael eu digalonni rhag ymgeisio am swyddi ym maes peirianneg oherwydd ystyrir hwy yn ‘swyddi i ddynion‘. Dywedodd y merched nad ydynt erioed wedi cael eu trin yn wahanol oherwydd eu rhyw, a pherchir eu safbwyntiau yn yr un modd ‘ rhai eu cydweithwyr gwrywaidd. Roedd yn bwerus gweld y merched ar y sgrin yn gwneud y swyddi hyn. Fe wnaethant ddadlau hefyd, os mai chi yw‘r ymgeisydd orau am swydd, pam na ddylech ei chael? Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd ac rydych yn credu y gallai gynnig boddhad i chi, pam na ddylech ymgeisio amdani?

O amgylch ein bwrdd, roeddem yn ddigon gofalus i ddweud ei bod hi‘n dal yn iawn i ferched wneud gwaith sy‘n ymwneud ‘ phethau fel peirianneg, tractorau, dinosoriaid a'r lliw glas, er bod rhagor o ddynion yn hoff o'r pethau hynny. Dadleuom hefyd fod y gwrthwyneb yn wir: mae‘n iawn i ddynion wneud swyddi sy‘n draddodiadol ‘fenywaidd‘. Roeddem yn ofalus iawn wrth ddweud hyn; dewisodd pawb ei eiriau yn ofalus fel na allai neb gamddehongli ein barn: nid oeddem yn dweud fod rhai tasgau a swyddi yn ‘wrywaidd‘ neu ‘i ddynion yn unig‘, neu‘n ‘fenywaidd‘ neu ‘i ferched yn unig‘, roeddem yn dweud fod y tasgau neu‘r rolau hyn yn agored i bawb, ac os oes gan fwy o fechgyn na genethod ddiddordeb mewn tractorau, does dim o‘i le ar hynny, ond mae‘n iawn i ferched ymddiddori ynddynt hefyd. Y rheswm dros fod mor ofalus oedd y tueddiad i bobl eich llarpio a‘ch cyhuddo o wahaniaethu yn ddi-oed, heb iddynt wrando ar eich dadl yn llawn na cheisio deall eich dadleuon. Efallai ei fod yn sgil effaith afiach o rywbeth da: y gymdeithas yn dod yn fwy meddwl agored a gwrthwahaniaethol ynghylch pethau. Gwnaeth hynny fy atgoffa o'n trafodaeth flaenorol; er y dylem bob amser flaenoriaethu beth all  pobl ei wneud yn y gwaith (neu mewn mannau eraill) yn hytrach na'r hyn na allant ei wneud, does dim o'i le ar y ffaith na all rhai pobl wneud rhaid pethau, ac mae‘n iawn dweud hynny hefyd.

Fe wnaethom ofyn i‘r bobl ifanc a ydynt erioed wedi wynebu unrhyw bwysau i wneud swydd sydd wedi‘i stereoteipio o ran rhyw, ac roedd yn galonogol clywed nad oedd hynny wedi digwydd iddynt. Dywedodd ein person ifanc gwrywaidd nad yw hynny‘n bodoli yn yr ysgol y dyddiau hyn, mae‘n debyg. Yn ddiddorol iawn, dywedodd y nyrs oedd yn rhan o‘n gr?p fod llawer o ddynion yn mynd i faes nyrsio oherwydd ni chaiff ei hystyried yn swydd i fenywod neu ddynion hoyw erbyn hyn. Mae‘n ddiddorol y gallai chwalu stereoteipiau/stigm‘u ar sail rhyw a thueddfryd rhywiol fod wedi cyfrannu at leihau‘r dangynrychiolaeth hon.

"Y prif reswm dros dangynrychiolaeth grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig..."

Yna, fe wnaethom gychwyn trafod ethnigrwydd. Credai llawer mai‘r prif reswm dros dangynrychiolaeth grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig oedd y rhwystrau diwylliannol. Yn benodol, credai llawer fod hyn yn digwydd oherwydd dehongliadau diwylliannol, a theuluol yn bennaf, o swydd ‘dda‘. Gan geisio osgoi cyffredinoli‘r gymuned gyfan, credai nifer fod llawer o deuluoedd Asiaidd a phobl dduon yn disgwyl i‘w plant ddewis proffesiwn traddodiadol, megis meddygaeth neu addysgu. Felly, byddai hynny‘n golygu fod cynrychiolaeth is o‘r gymuned Asiaidd a phobl dduon mewn swyddi eraill.

Yna, trafodwyd y pwnc ehangach o ddisgwyliadau a sut gallai hynny ddylanwadu ar bwy sy'n ymgeisio am ba swyddi. Dadleuai rhai bod targed Llywodraeth Lafur flaenorol y DU i ddenu 50% o bobl ifanc i astudio mewn prifysgolion wedi arwain at sawl effaith negyddol sylweddol. Er enghraifft, dadleuai rhai bod y targed hwn yn golygu na roddir digon o sylw a chefnogaeth i brentisiaethau. Er bod gennym gynllun prentisiaethau cenedlaethol yng Nghymru, ychydig iawn a wyddai ei bod yn bodoli, ac mae‘n debyg nad oedd hyd yn oed y Ddraig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru, yn gwybod am ei bodolaeth tan yn ddiweddar. Felly, gofynasom: pam na chaiff well cyhoeddusrwydd? A allai hynny fod oherwydd sylw gormodol i feysydd eraill? Yn ychwanegol, dadleuodd un unigolyn fod y targed hwn wedi arwain at greu cyrsiau "ffug" i gyflawni'r targedau a sicrhau niferoedd digonol yn unig, a byddai'n llawer gwell pe bai'r bobl ifanc hynny yn defnyddio'u sgiliau mewn meysydd eraill, mewn rolau neu gyrsiau mwy ‘ystyrlon‘.  Ni ddymunai neb gyfeirio at gyrsiau penodol rhag ofn iddynt dramgwyddo yn erbyn rhywun, ond roedd pawb fel pe baent yn cytuno eu bod yn bodoli.

 photo setupattherealconversation_zps2a2e650a.jpg

Daeth ugeiniau o bobl ifanc i gynnig eu safbwyntiau i Lywodraeth Cymru, a chofnodwyd y cyfan gan sgrifellwyr.

Felly, dadleuwyd yn y lle cyntaf y gall y teulu a‘r Llywodraeth fod yn allweddol o ran hybu disgwyliadau, ond dadleuwyd hefyd sawl gwaith y gall ysgolion fod yn ddylanwadol hefyd. O fy mhrofiad i mewn ysgol wladol yng Nghaerdydd, disgwylid i ddisgyblion fynd i brifysgol, ac yn aml iawn, cyflwynid hynny fel yr unig ddewis heb grybwyll dim arall mewn gwirionedd. Y neges oedd ‘Os na ei di i brifysgol, byddi‘n fethiant‘. Cyfeirid at y nifer o ddisgyblion a ‘i i brifysgol fel un o atyniadau pennaf ein hysgol am flynyddoedd, ac roedd yr athrawon fel pe baent yn benderfynol i ni fynd i brifysgol doed a ddelo i gyflawni‘r targedau hynny. Felly, roedd disgwyliadau fy ysgol yn amlwg yn ddylanwadol, ond a oeddent wedi'u llywio gan hunanddiddordeb yr ysgol (atyniad), pwysau rhieni ar yr ysgol, neu gred anghywir ond diffuant mai'r brifysgol oedd y dewis gorau i bawb? Efallai eu bod yn ystyried fod annog pawb i fynd i brifysgol yn rhan o‘u dyletswydd gofal at y bobl ifanc yr oeddent yn gyfrifol amdanynt? Ein hunig gasgliad o‘r adran hon mewn gwirionedd oedd bod disgwyliadau yn hollbwysig ac mae sawl grym pwysig iawn yn dylanwadu arnynt ym mywydau pobl ifanc. Felly, mae‘n wych bod y nifer fawr o bobl oedd yn dymuno mynd i brifysgol wedi cael cefnogaeth, ond dylid bod wedi dweud nad hynny yw‘r dewis gorau (na'r unig ddewis) i bawb.

Oherwydd hynny, dadleuodd un unigolyn yn ein gr?p fod angen i ragor o gyflogwyr fynd i ysgolion i drafod eu swyddi, eu sectorau a‘r llwybrau sydd ar gael i gyrraedd yno, fel bydd gan bobl ifanc ddisgwyliadau ehangach a mwy realistig o'u dyfodol. Byddai hynny‘n helpu ‘r broblem ehangach, oesol: bydd cymaint o bobl ifanc ‘ o bob cefndir ‘ yn cychwyn cyrsiau neu swyddi ‘ disgwyliadau afrealistig, a byddant yn gadael ymhen dim. Er enghraifft, yn 2010, gadawodd 20% o fyfyrwyr cyrsiau nyrsio Cymru eu cyrsiau. Faint o bobl ifanc sydd ddim hyd yn oed yn ymgeisio am swyddi oherwydd yr anhysbys ‘ ni wyddant beth yn union yw‘r swyddi neu sut i lenwi‘r ffurflen gais? Dywedodd rhywun o‘r gwasanaeth gyrfaoedd fod Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld ysgolion yn cymryd rhagor o gyfrifoldeb y dyddiau hyn am gyswllt rhwng cyflogwyr a disgyblion, megis ymweliadau ‘ diwydiannau, ond yn anfoddus, golyga hyn y byddant yn digwydd yn llai aml.

‘Beth yw budd pennaf amrywiaeth [yn y gweithle]?‘

Y cwestiwn olaf, sy‘n ddiweddglo da i‘r darn hwn, oedd ‘Beth yw budd pennaf amrywiaeth [yn y gweithle]?‘ Rhaid dweud fod mynediad cyfartal at waith wedi cael ei drafod fel hawl trwy gydol y Sgwrs, ond roedd hyn yn ymwneud ‘ pha fudd y gallai ei greu. Arweiniodd hyn at drafodaethau diddorol. Pleidleisiodd y rhan fwyaf o‘r gynulleidfa mai prif fudd amrywiaeth oedd rhoi hwb i greadigrwydd ac arloesedd. Fodd bynnag, casglodd ein bwrdd mai‘r budd pennaf fyddai‘r hwb i enw da‘r cwmni. Er bod hyn yn swnio fel hunan-fudd arwynebol ar yr olwg gyntaf, mae datblygu enw da yn rhywbeth sydd ag effaith caseg eira: gallai wella cynhyrchiant a chynnig mantais gystadleuol (dau o‘r dewisiadau pleidleisio eraill yn yr achos hwn), ond os caiff lle enw da am fod yn agored ac amrywiol, gwnaiff hynny gynnig rhagor o anogaeth i gymysgedd amrywiol o ymgeiswyr ymgeisio am swyddi yno yn y dyfodol, a bydd hynny‘n arwain at hyd yn oed rhagor o greadigrwydd ac arloesedd. Nodyn positif i gloi‘r Sgwrs.

Os oes gennyt unrhyw brofiad o brentisiaethau neu wahaniaethu yn y gweithle, neu os oes gennyt deimladau cryf ynghylch unrhyw fath o dangynrychiolaeth, cofia ddweud dy ddweud.

Ymuna ‘r drafodaeth isod (bydd angen munud yn unig i gofrestru), neu gelli ymuno ‘r drafodaeth sydd eisoes yn digwydd ar Facebook neu Twitter trwy ddefnyddio @therealconvs neu #realconversation

Mae‘r Sprout yn llwyfan agored i bobl ifanc o Gaerdydd, beth bynnag fo‘u cefndir a‘u tueddfryd, i ddweud eu dweud.. Caiff dros 50,000 o ymweliadau gan bobl ifanc a phrif sefydliadau Cymru bob mis, felly byddi‘n si?r o gael gwrandawiad. Safonir yr holl gynnwys i sicrhau na ddefnyddir unrhyw iaith sarhaus.

Cysylltiadau Perthnasol Defnyddiol:

Erthyglau Gennyt Ti ‘ Categor‘au ‘ Materion Cyfoes

Erthyglau Gennyt Ti ‘ Categor‘au ‘ Gwaith a Hyfforddiant

Gwybodaeth/Cyngor ‘ Y Gyfraith a Hawliau ‘ Cyfranogi

Gwybodaeth ‘ Dy Fyd Di  ‘ Gwleidyddiaeth ‘ Gwleidyddiaeth Cymru

Gwybodaeth ‘ Dy Fyd Di ‘ Gwleidyddiaeth ‘ Gwleidyddiaeth Ieuenctid

Sefydliadau ‘ Cyngor Ieuenctid Caerdydd

Sefydliadau ‘ Y Ddraig Ffynci

*Cyflwyna dy waith i gael ei gyhoeddi yma*

A hoffet ti ennill crys-T Sprout? Llenwa Arolwg Bodlonrwydd y Sprout!

Lluniau: Pob un gan @therealconvs ar Twitter, ac eithrio Llun 3 (ystafell lawn), gan @Post16_MYS ar Twitter.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.