Sgwrsio Gyda Meic
Mae Meic yn llinell gymorth gwasanaeth eiriolaeth a chyngor newydd yng Nghymru i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Wedi’i gefnogi gan fwy na £450,000 o ariannu Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae’n helpu pobl ifanc chwilio am wybodaeth ar y materion sydd o bwys iddynt.
Heddiw, fe siaradais efo pedwar o’r staff ymroddedig Meic (Hollie, Victoria, Laura a Lowri) i ofyn ychydig o gwestiynau iddynt am Meic.
-Cyfarfod y tm!
*Fy enw i yw Hollie, dwi’n 23 oed ac mae fy nghefndir yng ngwaith ieuenctid.
*Fy enw i yw Victoria, dwi’n 25 oed ac mae fy nghefndir i hefyd mewn gwaith ieuenctid ond yn benodol gwybodaeth ieuenctid.
*Laura ydw i, fi ydy’r babi, dwi’n 22 oed ac wedi bod yn gynghorydd Childline.
*Helo Lowri dwi ac mae fy nghefndir i mewn gwaith cymdeithasol ac mewn iechyd meddwl oedolion.
-Pan gafodd y gwasanaeth Meic ei gychwyn yn y lle cyntaf?
Hollie Cafodd ei gychwyn i ddarparu lefel o gymorth cychwynnol i bobl ifanc yng Nghymru. Mae ymwneud ag eiriolaeth yn arbennig a rhywun yn rhoi cyngor iddynt ac yn siarad ar eu rhan ond yn dweud beth maen nhw eisiau yn unig. Felly gwelwyd plant a phobl ifanc yr angen am y gwasanaeth hwn a dyna pam cafodd ei gychwyn.
Sut gall pobl gysylltu Meic?
Victoria Mae yna dipyn o ffyrdd gwahanol i gysylltu gyda Meic. Gallwch ffonio ni ar 080880 23456, gyrru neges testun ar 84001 neu ddod trwy negeseua sydyn (instant messaging) trwy’r wefan www.meiccymru.org a chlicio ar sgwrsio’r we, a’r ffordd ddiwethaf ydy trwy e-bost ar help@meiccymru.org.
-Pa fath o broblemau mae Meic yn delio gyda?
Laura Ar y funud rydym wedi cael dipyn o amrywiaeth o broblemau; bwlio, materion ysgol, pobl sydd angen eiriolwr i edrych allan amdanynt, problemau arholiadau, a gwybodaeth ar ddigwyddiadau lleol neu glybiau ieuenctid.
-Os ydy rhywun yn cysylltu Meic, a fydd eu galwadau a’u negeseuon testun yn ymddangos ar y bil ffn a pam fod cyfrinachedd mor bwysig?
Lowri Os ydynt yn cysylltu gyda ni unai drwy neges testun neu ar y ffn neu sgwrs ar y we, ni fydd eu rhifau yn ymddangos ar y sgrin. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’n gyfrinachol yn bennaf am ein bod eisiau’r bobl ifanc agor allan i ni am eu problemau ac iddynt fod yn gallu ymddiried ynddo ni gyda’r wybodaeth maent yn rhannu.
-Os ydy rhywun yn cysylltu Meic, a fydd rhaid iddynt roi unrhyw wybodaeth amdanynt eu hunain?
Hollie Na. Rydym yn gofyn oedran a lleoliad, ond nid oes rhaid iddynt roi unrhyw fanylion nad ydynt eisiau. Os oes problem fwy difrifol yn ymddangos, yna rydym yn annog nhw i roi ei enw a’r ardal fel ein bod yn gallu helpu ymhellach.
Pa gefndir sydd gan staff Meic i ddelio gyda phroblemau pobl ifanc?
Victoria Mae gennym brofiad gwaith ieuenctid, profiad Childline, profiad gwasanaethau cymdeithasol felly rydym wedi cael profiad o gynnig gwybodaeth a chyngor yn y lle cyntaf. Rydym wedi cynnig gweithdai wedi’i selio ar faterion i bobl ifanc wedi’i selio ar bethau fel cyffuriau ac alcohol ac iechyd rhywiol, rydym wedi cyfeirio a arwyddbostio pobl ifanc i sefydliadau rydym yn meddwl gall helpu nhw.
Pwy sydd yn talu am y galwadau ffn a’r negeseuon testun i Meic?
Laura Mae’r gwasanaeth llinell gymorth Meic yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac nid yw’r defnyddwyr yn talu dim. Mae’r gwasanaeth am ddim i blant a phobl ifanc.
-Faint o bobl mae Meic yn helpu bob dydd ar gyfartaledd?
Lowri Mae’n amrywio o ddydd i ddydd i ddweud y gwir. Weithiau byddem yn cael oddeutu 70 o gysylltiadau drwy alwadau, negeseua sydyn neu neges testun, sgwrs we, Dyddiau eraill, gall cael 100 o gysylltiadau, felly mae’n newid bob dydd.
-Beth ydy polisi Meic yn nhermau siaradwyr Cymraeg?
Hollie Rydym yn cynnig darpariaeth Cymraeg i bobl sydd angen. Felly os ydy rhywun yn dod drwodd sydd yn dewis siarad Cymraeg, mae dau o siaradwyr Cymraeg ar gael i helpu.
-Pa oriau mae’r gwasanaeth ar agor ar y funud a pam fod hyn?
Victoria Rydym yn rhedeg ar y funud o 12pm i 8pm, saith diwrnod yr wythnos. Y rheswm am hyn ydy am ein bod eisiau gwneud yn sicr yn gyntaf yn ystod y cynllun peilot ein bod yn rhedeg dros amser cinio ac ar l yr ysgol, er mwyn gweld pa bryd oedd yr amser gorau iddynt alw ni.
Ydy Meic yn derbyn galwadau pranc weithiau?
Laura Ar y funud rydym yn cael dipyn ohonynt ond rydym yn meddwl fod gan hynny lawer i wneud efo plant a phobl ifanc yn profi ni allan i weld pam rydym yma a sut ydym ni.
A fydd Meic yn gallu cyfeirio pobl i wasanaethau eraill yn eu hardal gall helpu nhw?
Lowri Gall, mae hynna yn bendant yn un o’n swyddogaethau ni fel cynghorwyr. Rydym yn tueddu i asesu pa fath o gymorth maent angen ac yna nail ai cyfeirio nhw neu roi gwybodaeth iddynt am sefydliad arall neu ddarparwr cefnogaeth gall helpu nhw. Hefyd, os oes angen, rydym yn cyfeirio nhw at ein heiriolwyr annibynnol gall helpu nhw i ddarganfod ateb at unrhyw fath o broblem sydd ganddynt a chynrychioli nhw a gwneud yn sicr fod llais y person ifanc yn cael ei glywed.
-Ydy rhywun yn gallu siarad efo Meic am mor hir a hoffent yntau oes cyfyngiad amser ar y galwad?
Hollie Rydym yma i wrando ar bob person ifanc sydd angen ni. Ein swyddogaeth gyffredinol ydy i gynnig gwybodaeth a chyngor ac i arwyddbostio nhw i wahanol sefydliadau gall helpu nhw ymhellach. Os oes angen gwasanaeth cynghorydd arnynt, gall cyfeirio nhw ymlaen i Childline sydd yn gallu gwrando arnynt am mor hir ac y maent angen i gael trefnu eu problemau. Ein prif swyddogaeth ydy i gynnig gwybodaeth a chyngor a gwneud yn sicr eu bod yn hapus efo hynny.