Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Sensoriaeth Crefydd?

Posted by Dan (Sub-Editor) from Cardiff - Published on 17/03/2008 at 21:17
0 comments » - Tagged as Creative Writing, Culture

  • darkness

English version

Mae'r garfan bwyso Christian Voice, sydd wedi bod yn y newyddion am ddosbarthu taflenni gwrth-hoyw yn Mardi Gras Caerdydd ac am gynnal protest tu allan i'r BBC fel ymateb iddynt yn darlledu Jerry Springer: The Opera, wedi gosod eu targed nesaf ar Gaerdydd am eu gwarchae nesaf o ymosodiadau crefyddol. A'r tro hwn, yr unig beth oedd yn rhaid gwneud oedd codi'r ffn.

Eu targed diweddaraf ydy Darkness Is Where The Stars Are, y nawfed gwaith cyhoeddedig gan y bardd a'r dramodydd Cymraeg Patrick Jones (yn y llun). Roedd y casgliad o gerddi, gydag amrywiad o bynciau o ymarferiadau crefyddol i drais cartref gwrywaidd,  am gael ei lansio yn y siop lyfrau Waterstones yn Yr Aes, Caerdydd dydd Mercher, gyda Jones yn ymddangos i arwyddo llyfrau yn y siop. Ond, ar l cyfres o alwadau ffn bygythiol i'r siop lyfrau, cafodd y digwyddiad ei ganslo a gorfodwyd i Jones arwyddo copau tu allan ar y stryd.

"Roedd o fel byw yn Nineteen Eighty-Four Orwell," disgrifiodd Jones. "Yn l pob golwg nid cwynion yn unig oedd yno; ond tactegau bwlio: yn dweud byddant yn tarfu ar y darllediad os oedd yn parhau."

Roedd natur y galwadau yn amrywio o gwynion am y llyfr yn cael ei stocio (roedd cerddi penodol yn cael eu tybio'n "anweddus ac yn gableddus" gan arweinydd Christian Voice Stephen Green) i fygythiadau, os bydda'r lansiad yn digwydd a chopau yn cael ei gwerthu, byddai'r siop yn bwnc protest crefyddol llym. Dydy Christian Voice ddim wedi ceisio gwadu eu hymrwymiad: "Efallai ein bod wedi dosbarthu taflenni i'r rhai oedd yn mynd i mewn, neu wedi rhoi taflenni mewn llyfrau a chael sgwrs gyda phobl. Efallai ein bod wedi sefyll i fyny ar bwynt priodol i esbonio pa mor boenus oeddem ni fod hyn yn digwydd," meddai Stephen Green. "Doedd yr Arglwydd ddim wedi dangos i mi beth ddylem wneud yn Waterstones; dim ond y dylai fod yn Gristion Roedd yr ymwybyddiaeth ein bod ar ein ffordd wedi rhoi ofn Duw yn y gwrthwynebiad."

Mae bygythiad protest wedi profi'n effeithiol i Christian Voice yn y gorffennol: yn 2005 gwrthododd elusen cancr – Maggie's Centres – rhodd pedwar-ffigwr o berfformiad o Jerry Springer: The Opera ar l i'r gr?p fygwth picedu eu canolfannau gofal os oeddent yn derbyn yr arian 'llygredig'.

Yn bell o ddiolch i'r siop am beidio oherwydd y pwysau, cyhoeddodd Green yn gyhoeddus ei farn fod "y ffaith fod [y llyfr] ar werth yn Waterstones yn warthus. Rydym yn agosu at y Nadolig, ble rydym yn dathlu genedigaeth gwaredwr y byd ac mae'n hollol anweddus fod Waterstones eisiau gwneud pishyn ceiniog allan o rywbeth sydd yn lladd ar y Nadolig ac yn lladd ar yr holl syniad o Dduw."

Yn wreiddiol dywedodd Waterstones mai "amgylchiadau annisgwyl" a "parch i'w cwsmeriaid" oedd y rheswm am y ganslo ar y munud diwethaf, yn dweud eu bod yn gobeithio "osgoi amhariad potensial i'w siop." Ond mae datganiad rhyddhawyd ar y penwythnos yn cyhuddo Jones o "weithredu'n heriog yn bwrpasol i greu brwdfrydedd o gwmpas cyhoeddiad ei lyfr", yn cyfeirio at y ffaith ei fod wedi e-bostio amryw o'i gerddi i amryw sefydliad pythefnos cynt, yn y gobaith o gychwyn dadl am y materion codwyd ynddynt. Roedd y sefydliadau yma yn cynnwys sefydliadau Cristnogol a Mwslimaidd, yn ogystal grwpiau asgell dde eithafol a neo-Natsaidd. Cyn belled ag y gwyddom, nid oes aelodau o'r grwpiau eraill wedi cwyno i Waterstones.

"Mae hyn yn gosod cynsail," meddai Jones. "Dwi wedi synnu efo hyn, am nad wyf yn awdur enwog. Os gall fy llyfr i dderbyn cymaint o sylw beth nesaf? Pwy nesaf? Os ydy rhywun yn ysgrifennu cerdd yn erbyn rhyfeloedd, ddylai nhw boeni bod y fyddin am gau nhw lawr?"

Mewn gwrthodiad i weithrediadau Christian Voice, mae'r cyhoeddwr Cinnamon Press wedi cyhoeddi cystadleuaeth barddoniaeth YouTube wedi'i alw'n 'cerddi chwim a dychanol am grefydd': yn annog pobl i ysgrifennu mwy o gerddi fydd yn cythruddo pobl fel Stephen Green. Maent yn cynnig copau wedi'u harwyddo o Darkness Is Where The Stars Are i ymgeiswyr llwyddiannus.

Pwy ydy Christian Voice?
Mae Christian Voice yn garfan bwyso Brydeinig wedi'i arwain gan yr ymgyrchwr ffwndamentalaidd Stephen Green. Maent yn protestio yn erbyn y rhai maent yn canfod i fod yn 'gelynion Duw' ac yn ymdrechu, drwy weddo ac ymgyrchu cyhoeddus, am 'ediferwch cenedlaethol'. Maent yn credu dylai Prydain gael ei lywodraethu gan theocratiaeth, sydd yn golygu bod Duw (neu'r rhai sydd yn siarad ar ei ran) yn cael ei adnabod fel y rheolwr pennaf, a bod cyfraith Brydeinig yn cael ei selio ar gyfraith y Beibl. Yn ogystal ag ail-gyflwyno'r gosb marwolaeth, bydda'r system yma yn gwneud erthyliad a chyfunrywiaeth yn anghyfreithiol, ac yn troi'r gyfraith ar drais rhywiol priodasol ar ei ben.

Cafodd Stephen Green ei arestio yn 2006 ym mhard Mardi Gras Caerdydd ym Mharc Bute, a chael ei gyhuddo o ddefnyddio geiriau ac ymddygiad bygythiol. Cafodd y cyhuddiadau eu gollwng wedyn. Yn fwy diweddar, trefnodd 'protest tawel' yn swyddfeydd y South Wales Echo ar l iddynt gyhoeddi erthygl gan y colofnydd Dan O'Neill "If God considers gays an abomination, why did he create them?"

Tra bod absenoldeb asgwrn cefn ar ran Waterstones yn golygu nad oedd rhaid i Mr Green ddod i Gaerdydd wythnos yma, ond nid dyma'r tro olaf i ni glywed ganddo. Mae wedi gwylltio am y ffaith fod Peter Black, llefarydd diwylliant Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, wedi gwadd Patrick Jones i "sarhau Iesu Grist yn y Cynulliad Cenedlaethol" (dyfyniad o www.christianvoice.org.uk). Bydd y digwyddiad yn Ystafell Pwyllgor 24 Adeilad y Cynulliad am hanner dydd ar ddydd Iau, 11 Rhagfyr. Mae Black wedi estyn gwahoddiad i Gristnogion fynychu, a heb amheuaeth bydd Green ymysg nhw.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.