Senedd Yn Y Crocbren
English version
Cwpl o ddiwrnodau cyn yr etholiad, clywais fy mrawd a’i ffrindiau yn cael trafodaeth danbaid am Nick Clegg, Gordon Brown a David Cameron. Fe wrandawais gan nad yw’n aml clywir rhai deg oed yn trafod gwleidyddiaeth. Ac yn fwy, roedd yn ymddangos fel bod y brwdfrydedd hwn yn effeithio’r wlad gyfan. Mae hyn yn fwy o syndod wedi’i wleidyddiaeth gael ei daro gan iselbwynt newydd gyda’r ‘Sgandal Treuliau’ (expenses). Am y tro cyntaf mewn degawdau, penderfynodd y cyhoedd Prydeinig na fyddent yn goddef y dewis dau barti mwyach rhwng “Coke a Pepsi”, fel trafodwyd yn erthygl Dan ‘Pam Dwi’n Casu Gwleidyddiaeth’. Ar l perfformiad Nick Clegg yn y Ddadl, roedd chwyddiad mawr yn ei boblogrwydd; roedd pawb eisiau newid ac roedd hwn yn wyneb ffres oedd yn ymweld yn ddiffuant o’r diwedd. Ond, yn anffodus i’r Democratiaid Rhyddfrydol, ni throdd dymuniadau pobl i mewn i bleidleisiau. Dwi’n dychmygu pan ddaeth yr amser i roi’r groes ar y papur, roedd bod yn ymarferol yn cymryd drosodd oddi wrth ddyhead gan nad oedd neb eisiau ‘gwastraffu’ pleidlais. Mae’r system bresennol o’r ‘blaid gyntaf dros y post’ yn ei gwneud yn amhosib i’r Blaid Democratiaid Rhyddfrydol ffurfio llywodraeth a dyma pam eu bod yn pwyso am system cynrychiolaeth gyfrannol, ble bydd pleidlais pawb yn cyfri. Mae’r system hwn wedi bod yn llwyddiant yn yr Almaen ac yn Iwerddon ac os ddaw i le, byddai’n rhoi cyfle i bleidiau llai fel y Democratiaid Rhyddfrydol, i ennill seddi yn y senedd.
Yn ogystal Nick Clegg, y gair ‘buzz’ arall sydd yn mynd o gwmpas ydy ‘senedd grog’, gair sydd ddim wedi’i ddefnyddio ers 1974, ac ar yr adeg honno roedd rhaid i etholiad arall gael ei alw yn yr un flwyddyn. Dwi ddim yn proffesu i fod yn arbenigwr ar y mymbo-jymbo o wleidyddiaeth ac felly fe drois at wefan y BBC i roi diffiniad syml o’r term: “Mae senedd grog yn un lle nad oes gan yr un blaid fwyafrif cyffredinol, sydd yn golygu nad oes yr un blaid efo mwy na hanner yr Aelodau Seneddol yn y Tai Cyffredin.” Dyma’r sefyllfa rydym ynddo nawr: mae’r cyhoedd yn galw ar Brown i ymddiswyddo, ond gan fod y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol i mewn yn y drafodaeth, mae’n hawlio hawliau sgwatiwr yn Rhif 10 mewn gobaith y bydd trafodaethau rhwng y ddau barti arall yn dod i ddim. Beth sydd yn gorfod digwydd nawr ydy fod Nick Clegg yn gorfod penderfynu ffurfio llywodraeth clymblaid efo un ai Llafur neu’r Ceidwadwr.
Mae’n rhaid dweud, mae Nick Clegg wedi rhoi ei hun mewn sefyllfa cyn yr etholiad; fe wnaeth ymrwymiadau sydd nawr yn dod yn l i’w frathu. Yn rhywbeth dwi’n cysidro yn benderfyniad byrbwyll, cyhoeddodd yn achos senedd grog, byddai’n gweithio gyda’r parti oedd efo’r mwyafrif o bleidleisiau. Tra mae hyn yn ymweld fel y dewis teg, golygai fod Clegg nawr yn rhwym i ddyletswydd i drafod gyda’r Ceidwadwyr gyntaf plaid sydd efo polisau sydd yn hollol groes i rai’r Rhyddfrydwyr. Bydd ffurfio clymblaid gyda Llafur yn golygu byddai Clegg yn cael ei system cynrychiolaeth gyfrannol o bleidleisio a gan fod polisau Brown yn fwy tebyg i rai Clegg, byddai cyfaddawd yn haws i’w gyrraedd a byddai hyn yn fuddiol i’r ddau ochr. Ond, democratiaeth ydy hyn a byddai mynd yn l ar ei air a siarad gyda Brown yn nid yn unig gwneud i Clegg edrych yn ddrwg, ond hefyd yn cyffroi’r cyhoedd; pa fath o ddemocratiaeth ydyw os ydy’r Rhyddfrydwyr yn ffurfio llywodraeth gyda’r rhai llai poblogaidd o’r ddwy blaid, am y rheswm byddai’n fuddiol iddyn nhw eu hunain? Ac wedyn, tra mae ein gwleidyddion wedi’u cloi yn y broses trafodaeth, mae gwerth y Bunt Brydeinig yn parhau i lithro lawr llethr llithrig. Mae’r farchnad, sydd ddim angen llawer o reswm i ddychryn, yn edrych tuag at Roeg ac yn tybio os mai Prydain fydd nesaf.
Mantais o lywodraeth clymblaid ydy byddai gwleidyddion yn gorfod gosod eu gwahaniaethau pitw i un ochr a gweithio gyda’i gilydd, yn canolbwyntio ar beth fyddai well i’r genedl. Byddai’r penderfyniadau sydd yn cael ei wneud gan y fath hon o lywodraeth yn gwbl gynrychiadol o’r genedl gyfan. Ar y llaw arall, byddai clymblaid aneffeithiol yn dod ac ansefydlogrwydd i’r senedd, a phenderfyniadau ddim yn cael eu gwneud.
Mae digwyddiadau’r flwyddyn wleidyddol hwn hyd yn hyn yn sicr wedi bod yn hanesyddol. Dyma’r tro cyntaf i fi fod diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn wir, mae’r genedl gyfan i weld wedi cymryd sylw a sylweddoli fod angen newid. Mae Gwleidyddion wedi sylweddoli o’r diwedd fod y system pleidleisio angen ei ddiweddaru a bod wyneb gwleidyddiaeth wedi’i adfywio i nifer o bobl. Pan Googlais ‘senedd grog’ am wybodaeth, cefais borthiant Twitter ar y pwnc, yn dangos pa mor awyddus ydym ni i wybod y diweddaraf! Dwi ddim yn gwybod amdanat ti, ond dwi’n disgwyl yn awyddus i beth ddaw yn y dyddiau nesaf, wedi’r cwbl, gallent fod yn offerynnol yn sut bydd ein gwlad yn cael ei redeg yn y dyfodol.
DELWEDD: mlhradio