Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Senedd Ieuenctid Prydain Yn Profi Dylai Oed Pleidleisio Aros

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 01/11/2010 at 17:12
0 comments » - Tagged as Education, People, Topical, Work & Training

  • senedd

English version

Cynhaliwyd y Senedd Ieuenctid Prydain Blynyddol wythnos diwethaf yn y T?’r Cyffredin ac, o fod yn gwbl onest, dwi'n gefnogwr cryf o bobl ifanc yn cael i mewn i wleidyddiaeth ac ni ddylai hyn fod yn rhywbeth sydd yn newid.

Ond, dwi ddim yn teimlo fod mai dadl anwleidyddol, amhleidiol ydy'r ffordd i hyrwyddo gwleidyddiaeth ymysg pobl ifanc, dylai pawb adael i adain ieuenctid bob plaid gynnal dadl fisol. Yna byddwn yn gweld gwir ddadl am faterion sydd nid yn unig yn bwysig i bobl ifanc, ond hefyd i'r dryswch o aelodau ifanc yn erbyn eu plaid wreiddiol a'u cyfatebwyr gwrthblaid.

Roeddwn i'n eithaf edmygus fod y Senedd Ieuenctid wedi gadael i bobl o holl agweddau gwleidyddiaeth i gymryd rhan, yn benodol Connor Morgan, y cynrychiolydd cyntaf o Sinn Fein i siarad yn y T?’r Cyffredin.

Cadeiriodd John Bercow, llefarydd T?’r Cyffredin, ddadl deg iawn, gan ofyn cwestiynau gan nifer tebyg o aelodau benywaidd a gwrywaidd yn y t?, yn ogystal sicrhau bod pob ardal o Brydain yn cael ei amser.

Nid oedd unrhyw syndod efo'r prif bynciau dadl; addysg rywiol, ffioedd dysgu ac addysg ysgol. Roedd dau wahaniaeth allweddol i'r ddadl oedd yn dod fel newid braf wedi'u selio ar y rhyfel yn Afghanistan a chost trafnidiaeth yn Llundain a gweddill Prydain o gymhariaeth.

I fod yn gwbl onest roedd llawer o areithiau gwych o fewn y dadlau (a nifer o rai sl hefyd) a bydda ti'n disgwyl i ddetholiad ohonynt i wneud eu ffordd i mewn i wleidyddiaeth prif lif ac i helpu gwneud gwahaniaeth i'n gwlad.

Yn bendant roedd yna gymeriadau diddorol yn y t? (juniorpickles, y bachgen emo a'r bachgen efo'r affro [affro gwych]) o'r fath ti ddim ond yn ei gael yn y Senedd Ieuenctid. Gallet ti ddweud ei fod yn newid braf o'r siwtiau arferol gydag amrywiaeth o deis lliwgar (roedd gen ti hynny hefyd ond roedd llawer oedd ddim ofn dangos ei unigoliaeth yn y t?).

Galwa fi'n pedantaidd ond roedd yr holl gymeradwyo swnllyd parhaol yn eithaf diflas, er roedd y don Mecsicanaidd wedi gwneud i mi chwerthin gan na feddyliais i erioed byddwn i'n gweld y fath beth yn y t?. Roeddwn i'n hanner disgwyl i'r bobl ifanc wneud y do si do a dechrau dawnsio gyda'u partneriaid.

Dwi'n gobeithio byddwn ni'n cael dadl fwy effeithiol o fewn adain ieuenctid y pleidiau gwleidyddol, fel bod ni’n cael ychydig o ddadl danbaid o fewn y t? fydda'n hyfforddiant gwych i wleidyddwyr y dyfodol, ac yn gadael i'r pleidiau prif ffrwd weld y genhedlaeth nesaf yn gweithio.

Gwybodaeth – Gwleidyddiaeth Ieuenctid

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.