Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Seis Sero

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 20/05/2009 at 15:22
0 comments » - Tagged as Culture, Fashion, Food & Drink, Health, People, Topical, Yn Gymraeg

English version

Anniogel, anghyffyrddus, hyll a thew?

Edrycha ar luniau o dy eiconau yn y cyfryngau, cylchgronau a theledu a dyma ydy sut mae rhai ohonom yn dechrau teimlo.

Er bod rhai selebs yn edrych fel hyn, ni olygai eu bod nhw’n brydferth. Roedd rhaglen ddogfen yn ddiweddar am golli pwysau eithafol, a chafodd effaith brawychus arnaf i.

Mae ceisio cyflawni’r golwg seis sero prydferth yma yn beryglus, efo rhai selebs wedi marw er mwyn edrych yn wirion o denau.

Bu farw Karen Carpenter o drawiad y galon yn 1983 drwy ei brwydr gyson i fod yn denau ac fe laddodd anorecsia nerfosa hi gan fod ei arferiadau bwyta hi wedi dod yn anhwylder. Cafodd y trawiad calon ei achosi gan afreoleidd-dra curiad ei chalon a achoswyd gan anghydbwysedd cemegol sydd yn gysylltiedig ag anorecsia nerfosa a chamfaethiad. Roedd hi’n ganwr enwog iawn ac roedd y cyfryngau a’r cyhoedd wedi brawychu pan glywsom.

Pls paid chael dy annog i edrych fel hyn gan eu bod nhw yn rhoi eu hunain mewn perygl i fod mor denau. Mae’n rhaid dy fod wedi clywed am bobl fel Nicole Richie, Lindsey Lohan a Mary-Kate Olsen.

Ydy, maen nhw’n enwog, yn gyfoethog ac yn ddel ond maen nhw hefyd gyda phwysau isel ofnadwy. Mi fetiai bod pob un ohonoch chi enethod yn edrych ar y cylchgronau yma fel ydw i, yn dymuno bod mor denau hynna. Ond beth ti ddim yn ei ddeall ydy nid yw’n brydferth bod y ffordd yno. Mae’r selebs yma yn mynd a’u hunain i’r eithaf i gyflawni’r golwg erchyll yma.

Roedd Marilyn Monroe, y ferch fwyaf prydferth yn ein hamser, yn seis 16 synhwyrus. Byddai hynna yn digwydd y dyddiau hyn?

Yr unig beth rwyf eisiau ei ddweud ydy mai ti wyt TI ac fe ddylet aros yn iach. Paid teimlo pwysau’r cyfryngau, neu gallet farw.

Nodyn Is-Olygydd: Er yn llai cyffredin, mae bechgyn yn gallu dioddef o anhwylderau anorecsia a phwysau delwedd corff hefyd.

Am wybodaeth  ar ble i gael cymorth a chyngor ar bob math o faterion iechyd ymwela’r cyfeiriadur iechyd.

Am fwy o wybodaeth am anhwylderau bwyta clicia yma.

Llun gan: auerirdische sind gesund

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.