Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Sarah Baker: Yr Un

Posted by Dan (Sub-Editor) from Cardiff - Published on 08/02/2010 at 15:01
0 comments » - Tagged as Topical

English version

Ysgrifennais y gerdd 'The One' pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd yn l yn 2001.

Roeddwn i'n cael fy mwlio am un ai bod dros fy mhwysau, yn wallt coch neu'n goth, ond roedd gen i gr?p da o ffrindiau oedd yno bob tro i mi.

Yn 2006 gofynnodd Carol, o Grassroots, os hoffwn i ymuno gydag eraill i greu fideo o un o'm ngherddi, ac – gan benderfynu byddai'n dipyn o hwyl – dywedais ia.

Dewisais y gerdd yma am mai hwn ydy un o fy ffefrynnau a hwn sydd efo'r ystyr mwyaf tu l iddo. Tua blwyddyn ar l creu'r fideo cefais wybod fy mod wedi ennill gwobr amdano gan sefydliad Achub Y Plant a nawr mae'n cael ei ddefnyddio drwy ysgolion a chanolfannau hamdden fel rhan o ymgyrch gwrth-fwlio.

Dwi'n gobeithio bydd llawer o bobl yn dysgu o hwn a bydd yn dangos i ddioddefwyr bwlio fod, ta waeth pa mor galed ydy bywyd, gyda'r gr?p iawn o ffrindiau a digon o gryfder mewnol, gall bwlod cael eu gorfodi i bwyntio'r bys atyn nhw eu hunain yn hytrach nag at eraill.

Os wyt ti wedi cael dy fwlio, nid yw'n rhywbeth ti byth yn dod drosto, ond fe allet ti gael drwyddo.

Rydym yn CARU fideo Sarah ac yn dangos ef pan fyddwn yn cynnal gweithdai, ble mae'n cael ymateb da bob tro. Help am fwlio ar gael yma.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.