Rydym Yn Ôl!
Os oeddet ti'n ceisio mynd ar unrhyw un o wefannau CLIC yn ddiweddar efallai dy fod di wedi sylweddoli ar absenoldeb bach o... popeth. Roedd theorïau cynllwynio yn lledaenu: Estroniaid? Skynet? Math o gynllun cysylltiadau cyhoeddus coeth? (Fy ffefryn personol oedd ein bod wedi cael ein herwgipio gan gathod eto...)
Mae'r gwir yn ychydig mwy diflas: roeddem yn uwchraddio ychydig o bethau technegol i sicrhau bod ein diogelwch yn gyfoes ac roedd hyn wedi cymryd mwy o amser nag yr oeddem wedi meddwl, ac roedd rhaid i ni ddisgwyl nes ar ôl y Nadolig cyn i'r gwaith gael ei gwblhau. Dwi'n meddwl y dylem gadw at y theori gyda'r cathod.
Felly: RYDYM YN ÔL ac, o gysidro bod yr erthygl ddiwethaf gafodd ei gyhoeddi yn ôl yn fis Rhagfyr, mae gwir angen cynnwys ffres! Rydym yn gweithio'n galed yma ym Mhencadlys CLIC i geisio cael popeth yn ôl fel yr oedd, felly os oes gen ti sylwadau, farn, adolygiadau, erthyglau neu unrhyw beth arall hoffet ti ei ddweud, yna cyflwyna rhywbeth i ni a byddwn yn gweithio i'w gyhoeddi cyn gynted ag sy'n bosib. Mae'n dda bod yn ôl!
Felly beth sydd wedi newid?
Er mwyn cadw ein defnyddwyr a'u gwaith yn ddiogel, un peth rydym yn gofyn i bawb ei wneud ydy diweddaru eu cyfrinair. Mae'n ymarfer da ar gyfer unrhyw gyfrifon ar-lein sydd gen ti, ac rydym wedi sicrhau bod hyn yn syml iawn: y tro nesaf byddi di'n mewngofnodi bydd gofyn i ti ddewis cyfrinair newydd. Rydym yn dy annog i greu cyfrinair 'cryf': sef cyfrinair sydd yn cynnwys o leiaf un llythyren fras, llythyren fach a rhif (mae hyn yn ei wneud yn annhebygol iawn i unrhyw un fedru dyfalu dy gyfrinair). Dim ond dau eiliad bydd hyn yn ei gymryd a gallet ti gychwyn cyflwyno wedyn. Ac os wyt ti efo unrhyw broblemau, fel ddim gallu cofio pa e-bost defnyddiais di neu os oes gen ti anawsterau yn mewngofnodi, cysyllta a gallem helpu. Gallet ti e-bostio neu yrru neges Facebook neu ymwela â'n tudalen cyswllt am fwy o ffyrdd i gysylltu.