Rownd Derfynol BYB!
Mae'r frwydr wedi cychwyn!
Mae'r rowndiau cynderfynol wedi dod i ben ac mae'r frwydr derfynol bron wedi cyrraedd. Rydym wedi cynnal rowndiau cynderfynol dros Gymru yn chwilio am yr act Cymraeg gorau heb ei arwyddo, a dydd Iau yng Nghlwb Ifor Bach, gall wylio'r bandiau yn ymladd am y brif wobr: agor i 4,000 o bobl ar brif lwyfan MERTHYR ROCK a gitr arbennig Schecter Tempest gwerth £750.
Mae hwn yn sicr o fod yn gig anhygoel, ac am £5 yn unig ar y drws byddet yn wallgof i fethu hwn os wyt ti'n ffan o gerddoriaeth. Gall hyd yn oed ennill tocynnau am ddim (gweler isod).
Mae'r rownd derfynol yn digwydd yng Nghlwb Ifor Bach dydd Iau yma. Drysau ar agor am 7pm a'r bandiau yn cychwyn am 8pm.
Welwn ni chi gyd yno.
Y BANDIAU TERFYNOL:
Editions
Genre: Pop-Pync
Cafodd y rocwyr-pop o De Cymru, Editions, ei ffurfio o lwch The Story So Far, Set In Motion a The Guns. Roedd y band yma wedi creu cynnwrf mawr yn Institiwt Glyn Ebwy ar noson agoriadol y rowndiau cynderfynol, ac yn sicr o fynd yn bell.
The Hotel Ambush
Genre: Metel Trwm
FFAITH: Mae llais Lee Newbold mor bwerus os byddai Justin Bieber byth yn cerdded o fewn 10 milltir o gig Hotel Ambush byddai ei ben yn ffrwydro'n syth.
Enillwyr y rownd gynderfynol ym Mhorth, roedd y band yma wedi rocio'r Ffatri mor galed fel bod ein clustiau yn parhau i ganu.
Eric Unseen
Genre: Indie / Reggae / Roc
Eric Unseen oedd enillydd ein rownd gynderfynol yn Sin City, Abertawe. Daethant churiadau dyrchafol i'r llwyfan a thorf i'r llawr ddawnsio. Nid un i'w fethu.
Men On The Chessboard
Genre: Ffync / Seicodelig
Er bod rhaid canslo'r rownd Pen-y-bont ar Ogwr, a'r beirniaid ddim yn cael mwynhau gig ffrwydro'r clustiau fel yn y rowndiau cynt, gyrrwyd y traciau iddynt a mynnu eu bod yn cael eu chwarae ar sain uchel iawn cyn cyrraedd penderfyniad. Roedd yn anodd, ond wynebau gwyllt Men On The Chessboard oedd yn berchen arni a chyhoeddwyd fel enillwyr Pen-y-bont ar Ogwr.
The Undivided
Genre: Amgen / Indie / Roc
The Undivided gafodd ei ddewis fel cerdyn gwyllt y gystadleuaeth hon: tra cawsant eu curo (yn gul iawn) gan Eric Unseen yn rownd Sin City, unwaith roedd pob act wedi'i gweld roedd y beirniaid yn cael pigo un band ychwanegol i yrru drwodd, a phenderfynwyd fod y band yma yn dal i haeddu cyfle i gystadlu am y brif wobr. A fydda nhw'n defnyddio'r ail gyfle yma i roi Eric Unseen yn ei le a chymryd y brif wobr? Tyrd draw dydd Iau i weld.
ENILL TOCYNNAU AM DDIM
Mae £5 yn fargen lwyr, ond os wyt ti eisiau gweld y bandiau anhygoel yma am ddim yna dyma sut i geisio'r gystadleuaeth: gad sylwad ar yr erthygl hon. Syml.
{Logia i mewn/arwydda i fyny a phostio sylwad. Dweud beth bynnag hoffet. Paid gadael manylion personol – byddet wedi defnyddio cyfeiriad e-bost a/neu rif ffn symudol wrth arwyddo i fyny, felly byddwn yn cysylltu gyda thi trwy hwnnw.]
Cadwa olwg ar ein gwefan (a sicrhau dy fod di wedi arwyddo i fyny am y CLICshot) gan fyddem yn rhoi tocynnau am ddim allan i ?yl Merthyr Rock yn fuan iawn!