Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Rl Gwrth-fwlio Disgyblion

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 17/11/2010 at 15:54
0 comments » - Tagged as Education, Health, People, Topical

  • Anti bully

English version

Mae pobl ifanc Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyfuno eu sgiliau gwneud ffilmiau er mwyn dod a neges bwerus yn erbyn bwlio ar y rhyngrwyd i bobl ifanc eraill yng Nghymru.

Mae’r disgyblion o Ysgol Gyfun Aberogwr ym Mryncethin wedi penderfynu taclo’r broblem gynyddol o fwlio ar-lein drwy greu DVD, o’r enw Cyber Bully, gyda chymorth Gwasanaeth Cefnogaeth Gyfoed i Mewn yn eu Hysgol a grwpiau celf leol, Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro.

Ers y lansiad, mae’r ffilm a’r llyfryn cysylltiedig wedi cael ei ddangos i ddisgyblion trwy Gymru, yn dysgu iddynt sut i aros yn ddiogel mewn ystafelloedd sgwrsio  (chatrooms) a sut i ymateb os oes bwli yn targedu nhw drwy neges testun neu drwy safleoedd rhwydweithio cymdeithasol.

Mae llwyddiant eu menter yn cael ei amlygu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel rhan o Wythnos Gwrth-fwlio yr wythnos hon, sydd yn bwriadu helpu pobl ifanc dros Gymru i adnabod a brwydro bwlio ac i gefnogi’r rhai sydd yn cael eu bwlio.

Kristen Obradovic, 17, o Bryncethin, oedd un o’r disgyblion weithiodd ar y DVD Cyber Bully. Yn ogystal chodi ymwybyddiaeth o fwlio, mae Kirsten yn dweud fod hi a’i ffrindiau wedi dysgu sgiliau pwysig ar sut i wneud ffilm, fel gweithio offer camera, action a chyfarwyddo.

Dywedodd: “Roeddwn yn rhan o grŵp o 10 o ddisgyblion o wahanol oedran oedd yn gweithio ar y ffilm. Darparodd Celfyddydau Cymunedol Cwm a Bro offer i ni a dangos i ni sut i actio, cyfarwyddo a sut i ysgrifennu’r sgript. Dim ond 10 munud o ffilm ydyw ond fe gymerodd tua 4 mis i wneud.

“Roeddem yn teimlo fod bwlio syber yn fater nad oedd yn cael ei daclo yn uniongyrchol. Mae pawb yn gwybod am fwlio, ond beth sydd yn digwydd pam mae plentyn yn mynd adref ac yn defnyddio technoleg?

“Roeddem eisiau gwneud y DVD i gael y neges allan fod bwlio ddim yn rhywbeth sydd yn digwydd mewn ysgolion yn unig. Trwy rwydweithiau cymdeithasol fel Bebo, Facebook a MSN, mae bwlod yn gallu parhau i wawdio eu dioddefwyr gartref,” ychwanegodd.

Mae ffigyrau diweddar yn dangos fod tua 30% o rai 10-12 oed yn cael eu bwlio mewn rhyw ffordd dros gyfnod sampl dau fis. Ac mae 15% o rai 14-15 yn dweud eu bod wedi cael eu bwlio dros yr un cyfnod.

Er hyn, mae ychydig o dystiolaeth fod lefel o fwlio wedi dirywio yng Nghymru ers 2005/06 gall fod yn rhannol yn ganlyniad i rai o’r rhaglenni sydd yn cael eu rhedeg mewn ysgolion ac yn cael eu hannog gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Kirsten yn bwriadu mynd a beth mae hi wedi’i ddysgu o ymgyrch gwrth-fwlio ei hysgol a pharhau i helpu eraill pan fydd yn gadael yr ysgol. Dywedodd: “Fe fwynheais wneud y ffilm am fwlio gan fy mod yn wastad wedi  bod ag angerdd i helpu pobl.

“Dwi’n ymgeisio am gyrsiau prifysgol ar y funud a byddwn yn hoffi dod yn seicolegydd addysgiadol fel gallaf barhau i helpu disgyblion efo’u problemau.”

“Roeddem wedi bod yn gwneud llawer o weithdai am fwlio yn fy ysgol, yn siarad am yr holl emosiynau sy’n ymglymedig bwlio, fel dig. Dwi’n cymryd rhan mewn cefnogaeth gyfoed a dwi’n meddwl ei fod yn bwysig i weld dau ochr y ddadl gan fod bwlod efo problemau hefyd.

“Yn ein ffilm roeddem yn dangos sut roedd y dioddefwr yn teimlo a hefyd pam fod y bwli yn pigo ar eraill. Dangosom fywyd cartrefol y bwli, oedd ddim yn sefydlog iawn, ac yn dangos sut  mae hynny yn gallu dylanwadu ar eu gweithred a sbarduno nhw i fwlio eraill.

“Yna roeddem yn dangos y bwli gyda'u dioddefwr ar ddiwedd y ffilm, pan roeddem yn deall sut roedd y llall yn teimlo.”

Bu’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, yn canmol prosiect y bobl ifanc o Ben-y-bont ar Ogwr ac yn disgrifio Wythnos Gwrth-fwlio fel cyfle gwerthfawr i athrawon, rhieni a myfyrwyr i drafod materion bwlio a sut i weithredu mesuriadau gwrth-fwlio:

“Dywedodd: “Mae unrhyw ffurf o fwlio yn annerbyniol ac mae rhaid i ni ddysgu delio gydag ef yn effeithiol i osgoi’r potensial o niwed hirdymor gallai gael ar rai pobl ifanc.

“Mae’n bwysig fod gweithwyr proffesiynol addysg efo’r sgiliau a’r offer cywir i adnabod pan fydd plentyn yn cael ei fwlio fel bod posib delio gyda hyn yn effeithiol, a rhoi mesuriadau ataliol mewn lle.

“Dwi’n gobeithio bydd Wythnos Gwrth-fwlio yn galluogi gweithwyr proffesiynol, rhieni a myfyrwyr i rannu arferion da a dysgu o brofiadau ei gilydd.”

Wythnos Gwrth-fwlio 2010

Y 411 Ar Fwlio
gan dirty

Tudalen Gwybodaeth Bwlio CLIC

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.