Rhywle i_Uned 14 ProMo Cymru
Chwilio am rywle i_(somewhereto_) ddysgu sut i ddefnyddio offer ffotograffiaeth stiwdio?
Am rywle i_greu fideo (hyd yn oed os ti heb greu un o'r blaen)?
Neu beth am rywle i_gyfarfod gyda ffrindiau i drafod syniadau?
Croeso i Uned 14 ProMo-Cymru ym Mae Caerdydd – ystafell cyfarfod/uned fideo/stiwdio tynnu lluniau.
- Fel gofod cyfarfod, mae Uned 14 yn cynnwys ynys pum desg, hyd at 15 o gadeiriau, wi-fi, bwrdd gwyn, siartiau fflip, sgrin fideo a netbooks hyfforddi – yn ogystal â hyn mae ardal lolfa gyda soffa gyffyrddus, tegell, te a choffi.
- Fel stiwdio tynnu lluniau, gall Uned 14 gynnig camera DSLR fodern a'r goleuadau gorau (megis fflach allanol, impulse a goleuadau ffilm), cefnlenni du a gwyn, adlewyrchon, 'softboxes' ac, os wyt ti'n lwcus iawn, cyngor ac arweiniad gan aelodau staff.
- Fel uned fideo, gall y gofod hwn gynnig camera DSLR gyda microffonau allanol o wahanol allu, sgrin werdd, goleuadau ffilm, pecyn animeiddio ac amrywiad o feddalwedd golygu fideo.
A phaid anghofio'r lleoliad: warws bric coch trawiadol ym Mae Caerdydd, sydd yn hawdd cyrraedd gyda thrafnidiaeth gyhoeddus – pam ddim ymbleseru gyda hufen iâ yn edrych dros y môr ar ôl diwrnod cynhyrchiol? Uned 14, Gweithdai Royal Stuart, Adelaide Place, Caerdydd, CF10 5BR.
Os wyt ti'n 16-25 yna mae croeso i ti ddefnyddio'r gofod hwn. I wneud cais amdano (yn ddibynnol ar os yw'n rhydd), e-bostia cat@somewhereto.org.
Hefyd, am newyddion a'r diweddaraf am y prosiect somewhereto_ yng Nghymru dilyna ni ar twitter @somewhereto_WLS.
Erthyglau – Categorïau – Gwaith a Hyfforddiant
Ar y We – Gwybodaeth Diogelwch
Erthyglau – Categorïau – Diwylliant
Erthyglau Perthnasol:
DELWEDDAU: TheSprout.co.uk