Rho Ac Fe Gei
Mae rhai ohonoch yn gwybod Orange fel y lliw neu hyd yn oed mwy ohonoch am ei rwydwaith ffn, ond faint o bobl sydd yn adnabod Orange am wirfoddoli?
Dim llawer dwi ddim yn meddwl.
Wel mae Orange yn rhedeg cynllun i wobrwyo plant a phobl ifanc am eu gwaith gwirfoddol. Enw’r cynllun gwych yma ydy’r gydweithfa Orange Rockcorps.
Mae’r cynllun hwn yn hollol unigryw am ei fod yn gwobrwyo plant a phobl ifanc am eu holl waith gwirfoddol anhygoel gyda thaleb £30 i wefan tocynnau poblogaidd, Ticketmaster. Mae’r daleb hwn yn gadael i ti brynu ticedi i bob math o gigs gwych, o gyngerdd Katy Perry i sioe gomedi Russell Howard.
Felly sut ydw i’n cael taleb gig? Wel mae’n un o’r gwefan hawsaf i gofrestru gyda, ar l CLIC wrth gwrs. Ti’n cychwyn drwy fynd i wefan cydweithfa Orange Rockcorps www.orangerockcorps.co.uk ac yna’n clicio ar y gydweithfa (collective) Orange Rockcorps, yna cofrestra ar y wefan a llwytho llun.
Wedyn bydd rhaid rhoi gwybodaeth ar dy brosiect, pam dy fod di wedi gwirfoddoli, pwy ti wedi gwirfoddoli hefo, pryd wnes di wirfoddoli, gwybodaeth fel yna i gyd. Ti hefyd angen rhoi enw cyswllt sydd yn gallu cadarnhau dy fod wedi gwirfoddoli, cofia dy fod wedi gorfod cyfrannu lleiafswm o bedair awr a bod o leiaf 16 oed.
Yna disgwylia ychydig ddyddiau i Orange wireddu’r cais a voila bydd taleb £30 yn cael ei yrru i ti i Ticketmaster, ar gyfer gig o dy ddewis. Felly am beth wyt ti’n disgwyl?
Os wyt ti wedi gwirfoddoli gall gael dy wobrwyo am dy ymdrechion, cofia Rho: Ac Fe Gei.
Erthyglau perthnasol:
Rho, Ac Fe Dderbynnir ar theSprout
LINCIAU:
Tudalen gwybodaeth Gwirfoddoli CLIC