Rho, Ac Fe Dderbynnir
Caru miwsig? Caru gwirfoddoli? Felly hefyd mae Orange RockCorps. Dyma pam rydym wedi cyfuno’r ddau i greu’r arddangosiad cerddorol gwirfoddol go iawn. Ychydig fel fersiwn Cymraeg o Glee.
Na, dim go iawn.
Yn wirioneddol rydym yn rhoi tocyn i gig o dy ddewis i ffwrdd i unrhyw un sydd wedi gwneud unrhyw waith gwirfoddol yn y chwe mis diwethaf. Gall fod yn unrhyw fath o wirfoddoli, i elusen neu brosiect cymunedol. Bydd rhaid i ti fod wedi gwneud o leiaf pedair awr a bydd rhaid i hyn gael ei wireddu gan y person ti wedi gwirfoddoli oddi tano. Os wyt ti wedi gwneud hyn i gyd yna'r unig beth sydd yn rhaid i ti wneud wedyn ydy dod yn rhan o’r Gydweithfa Orange RockCorps. Llwytha dy stori gwirfoddoli ar y wefan ac fe gei di diced i fynd i gig rwyt ti wedi bod yn breuddwydio amdano.
Hyd yn oed mwy o Wobrau
Yn well eto, os wyt ti’n cael 10 o dy ffrindiau i lwytho eu stori gwirfoddoli yna gallan nhw i gyd gael ticedi a byddi di yn cael Blackberry fel gwobr am ddod yn llysgennad i’r Gydweithfa. Felly, nid yn unig fydd gen ti grŵp mawr ohonoch i fynd i’r gig yna, bydd gen ti Flackberry hefyd. Beth sydd ddim i’w hoffi?
Rho, Ac Fe Dderbynnir
Os nad wyt ti wedi bod yn gwirfoddoli yn ddiweddar yna dyma’r cyfle. Edrycha am gyfleoedd gwirfoddoli yn ardal Caerdydd. Unwaith fyddi di wedi bod yn gwirfoddoli yna rwyt ti’n gallu ceisio am y ticed yna drwy rannu dy stori ar y tudalennau Cydweithfa. Cofia, rydym yn llwytho cyfleoedd gwirfoddoli drwy’r adeg felly tyrd yn l yn rheolaidd i weld prosiectau newydd.
Ychwanega ni ar twitter am wybodaeth gyfoes ar brosiectau/ cystadlaethau/ bywyd!
(Nodyn Golygydd: hmmmmm, felly golygai hyn os wyt ti’n gwneud pedwar awr o wirfoddoli gyda theSprout neu unrhyw wefan CLIC arall, byddet yn gallu cael ticed gig o dy ddewis am ddim. Mae hyn yn wych!)
DELWEDD: marfis75