Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Rhaglen Llysgennad Ifanc

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 21/02/2012 at 11:32
0 comments » - Tagged as Education, Health, People, Volunteering, Yn Gymraeg

  • llaw

English version

Mae'r elusen gwrth-fwlio sydd wedi ennill gwobrau, BulliesOut, wedi dylunio Rhaglen Llysgennad Ifanc i ddenu gr?p deinamig o bobl ifanc (12-25 oed) sydd efo diddordeb mewn nid yn unig cefnogi BulliesOut ond yn gwella eu cymuned.

Mewn ymdrech i gysylltu chi mewn dyngarwch, mae ein Rhaglen Llysgennad Ifanc wedi'i ddatblygu i godi ymwybyddiaeth ymysg chi o'r elusen BulliesOut a'i waith.

Trwy gyfranogiad yn y rhaglen hon, ti'n dysgu sgiliau arweinyddiaeth, sut mae sefydliad ddim er elw yn gweithio a sut i ddatblygu, hyrwyddo a gweithredu dy syniadau.

Bydd y rhaglen yn rhoi'r hyder a'r sgiliau i ti i siarad allan yn erbyn bwlio fel bod llais ieuenctid heddiw yn cael ei glywed gan bawb. Drwy greu Llysgennad Gwrth-fwlio, bydd yr elusen yn creu llais ieuenctid cryf yn erbyn bwlio ac yn rhoi hwb sylweddol i'ch datblygiad.

Dywedodd Linda James, Sylfaenydd a Prif Weithredwr: "Rydym yn gyffrous iawn am gyfranogiad y Llysgennad 'Gwrth-fwlio' Ifanc yng ngweithgareddau BulliesOut. Gweledigaeth y rhaglen ydy annog a chefnogi ein hieuenctid i dyfu i mewn i oedolion cysylltiedig. Mae cyfranogiad ieuenctid yn elfen allweddol sydd yn cefnogi datblygiad ieuenctid positif."

Mae'r Rhaglen Llysgennad Ifanc yn cynnig y cyfle i ti gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ystod y flwyddyn gyda'r elusen gwrth-fwlio gafodd ei sefydlu yn 2006.

Ychwanegodd Natalie Elward, Swyddog Datblygu Ieuenctid BulliesOut "Dylai pobl ifanc fod yn gyffrous iawn am y cyfle i ddod yn llysgennad ifanc. Mae'n gyfle gwych i ennill y sgiliau mae gwirfoddoli yn ei roi a llawer mwy! Mae digwyddiadau preswyl, cael llais a gweithio yn rhyngwladol yn rhai o'r heriau cyffrous gallent gymryd rhan ynddynt."

Gwybodaeth bellach a phecyn cais ar gael o'n gwefan www.bulliesout.com.

Tudalen Bwlio
Wythnos Gwrth-fwlio

DELWEDD: Tojosan

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.