You are here: Home » Articles » Review: Bride Wars
Review: Bride Wars
Posted by archifCLICarchive from National - Published on 15/07/2009 at 14:51
- Tagged as Movies, Yn Gymraeg
Es i a fy ffrind gorau i weld Bride Wars yn y Sinema yn Nantgarw. Roedd yn ffilm ardderchog.?
Mae’r ffilm yn dechrau gyda’r ddwy yn dywedd?o yn 28 oed. Yna mae nhw’n mynd i drefnu priodasau yn y gwesty mwyaf crand ym Efrog Newydd sef y Plaza Hotel , ond yn anffodus doedd dim lle i'r ddwy ar ddiwrnod gwahanol felly yr unig opsiwn oedd cael eu priodasau ar yr un diwrnod. Nid oeddent yn hapus iawn. Roeddent wedi breuddwydio cael eu piodasau yma ers blynyddoedd.
Yn ystod yr wythnos nesaf roeddent yn ceisio dinistrio priodasau ei gilydd. Roedd Liv wedi newidd lliw haul Emma fynd o frown i oren.
I dalu’r pwyth yn ?l mae Emma yn mynd i’r siop trin gwallt lle mae Liv yn cael ei gwallt wedi neud. Mae’n rhoi lliw gwallt glas i mewn i'w chymysgedd sydd wedyn yn mynd i mewn i wallt Liv.
Mae Emma yn troi lan i barti dathlu Liv i ddangos ei doniau dawnsio. Mae Emma hefyd yn danfon siocled a losin i at Liv i’w wneud yn dew felly ni fyd yn gallu ffitio i mewn i’w ffrog briodas.
Wedyn mae cyfeillgarwch Emma a Liv yn troi’n chwerw.
Mae’r ddwy ferch yn gweld ei gilydd yn yr gwesty lle mae’n nhw’n mynd i briodi. Cyn i Liv adael a cherdded i’r cysegr mae’n gweld Tad Emma gyda blessing. Mae’n teimlo’n euog am newid CD priodas Emma. Mae’n danfon ei gwas i drawsnewid yr un anghywir gyda’r un iawn sy’n llawn atgofion ei phlentyndod. Ond nid yw’r gwas yn gwneud hynny , mae’n gollwng y CD yn y bowlen flodau ac yn dweud Neu di ddiolch i mi rhyw ddydd.
Mae Emma yn dechrau cerdded i lawr yr llwybr gyda’i gwas pan mae fideo o’i gwyliau haf yn dod i fyny ar y sgrin. Mae’n rhedeg nerth e thraed draw i ochr arall y gwesty at briodas Liv ac yn neidio ar ei phen ac y mae’n nhw’n ymladd. Yn y diwedd mae’n nhw’n stopio ymladd ac yn dod yn ffrindiau eto. Mae Emma yn mynd lan at ei chariad ac yn dweud Nid fi y rwyt ti’n garu , nid yw’n mynd i weithio allan. Mae'n rhoi ei modrwy yn ?l iddo ac mae ei chariad yn rhedeg allan o’r stafell yn crio.?
Ymhen blwyddyn mae’r ddwy yn cwrdd mewn c?fe ac mae Emma yn dweud ei bod wedi priodi Nate sef brawd Liv. Mae’r ddwy yn cyfeddef eu bod yn feichiog ac yn cael ?babi ar yr un diwrnod sef Mawrth y 3ydd. O na!!