Relapse
Ar ?l cyfnod hir o orffwys ers rhyddhau ei albwm diwethaf, mae Eminem n?l, gyda’i gryno ddisg newydd Relapse.
Oherwydd safon uchel ei gerddoriaeth, roedd disgwyliadau yn uchel ar gyfer yr albwm newydd, ac yng nghanol Mehefin 2009, cafodd Relapse ei rhyddhau.
Fel y disgwylir, ni wnaeth Relapse ein siomi, gyda’r sengl We Made You yn hedfan yn syth i’r 5 o ganeuon mwyaf poblogaidd yn y siart rhyngwladol.
Serch yr iaith liwgar sy'n cael ei ddefnyddio?yn y?rhan fwyaf ei ganeuon, mae pobol yn parhau i brynu ei gerddoriaeth am fod ei sgiliau rapio a’i gerddoriaeth mor dda, ac mae pobol medru gydymdeimlo gyda’r bywyd caled y mae o wedi ei wynebu cyn dod yn enwog.
Fel ei gryno ddisgiau eraill, cafodd Relapse ei gynhyrchu a threfnu gyda chyd rapiwr byd enwog Eminem, sef Dr.Dre. Mae’r albwm yn cynnwys caneuon gyda Dr. Dre a 50 cent yn perfformio gyda Eminem, sydd yn ychwanegu at yr amrywiaeth o arddulliau rapio sydd?i'w clywed ar y gryno ddisg.
Ar sail y safon o’r gerddoriaeth a glywaf yn ystod yr albwm, rhoddaf 8 allan o 10. Dyma’r rhestr o ganeuon sydd i’w gweld ar y cryno ddisg.
1. Dr. West (skit)
2. 3 A.M.
3. My Mom
4. Insane
5. Bagpipes From Baghdad
6. Hello
7. Tonya (skit)
8. Same Song & Dance
9. We Made You
10. Medicine Ball
11. Paul (skit)
12. Stay Wide Awake
13. Old Time's Sake (featuring Dr. Dre)
14. Must Be the Ganja
15. Mr. Mathers
16. D?j? Vu
17. Beautiful
18. Crack a Bottle (featuring Dr. Dre and 50 Cent)
19. Steve Berman (skit)
20. Underground/ Ken Kaniff