Refferendwm Cymru
Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Erthygl Fwyaf Defnyddiol yng Ngwobrau CLIC 2011.
Mae’r refferendwm Cymru wedi cyrraedd.
Gyda heddiw yn 3 Mawrth, mae dinasyddion Cymru efo’r cyfle i bleidleisio ar y cynyddiad arfaethedig mewn pwerau creu cyfreithion yn cael ei dirprwyo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Sut fydd hyn yn effeithio Abertawe?
Mae’r broses pleidleisio o fewn refferendwm yn un syml. Mae gofyn ar gyfranogwyr i bleidleisio Ie neu Na, i dderbyn neu wrthod yr ymgyrch arfaethedig.
Gallet gymryd rhan yn y bleidlais hon, yn syml os wyt ti wedi cofrestru i bleidleisio yng Nghymru, a dros 18 oed.
Mae’r Comisiwn etholiadol wedi gyrru llyfrynnau ar beth ydy’r refferendwm a sut i bleidleisio ynddo. Os nad wyt ti wedi derbyn copi, mae amryw fersiynau digidol ar gael ar y wefan ar waelod yr erthygl hon.
Ar hyn o bryd mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru efo’r awdurdod i greu cyfreithiau ar nifer o faterion, ond ddim i lawer arall. Os ydy’r Cynulliad eisiau ffurfio deddfwriaeth ar y materion eraill yma, mae’n rhaid iddynt gysylltu ’r Senedd Brydeinig yn gyntaf er mwyn iddynt gytuno, felly mae’r Senedd yn cadw gafael ar y p?er dominyddol dros greu cyfreithiau Cymru.
Yn amlwg gall effaith y refferendwm yma gael ei weld fel cael effaith positif neu negyddol ar y wlad gyfan, mae hwn yn safbwynt sydd wedi’i selio ar farn unigol pob pleidleisiwr.
Er bod yr effeithiau positif yn amlwg, bydd mwy o b?er yn cael ei ddirprwyo i’r gwleidyddion sydd yn byw yng Nghymru ac yn deall y materion unigryw sydd yn wynebu'r wlad.
Gan fod Abertawe yn un o drefi mwyaf Cymru, yn darparu un o’r economau cryfaf, bydd y refferendwm yn rhoi Abertawe fel llais mwy canolig wrth benderfynu deddfwriaeth.
Bydd canlyniadau’r ymgyrch yma yn cael eu cyfri o 9yb fory, dydd Gwener 4 Mawrth 2011. Bydd canlyniad lleol Abertawe yn cael ei ddatgan ochr yn ochr ’r canlyniad cyffredinol cyn gynted a chyfrir y ffigyrau.
Am fanylion pellach ymwela www.fymhleidlaisi.co.uk