Prydferthwch A'r Bwystfil
English version
Fel merch yn ei harddegau dwi’n sicr o fod efo pryderon. Mae gen i olwg gwahanol ar brydferthwch.
Ar un llaw mae gen ti’r prydferthwch amlwg fel Megan Fox, Beyonc a Cheryl Cole. Ond ar y llaw arall mae prydferthwch ar ffurf lai amlwg fel deallusrwydd, carisma, gonestrwydd (pob un yn ffactor seicolegol o brydferthwch) i enethod sydd yn naturiol brydferth ar y tu fewn a’r tu allan.
Yma dwi’n meddwl am Katie Piper, merch brydferth yn ei harddegau gafodd asid wedi’i luchio yn ei hwyneb gan gyn cariad ffiaidd a chwerw fel dial, gafodd ei gadael gydag wyneb creithiog ac angen amryw lawdriniaeth er mwyn adfer symudiad, nid prydferthwch.
Felly mewn byd lle mae cymaint o bwyslais ar yr angen i fod yn brydferth fel y sr neu i fod yn brydferth drwy anffurfiad wynebol anodd sydd yn newid bywyd, sut mae’n bosib i ferch arferol deimlo’n, wel, arferol?
Nid wyf yn berson hyderus mewn unrhyw ffordd. Dwi’n rhoi llwyth o golur ymlaen i guddio fy mhryderon. Fel ddoe, cefais fy nghyflog, a’r peth cyntaf wnes i oedd gadael ysgol, mynd i’r dref, a gwario £60 yn Boots ar golur.
Yn fy nrr colur (oes, drr cyfan ddim ond i golur) mae gen i dri phr o amrannau ffug, naw botel bron yn llawn o sylfaen (foundation) gwahanol liw a cymaint o fasgara a gall rhywun brynu.
Dwi’n gwario lleiafswm o £50 y mis ac weithiau hyd at £100 ar golur. Dwi’n ymroddi tua phymtheg munud ar ddiwrnod ysgol a tua dwy awr ar noson allan i wneud fy ngholur.
Efallai bydd rhai pobl yn galw hyn yn obsesiynol, ac ydy mae o, ond os mai dyna mae’n cymryd i fi deimlo’n hyderus yn fe wna’i o. Paid chamddeall fi, dwi’n gallu byw heb y paent-rhyfel. Dwi wedi bod i’r ysgol ac i’r dref amryw waith heb unrhyw golur ond dwi ddim yn teimlo’n hyderus a dwi ddim yn teimlo’n brydferth.
Yn y geiriadur mae bod yn berffaith yn cael ei ddiffinio fel cydymffurfio’n llwyr i’r disgrifiad a’r diffiniad o deip delfrydol. I mi mae hyn yn dweud fod bod yn berffaith yn golygu cydymffurfio i syniad rhywun arall o berffeithrwydd. Pwy sydd i ddweud beth sy’n berffaith? Dwi eisiau cyfarfod y person cyntaf i ddweud fod bod yn denau yn well, bod llygaid mawr yn well, mai gwefusau mawr ydy’r delfrydol.
Os, pan fyddaf yn deffro yn y bore ac yn edrych yn y drych ac yn hoffi beth dwi’n weld, pam ddylwn i newid fy marn yn sydyn wrth edrych drwy gyfrol Cosmopolitan neu Heat.
Felly, er y byddaf yn parhau i wisgo fy ngholur ac yn edrych i mewn i un o’m pedwar drych hyd lawn, byddaf hefyd yn ceisio cofio fod mwy ddim bob tro'n well, tenau ddim bob tro’n berffeithrwydd a bod prydferthwch bob tro yn llygaid yr un sydd yn edrych.