Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Proffil: Loud & Proud

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 19/03/2010 at 10:25
0 comments » - Tagged as Culture, Education, People

  • loud

English version

Loud And Proud Darpariaeth Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol a Trawsrywiol (LHDT) Caerdydd

Pwy ydym ni?

Loud and Proud ydy’r ddarpariaeth Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol a Trawsrywiol (LHDT) ifanc yng Nghaerdydd a’r rhai sydd efallai yn cwestiynu eu rhywioldeb neu hunaniaeth rhyw. Cafodd y prosiect ei sefydlu ar l i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd gynnal ymgynghoriad i ddarganfod os oedd pobl ifanc LHDT eisiau lle diogel i gyfarfod gyda phobl ifanc eraill o’r un meddwl.

Beth ydym ni’n gynnig ac i bwy?

Mae’r ddarpariaeth yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar ystod eang o faterion o fwlio, ‘dod allan’, defnydd cyffuriau ac alcohol, digartrefedd a chyngor rhyw ddiogel. Mae’r ddarpariaeth hefyd yn cynnig cefnogaeth un-i-un i bobl ifanc LHDT.

Mae’r ddarpariaeth yn rhedeg dau grŵp ar gyfer pobl ifanc gyda’r grwpiau yn cael eu gwahanu i mewn i grwpiau oedran, 14 & 15 a 16-25. Mae’r ddarpariaeth yn brosiect cynhwysol ac os oes ffrind sydd yn heterorywiol, yna croeso iddynt fynychu i gefnogi nhw.

Ble ydym ni?

Ar l ymgynghori gyda phobl ifanc, adnabuwyd byddai lleoliad canolog yn fwy addas gan ei bod yn haws gael mynediad i leoliad canolog nag un yn y maestrefi. Oherwydd diffyg y math yma o wasanaeth yn ardal Dde Ddwyrain Cymru mae’r ddarpariaeth hwn hefyd yn derbyn pobl ifanc o’r ardal hwn (Pen-y-bont ar Ogwr i Sir Fynwy a thrwy’r cymoedd).

Mae lleoliad y ddarpariaeth yn cael ei gadw ar sylfaen yr angen i wybod gan fod Stonewall Cymru wedi cynghori hyn i sicrhau diogelwch a gwarchodaeth y bobl ifanc sy’n defnyddio’r ddarpariaeth. Os ydy person ifanc eisiau mynychu sesiwn awgrymir eu bod yn e-bostio, galw neu tecsio’r darpariaeth ar y rhif neu gyfeiriad e-bost sydd yn cael ei hysbysu ar y poster ac ar wefan the Sprout yn y cyfeiriadur gwasanaethau. Chwilio am Loud and Proud.

Gweithgareddau a Gweithdai

Mae’r math o weithgareddau rydym yn ei gynnig i bobl ifanc sydd yn mynychu’r ddarpariaeth yn  amrywio yn ddibynnol ar anghenion presennol y grŵp a ffactorau allanol cyfredol presennol fel materion cydraddoldeb, gwahaniaethu, ayyb. Mae’r ddarpariaeth yn rhedeg gweithdy unwaith y mis gyda’r pwnc yn amrywio ar anghenion presennol e.e. arferion rhyw ddiogel, defnydd cyffuriau ac alcohol, bwyta’n iach ayyb.

Mae hefyd cyfleoedd i asiantaethau allanol ymweld ’r bobl ifanc a chynnig sesiwn wybodaeth, mae rhai o’r rhain wedi bod, neu am fod, yr heddlu, Inroads, Stonewall Cymru, tm ar y stryd ddatgysylltiedig Caerdydd.

Diddordeb? cysyllta ni ar y manylion isod
E-bost: LGBTyouthcardiff@googlemail.com
Rhif Ffn Symudol: 07816 929 726

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.