Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Problem Iechyd Meddwl

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 13/08/2011 at 12:06
0 comments » - Tagged as Health

  • pills

English version

Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Erthygl Fwyaf Defnyddiol yng Ngwobrau CLIC 2011.

Mae'r darn hwn am fy mhroblemau iechyd meddwl.

Dwi'n isel ac mae gen i broblemau pryder cyffredinol.

Cefais ddiagnosis o iselder cynharach eleni. Roeddwn wedi bod yn dioddef gyda symptomau am dipyn – yn teimlo'n drist rhan fwyaf o'r amser, yn casu fy hun, insomnia. Roedd y rhain wedi bod yn affeithio fi am flynyddoedd bob hyn a hyn. Dim ond yn ddiweddar cefais episod ddifrifol drallodus o iselder. Penderfynais fynd at y doctor i ddweud wrtho amdano ac i weld os gallai gynnig cymorth o gwbl.

Eisteddais i lawr gydag ef a dweud fy mod i'n meddwl fy mod yn isel. Esboniais sut roeddwn wedi bod yn teimlo a sut roedd wedi affeithio fi. Yn syth, cytunodd fy mod i'n isel. Gofynnodd i mi lenwi holiadur am sut roeddwn wedi bod yn teimlo. Y canlyniad oedd fy mod i'n dioddef o iselder cymedrol i ddifrifol.

Dywedodd y doctor wrthyf gan fy mod o dan 18, ni chai roi gwrthiselydd i mi. Yn lle hyn, cefais fy nghyfeirio at y seicolegydd fel rhan o CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed).

Disgwyliais am dipyn. Ni ddaeth llythyr cyfeirio.

Roeddwn i'n poeni ac yn trallodi oherwydd hyn.

Yn y diwedd, es i weld fy gastroenterolegydd am fy afiechyd Crohn. Dywedais wrtho am yr iselder. Cyfeiriodd fi at seicolegydd clinigol oedd yn gweithio gyda'r adran gastroenteroleg. Siaradom am sut roeddwn i wedi bod yn teimlo. Cychwynnom edrych dros broblemau'r gorffennol oedd efallai wedi cyfrannu. Trafodom opsiynau triniaeth posib mewn ail apwyntiad yr wythnos wedyn.

Ar l disgwyl yn agos at fis a hanner o'r apwyntiad doctor gwreiddiol, penderfynais wneud apwyntiad arall. Gwelais un o brif ddoctoriaid y feddygfa. Eisteddais i lawr a dweud wrtho sut roeddwn wedi bod yn teimlo. Tynnodd ganlyniadau'r holiadur allan roeddwn wedi'i lenwi gyda'r doctor arall. Gallai weld fy mod wedi bod yn disgwyl tipyn am yr apwyntiad CAMHS. Dywedodd wrthyf hefyd nad oedd hi'n brotocol i roi gwrthiselydd i rai dan 18, ond y byddai'n siarad gyda'i gyd-weithwyr i weld beth allai wneud. Tuag wythnos wedyn, cefais alwad yn l i ddweud roeddent yn fodlon rhoi citalopram i mi, gwrthiselydd, a zopiclone i helpu gyda'r insomnia yn y byr dymor. Es yn l at y doctor a chodi'r presgripsiwn.

O ddydd i ddydd, doeddwn i ddim wedi bod yn teimlo'n wych. Roeddwn dal wedi blino o'r insomnia ac yn dal i orfod codi yn fuan ar gyfer ysgol. Doedd hyn ddim yn helpu gyda fy nhymer.

Cychwynnais ar y citalopram ar ddos o 20mg y diwrnod. Am yr wythnosau cyntaf, doeddwn i'n teimlo'n ddim gwahanol. Ond ar l tua mis o gychwyn nhw, dechreuodd fy nhymer wella. Roedd fy mhatrwm cysgu hefyd yn dechrau normaleiddio. Roedd yr apwyntiadau gyda'r seicolegydd clinigol yn mynd yn dda. Roedd pethau yn dechrau gwella i mi.

Yn anffodus, cychwynnais gael problemau efo diwrnodau drwg iawn. Cefais un cyfnod, ymddangosai ar hap, o tua thri diwrnod lle roeddwn yn trallodi gyda fy iselder. Parhaodd hyn. Gwelais y doctor eto a chodwyd y dos i 30mg y dydd.

Cychwynnais deimlo'n grt ychydig wedyn. O dydd i ddydd roeddwn yn teimlo'n llawer gwell. Parhaodd hyn am dipyn.

Ond eto, roedd y cyflwr da wedi dechrau cwympo o'm nghwmpas. Roeddwn yn dioddef gyda phryder. Roedd yn dechrau dod yn eithaf rhwystredig. Doeddwn i ddim yn gallu siarad gyda phobl, yn teimlo'n bryderus iawn o fynd allan. Roedd yn drallodus a ddim yn helpu gyda'r iselder o gwbl. I ddweud y gwir, roedd bron fel petawn yn l ar y cychwyn.

O'r diwedd cefais apwyntiad i weld y seiciatrydd. Dywedais wrtho am fy iselder, fy hanes, ysgol ac ati. Yn sydyn fe sylweddolodd ar fy mhryder. Wrth i mi eistedd yno yn siarad gydag ef, sylweddolodd arnaf yn pigo fy ewinedd – fy mhrif wingiad pryder. Dywedodd wrthyf fod angen adolygu fi pob tri mis.

Es yn l at y doctor wythnos ddiwethaf ar l taith dramor i Cyprus. Ar y daith hon cychwynnodd y pryder effeithio fi'n ddrwg. Os oedd yn ddrwg cynt roedd yn afreolus nawr. Dim ond eistedd o gwmpas ar fy iPad fues i am gyfnod y gwyliau. Doeddwn i ddim eisiau mynd o gwmpas i weld os oedd pobl fy oed i allwn wneud ffrindiau nhw nac unrhyw beth. Eisteddais yno gyda fy iPad – fy rhwystr.

Cododd y doctor y dos citalopram eto i 40mg y dydd a rhoi fi ar propranolol, cyffur beta-blocker. Cymerais ef gartref i weld os byddai'r pryder cefndirol yn cychwyn  gwywo. Fe wnaeth. Aeth yr hymian hap dim ond y fi oedd yn sylweddoli arno a'r awydd isymwybodol i bigo fy ewinedd wedi diflannu yn llawer mwy sydyn na chychwynasant nhw.

Ond, cwpl o ddiwrnodau yn l bu trychineb. Roeddwn yn amau fod gen i adwaith alergaidd tuag ato. Cyn i mi gael cyfle i'w ddefnyddio mewn sefyllfa lle gallwn fuddio o'i ddefnydd! Galwais y doctor y diwrnod wedyn i gael fy rhoi ar y rhestr argyfwng, gan fod y daflen gwybodaeth glaf yn dweud wrthyf weld doctor mor sydyn phosib. Ydy, mae dad yn ddoctor, ond nid yw'r un peth!

Gwelais un o'r prif ddoctoriaid yn y feddygfa a dwedodd wrthyf y byddai'n well i mi stopio'r propranolol. Siaradom yn sydyn am y pryder a sut roedd wedi bod yn affeithio fi. Penderfynodd roi diazepam, a benzodiazepine i mi, 2mg y dydd i gychwyn.

Dyma fy stori hyd yn hyn.

Ar y funud, dwi'n teimlo'n dda. Dwi'n goddef y diazepam yn dda, ond dyddiau cynnar ydyw. Mae gen i apwyntiad i weld fy noctor arferol ar 19 Awst, felly ddim yn rhy hir. Dwi'n gobeithio byddaf yn cael fy rhoi i fyny i'r dos arferol o diazepam. Dwi'n gobeithio mai dyma'r driniaeth i mi, er mai ateb dros dro ydyw. Dwi'n gobeithio bydd yn dod a fi allan o'r cyflwr pryderus yma ddigon hir i fedru delio gyda'r problemau gwaelodol. Dyna beth wnaeth y citalopram. Fe ddaeth a fi allan o gyflwr isel i weld y pryder gwaelodol fwy.

Nid yw'n hawdd siarad am salwch meddwl. Mae dal yn cael ei ystyried fel pwnc 'tab?' – rhywbeth na fyddet yn drafod yn yr un ffordd ti'n siarad am fraich wedi torri, cancr neu salwch corfforol eraill. Dwi'n gobeithio, trwy siarad am fy mhrofiadau, bydd yn annog eraill i wybod fod cymorth ar gael allan yna. Mae pobl yn barod i wrando a helpu.

Yr unig ffordd o dorri tab? salwch meddwl ydy drwy siarad amdano fwy.

Newyddion Categorau Iechyd

Sefydliadau Cardiff Mind

Sefydliadau Mental Health Matters

Gwybodaeth Iechyd Iechyd Emosiynol a Meddyliol

DELWEDD: My Daily Dose gan a shadow of my future self

Erthyglau Perthnasol:

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.