Priodas Hoyw: Dryslyd, Ych A Fi ac Amrhydeinig
Gwadiad: Fel gyda phopeth ar NPT Shake, mae'r farn a fynegwyd yn yr erthygl yma yn un yr awdur ac nid o reidrwydd yn farn NPT Shake.
Fel dwi'n siŵr y byddi di wedi clywed erbyn nawr, mae'r senedd yn ceisio pasio newid damniol i'r gyfraith i gyfreithloni priodas un rhyw yn y DU. I holl blant o dan 21 oed, dwi'n awgrymu i ti stopio darllen nawr. Rydym am siarad am bethau ych a fi.
Ar hyn o bryd yn y DU, gall pobl gyfunrywiol gael partneriaeth sifil gyda'u cariadon. Mae hyn yn rhoi'r un hawliau â phriodas heterorywiol ym mhopeth heblaw am air, a dyma'r ffordd y dylai fod. Ond dyw hyn ddim yn ddigon da i'r dorf o drigolion hoyw Mwstaslyd-Cerdded-Traeth-Brighton-Caru-Bwth-Toiledau yn y DU. Maent eisiau priodas; maent eisiau'r gair, sydd wedi'i adnabod ers DIWRNOD CYNTAF gwareiddiad fel undeb cariadus rhwng dyn a dynes.
Ia, dyna ti sioc ddarllenwr, mae'r hipis adain-chwith comiwnyddol yn ein cymdeithas (ti'n gwybod, y dyn gwallt hir yn bysgio tu allan i Burger King yn canu One Love gan Bob Marley) eisiau newid diffiniad gair sydd wedi bod ag ystyr hir sefydlog sydd yn torri i galon y cyhoedd Prydeinig gwych.
Mae'n wallgof. Maent yn credu o ddifrif y gallem newid geiriau a dyna ni. Wel, dydy hyn yn BENDANT ddim yn hynny. Ni fedrem newid ystyr gair yn syml. Ers i iaith gychwyn nid oes yr un gair erioed wedi newid ei ddiffiniad. Ia dyna ti, nid un. Mae iaith yn ei hun yn ddisymud. Mae'n gyd-ddigwyddiad ein bod yn dal i ddefnyddio'r UNION iaith siaradwyd gan Iesu Grist EI HUN 2000 o flynyddoedd yn ôl? Edrycha yn dy Feibl Cymraeg, fy ffrindiau.
Oes yna unrhyw un yn y llywodraeth wedi meddwl am un eiliad am y dryswch bydd hyn yn achosi'r cyhoedd Prydeinig? Fydd rhywun yn meddwl am y plant?
Fe roi esiampl i ti. Penderfynais fod i eisiau priodi. Dwi'n ymddangos ar ddiwrnod fy mhriodas mewn Eglwys Loegr, wedi'i adeiladu ar draddodiad cryf a rhesymeg gadarn ac yn bendant nid am fod brenin dros bwysau penodol eisiau ysgariad. Dwi'n disgwyl yn nerfus yn yr allor, yn symud fy nhraed gyda phryder, wedi cyffroi gyda'r syniad o faint o arian byddaf yn arbed nawr nad oes rhaid i mi dalu glanhawr na chogydd.
Yn sydyn, mae'r organ yn dechrau chwarae'r gân priodas. Dwi'n rhoi sgrech fach gyffrous. Dwi'n clywed camau fy nghariad yn cerdded i lawr yr allor ataf, yn barod i gael fy ymuno mewn priodas am weddill ein bywydau. Dwi'n troi at fy ngwraig brydferth ond yn camu yn ôl, wedi synnu, yn rhoi bloedd ddistaw sydd yn atseinio trwy'r eglwys. Mae dyn mewn tuxedo (yn llawer mwy smart nag un fi) yn dod tuag ataf ac mae cysgod yn ffurfio dros fy nhalcen.
Ia dyna ti. Dwi wedi mynd a phriodi gwrywgydiwr yn anfwriadol.
Nawr, dwi'n gwybod bydd rhai o'n darllenwyr yn dweud, "pan nad fydda ti'n sylweddoli yn ystod cynllunio dy briodas bod dy bartner yn ddyn?" a dwi'n dweud wrthyn nhw - BYDDA'N DDISTAW. Ddim yn llyncu'r esiampl yna? Wel, dyma un arall i ti.
Dwi'n eistedd yn fy nghadair siglo, yn darllen fy ngholofn gorau (Richard Littlejohn) ar brynhawn mwyn yn fis Ebrill. Dwi'n clywed fy ngwraig feichiog yn dod i mewn y tu ôl i mi, efallai yn plygu dillad, efallai yn chwilio am ei llyfr rysáit, pwy a ŵyr? Dwi'n teimlo ei anadl ar gefn fy ngwddf ac yn fy nghofleidio o'r tu ôl, yn cusanu fy ngwddf mewn ffordd ddeniadol. Dwi'n griddfan yn gariadus, yn troi tudalen fy mhapur gyda bodlonrwydd dyn sydd wir wedi darganfod ei le mewn bywyd.
Yn sydyn, mae'r pennawd ar y dudalen nesaf yn neidio allan arnaf i. PRIODAS HOYW YN CAEL EI GYFREITHLONI. Mae fy llygaid yn lledu, cannwyll y llygaid yn ymledu. Mae fy nghalon yn dechrau curo'n drymach. Dwi'n teimlo gwefusau fy ngwraig yn ffurfio cusan ar fy nghlust. Dwi'n gafael yn ei braich mewn syndod ac yn teimlo pigion braich flewog ar fy llaw.
Dwi'n ebychu, ac yna dwi'n gallu ei deimlo - ei bôl beichiog yn gwyro yn fy erbyn, unwaith yn esmwyth ac yn felys mae bellach yn flewog a dwi'n troi gyda sgrech o hunllef. Yn sefyll o'm mlaen mae dyn ugain stôn farfog o Firmingham ac mae'n rhoi llygada rhyw dwi'n eu hadnabod mor dda i mi. Dwi'n pwyntio ac yn rhoi sgrech waedlyd, ond mae'n rhy hwyr. Dwi wedi priodi, ac wedi bod yn briod yn hapus i ddyn am bum mlynedd yn anfwriadol.
Ti'n gweld nawr? Bydd trasiedïau fel hyn, dwi'n sicr, yn ymddangos ledled Prydain os bydd y gyfraith yma yn cael ei basio, a dydy'r llywodraeth yn poeni DIM O GWBL am y dryswch bydd y cyhoedd yn ei deimlo gyda newid yn ystyr gair.
Pryd fydd hyn yn dod i ben? Iawn, efallai mai un gair ydyw. Ond dyma'n union sut gychwynnodd Yr Almaen Natsi. Beth os byddant yn penderfynu newid y gair "lladd" i "anadlu"? Sut bydd yr Hen Destament yn darllen wedyn? Bydd "Paid â lladd" yn golygu "Paid ag anadlu"! Bydd epidemig o fygfa yn lledaenu trwy'r bobl dda sy'n ofni Duw ar ynysoedd Prydain - mamau yn wylo yn y stryd, dyn ar gart yn canu cloch yn sgrechian "dewch â'ch meirw allan" a mwy.
NA. Fedrwn ni ddim cael hyn. Dwi ddim am dderbyn hyn. Mae'n rhaid i RYWUN sefyll i fyny dros draddodiad. Mae'n rhaid i rywun sefyll i fyny dros y PRYDFERTHWCH RHODDWYD GAN DDUW sef yr IAITH GYMRAEG. Mae'n rhaid i ni ddweud wrth y llywodraeth NA. Ni fyddwn yn gadael i chi newid y geiriau yn wili-nili. NID fel yna mae gwneud pethau yma yn PRYDAIN FAWR. Nid dyma oedd Iesu Grist eisiau, nid dyma fydda bobl dda ALBION wedi bod eisiau, nid dyma fydda DUW wedi bod eisiau pan yrrodd ei iaith brydferth i lawr ganrifoedd yn ôl, ei roi i'r Brenin Arthur a dweud "PAID BYTH A'I NEWID. Priodas ydy priodas, partneriaethau sifil ydy partneriaethau sifil, a dydy 'lladd' YN BENDANT DDIM yn golygu 'anadlu'."
Felly ymuna gyda fi, pobl dda Prydain, a chymryd camau i wrthod y syniad brwnt yma o newid. Cadwch draddodiad yn fyw, a Duw achub y Brenin (dwi ddim yn cydnabod merched fel awdurdod cyfreithlon ac yn adnabod Charles fel pennaeth cyfiawn y frenhiniaeth, wfft i Liz a'i darnau benywaidd NID YW'N IAWN).
Ar ôl dweud popeth, dwi'n meddwl gallem gytuno bod priodas hoyw yn ych a fi, yn ddryslyd ac yn ddiawledig o AMHRYDEINIG!
Sefydliadau - Stonewall Cymru
Gwybodaeth - Hawliau Dynol
Gwybodaeth - Cristnogaeth
Gwybodaeth - Perthnasoedd Un-Rhyw
Erthyglau Perthnasol:
DELWEDD: Laurie Pink