Pobl Yn Dy Fywyd: Sut Mae Ein Gwybodaeth?
Helo pawb, rydym yn symud ymlaen bellach yn ein hadolygiad adran gwybodaeth CLIC i Bobl Yn Dy Fywyd.
Mae adolygiad yr adran wybodaeth yn edrych ar p'un a yw ein gwybodaeth yn gywir, yn gyfoes ac yn berthnasol i chi, darllenwyr a defnyddwyr CLICarlein a'r Gydweithfa CLIC.
Yn hytrach na chael dim ond ni i'w wneud, rydym yn dod a gweithwyr proffesiynol i mewn sy'n arbenigwyr ym mhob adran ac rydym hefyd eisiau adborth wrthyt ti. Rydym eisoes wedi cyfarfod gyda Chymru Ddiogelach a Chymorth i Ferched Cymru, ac yn cynllunio i gwrdd mwy, ond os oes gennyt argymhellion ar gyfer mwy o sefydliadau, yn enwedig os wyt ti wedi eu defnyddio, yna byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthyt.
Mae tair ffordd y gallet roi adborth:
- Rhoi sylwadau ar yr adran berthnasol neu isadran ar y safle, yn union fel y byddet gydag erthygl
- Trwy Grŵp Golygyddol Cenedlaethol CLIC ar facebook
- Ebostio Sam@CLIConline.org.uk
Pobl Yn Dy Fywyd
Roedd hyn arfer cael ei alw'n Teulu a Pherthnasau ac yn cwmpasu ystod eang o bynciau gan gynnwys babanod, bod yn rhan o deulu, rhwydweithio cymdeithasol, gofalwyr ifanc, trais yn y cartref, cyfeillgarwch, bod mewn gofal a llawer mwy.
Gallet weld yr adran cyfan fan hyn - http://www.cliconline.co.uk/cym/gwybodaeth/pobl-yn-dy-fywyd/ - ar hyn o bryd mae'n cael ei dorri i lawr i'r adrannau
- Cyfathrebu a Phan Aiff Pethau O'u Lle
- Cyfeillgarwch
- Bod Mewn Perthynas
- Bod Yn Rhan O Deulu
- Derbyn Gofal
- Dod Yn Rhiant
- Gwahanu a Cholled
Felly, ydy'n gwybodaeth am Gyfeillgarwch pan yn 11-14 oed dal yn berthnasol neu a yw'n naff? Ar ôl effaith enfawr drama 'Murdered By My Boyfriend'', oes angen mwy o wybodaeth arnom ni ynglŷn â pherthnasoedd iach? Beth am secstio? Rydym wedi cael erthyglau arno, ond dylai fod yn yr adran wybodaeth? A oes unrhyw fylchau sydd wir angen llenwi?
Byddem yn gwerthfawrogi dy adborth yn fawr, naill ai wedi postio ar yr adran berthnasol, ar y grŵp Facebook, neu os byddai'n well i ti ei wneud yn breifat, yna gallet e-bostio Sam@CLIConline.org.uk
Y cyfan yr ydym yn ei ofyn yw pe gallet dreulio ychydig funudau nawr ac yn y man i edrych ar un neu ddau adran a gadael i ni wybod os yw'r wybodaeth yn iawn, os oes gennyt unrhyw newidiadau i'r testun, neu os wyt yn gwybod am unrhyw gysylltiadau perthnasol neu fideos. Byddai hyn yn gymorth enfawr i ni ac i bobl ifanc Cymru.
Rydym yn croesawu unrhyw a phob adborth
Ar Y We » Gwybodaeth Diogelwch
Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd
Erthyglau Perthnasol:
Llun: pakyouare trwy Compfightcc







