Pobl Ifanc, Cyfryngau, A’r Hawl I Siarad.
Yn y byd heddiw mae’r cyfryngau yn rhoi argraff negatif ar bobl ifanc neu blant e.e. Waterloo Road. Rydw i yma i ddangos argraff bendant ohonynt.
Rydw i yn mynd i ddefnyddio Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe fel enghraifft o’r camddeall yn y byd. Mae’r disgyblion wedi ceisio dangos parch i bawb gan wneud y canlynol: codi arian i blant dros blant. Mae’r plant yn codi arian ar ben ei hun sydd yn dangos fod pob person ddim yn mynd rownd fel hwliganiaid fel ar Waterloo Road. Peth arall maen nhw’n gwneud yw casglu dillad am ‘clothes for a cause’. Mae’r plant ei hunan wedi trefnu hyn. Mae’r plant yn gyfeillgar at eu cymuned ac yn neidio ar unrhyw gyfleoedd posibl i greu'r gymuned yn lle gwell ac i roi argraff dda i ddisgyblion yr un oedran a nhw. Gall weld o’r canlynol y darlun mae’r plant yn ceisio creu am ei hunan.
Nesaf rydw i yn mynd i sn am beth mae pobl eraill yn meddwl am hyn. Dywedai rhywun yn ei saithdegau'r canlynol: “Pan oeddwn i’n ifanc roedd fy mam a dad byth yn gadael fi allan ar l 6 o’r gloch, dim fel y plant bach yn y ganrif yma. Rydych chi’n gweld nhw’n rhedeg ymhob man. Mae’n amharchus dros ben."
Dywedai merch ifanc o Abertawe hyn: “Dyw’r bobl ddim yn rhoi siawns i ni ddangos iddynt eu bod nhw’n anghywir o ddweud ‘edrych arnynt.’ A dylen nhw ddim bod allan. Ni ddylent fod yn uchel i weithredu fel hynny pan nad ydym wedi gwneud unrhyw beth.’
Dyma beth mae dyn yn ei dridegau yn ddweud: “Pan roeddwn i yn ifanc roeddwn i’n byw fy mywyd ac i fod yn onest roeddwn i’n waeth na’r bobl ifanc nawr.”
Rydw i wedi dewis y pwnc hwn oherwydd mae shwt gymaint o blant a phobl ifanc yn y byd yn cael eu camddeall, ac mae’n annheg. Gan fy mod i yn berson ifanc fy hunan roeddwn i eisiau dweud rhywbeth amdano.
Rwy’n gobeithio fy mod wedi perswadio chi i feddwl yr un fath a fi, sef rhoi siawns i ni a byddwn ni'n profi i chi eich bod wedi gwneud y dewis iawn.
Ysgrifennwyd gan Hannah Daniels, Bryn Tawe