PLEIDLEISIA: Erthygl Fwyaf Ysbrydoledig
Dwi wedi bod yn darllen erthyglau ar y rhwydwaith CLIC ers y cychwyn un, yn l pan yr unig wefan oedd gennym oedd gwefan bach yng Nghaerdydd o’r enw theSprout. Syniad theSprout oedd bod yn Ganllaw Newyddion a Digwyddiadau i bobl ifanc o amgylch Caerdydd, ond yn sydyn fe dyfodd i fod yn fwy na hynny.
Anogwyd pobl ifanc i reoli pob agwedd o’r wefan, o’r dyluniad i’r cynnwys, a datblygodd y wefan o newyddion ac adolygiadau syml i hyb o greadigrwydd, yn enwedig ysgrifennu creadigol: o farddoniaeth a rhyddiaith, i golofnau hyd lawn yn datgan dy farna dy ddiddordebau i bawb gael gweld.
Bron 3 mlynedd wedyn ac mae CLIC efo gwefan un-pwrpas a thm golygyddol mewn siroedd dros Gymru (ac, erbyn 2011, gobeithio byddem yn cyflenwi’r wlad i gyd!). Tra fod theSprout efallai wedi gosod y llwyfan, roedd y gwefannau eraill yn sydyn i ddal i fyny: mae Wicid efo tm o ysgrifenwyr nodwedd reolaidd eu hunain, a dwi’n ymweld nhw yn awyddus bob wythnos i weld beth sydd yn newydd ym myd Vampire Timelord, Peter Piper a’u cyd.
Mae llwyth o waith yn yr archif CLIC nawr, ac mae’n tyfu bob dydd, diolch i’ch creadigrwydd, ymrwymiad a dewrder i ddweud beth rwyt ti’n credu a rhoi o allan yna i’r byd weld. Ac am hynny dwi’n saliwtio chi.
Pleidleisia Am Y Cyflwyniad Fwyaf Ysbrydoledig
Mae’n amser dathlu beth rydym wedi adeiladu. Neu, yn fwy cywir, beth rydych chi wedi adeiladu: hyd yn oed os nad wyt ti wedi ysgrifennu rhywbeth dy hun eto, drwy ymweld ’r wefan a gadael sylwadau rwyt ti’n helpu’r rhwydwaith CLIC i dyfu.
Yn beth rydym yn gobeithio bydd y cyntaf o nifer, mae cystadleuaeth wedi’i lansio i bleidleisio am y cyflwyniad fwyaf ysbrydoledig i CLIC. Gall pawb bleidleisio; yr unig beth sydd yn rhaid gwneud ydy mewngofnodi.
Ac os wyt ti’n sownd am ddeunydd darllen da, fe ddylai’r rhestr o ymgeision gadw ti i fynd. Cer, darllena nhw i gyd, a gad sylwadau! Yna cymera ysbrydoliaeth ac ysgrifennu erthygl dy hun, a’i gyflwyno i’n cystadleuaeth nesaf.
Mae pleidleisio yn cau ar ddydd Mercher 17 Tachwedd.
http://www.cliconline.co.uk/cym/geir-iau/pleidleisiwch/ <-- Clicia arno naaaawwwwwrrrrr!