Pleidleisia Nawr - Eich Gwobr Chi
Mae pleidlais Eich Gwobr Chi 2015 bellach wedi cau. Diolch yn fawr iawn i bawb fu'n enwebu ac yn pleidleisio. Llongyfarchiadau i Mike Smith o YMCA Y Bari am dderbyn y nifer buddugol o bleidleisiau, a hefyd i'r ail orau Media Academy Cardiff.
Mae'r Wobr Eich Dewis Chi yn rhan o'r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid sydd yn dathlu ac yn gwobrwyo gwaith, arloesedd ac ymrwymiad gwych pawb sydd yn gweithio yn y sector gwaith ieuenctid. Beth sydd yn gwneud y Wobr Eich Dewis Chi yn unigryw ydy mai pobl ifanc yng Nghymru sydd yn ei reoli'n gyfan gwbl: chi sydd yn dewis yr enwebiadau ac yn pleidleisio am yr enillydd.
Cafodd gweithwyr a phrosiectau ieuenctid eu henwebu am y wobr gan bobl ifanc ledled Cymru, yn cyflwyno fideo byr yn esbonio'r enwebiad. Bydd creawdwyr y fideo buddugol yn derbyn hyd at 300 punt o offer sglefrio proffesiynol diolch i Skates.co.uk.
Mae'r seremoni gwobrwyo yn digwydd yng Nghaerdydd ar Chwefror 26. Bydd yn cael ei gyflwyno gan y digrifwr Tudur Owen a bydd y gwobrau yn cael eu cyflwyno gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Julie James.