Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Penwythnos Glawog Yr Haf CLIC

Posted by Kathryn ProMo from Cardiff - Published on 12/08/2010 at 13:26
0 comments » - Tagged as Comedy, Culture, Dance, Music, People, Technology, Topical, Work & Training, Volunteering, Yn Gymraeg

English version

Yn l rhai mae’r haf wedi cyrraeddac yn gwrando ar awgrymiadau o’n Penwythnos Preswyl Cynllunio rydym yn gwahodd y Grŵp Golygyddol Cenedlaethol CLIC i ymuno gyda ni unwaith eto am ein penwythnos nesaf yng Nghanolfan Antur Sir Benfro o’r 27ain 29ain Awst 2010.

Byddwn yn parhau yn ein gwaith ar nifer o adrannau gan gynnwys gweithdai'r Gynhadledd Gwybodaeth sydd yn digwydd yn fis Hydref 2010, cwblhau’r newidiadau i’r categorau gwybodaeth CLIC a pharhau gyda’r datblygiadau’r arolygiaeth ieuenctid newydd ei ffurfio.

Bydd gweithdai yn cael eu rhannu y tro hyn fel bod grwpiau yn gallu gweithio ar wahanol adrannau a byddwn yn cynnig dewis o weithgareddau ar y prynhawn Sadwrn.

Nawr am y darn gwirioneddol hwylusdan orchymyn poblogaidd aelodau’r grŵp byddwn yn cynnal Mae Gan CLIC Dalent ar y nos Sadwrn.

Felly gwell i ti ddechrau ymarfer, pa un ai yw’n gan, jyglo neu dorri symudiadau esmwyth, rydym eisiau dy weld yn ei fflawntio!

Mae llefydd yn brin, gydag aelodau presennol yn cael blaenoriaeth a llefydd i gynrychiolwyr o Grwpiau Golygyddol Lleol ond mae croeso bob amser i aelodau newydd.

Felly os wyt ti eisiau bod yn ran o’r hwyl, cysyllta gyda ni cyn gynted phosib drwy e-bostio kath@promo-cymru.org

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.