Penblwydd Cyntaf Y Brawlers
Mae’r Tiger Bay Brawlers yn dathlu eu penblwydd cyntaf y penwythnos hwn ac rydym eisiau i CHI ymuno yn yr hwyl a’r gemau!
Nawr efallai dy fod wedi clywed am y Tiger Bay Brawlers yma ar CLIC o’r blaen.
Os wyt ti eisiau darllena amdanom ni eto yma, ac am ein gm gyntaf yma.
Ond, i’r rhai ohonoch sydd ddim, fe ro’i grynodeb byr: Mae’r Tiger Bay Brawlers yn dm ‘roller derby’ o Gaerdydd, ond mae aelodau o Ben-y-bont ar Ogwr ac Abertawe hefyd.
Dyna ti, dwi’n meddwl fod hynny ddigon byr. Am fanylion pellach am y Tiger Bay Brawlers a beth ydy ‘roller derby’ ymwela ’n gwefan: www.tigerbaybrawlers.com.
Felly, Y DATHLIAD PENBLWYDD MAWR! I ddathlu, roeddem eisiau gwneud beth rydym yn gwneud orau, chwarae ‘roller derby’. Bydd dau dm yn chwarae, y Mr Ladron ’r Tywysogaethau. Pwy fydd yn ennill? Dwi ddim yn gwybod. Ond rydym yn sicr y byddai’n noson grt.
Rydym hefyd wedi gwahodd ychydig o sglefriwr gwadd arbennig o dimau eraill i ymuno yn y ddrama. Nawr, nid yn unig fyddi di’n cael gwylio drama sglefrio gyffrous, ond mae parti ar l y gm hefyd AC mae AM DDIM! (Pls noda bod rhaid bod yn o leiaf 18 oed i ddod i’r l barti.)
Os wyt ti eisiau dod draw, tyrd a ffrind, neu ddau, neu bump, pwy bynnag a faint bynnag o bobl hoffet. Mae tocynnau yn £7 o flaen llaw a £9 ar y drws ac mae plant o dan 12 yn cael dod AM DDIM.
Mae’r drysau yn agor am 5:30pm ac mae’r gornest yn cychwyn am 6:30pm. Mae hyn i gyd yn digwydd yn Newport Centre yng Nghasnewydd, NP20 1UH.
Gobeithio gweld ti yna!!
