Parti Lansio Sproutzine
Annwyl Sprouters
Rydych i gyd wedi cael gwahoddiad i barti lansio SproutZine2 dydd Iau, 5ed Awst, 7yh yn Grassroots!
SproutZine2 (creda neu beidio) ydy’r ail zine mae’r Sprout wedi'i gyhoeddi ac rydym yn falch iawn ohono. Cafodd ei roi at ei gilydd, ei ysgrifennu a’i ddylunio gan grŵp o bobl ifanc talentog iawn o’r grŵp golygyddol ac felly’n gofyn am ddathlu!
Ymuna gyda ni am, gerddoriaeth gan Inconsiderate Parking, diodydd a chymdeithasu, yn ogystal ’r cyhoeddiad cyffrous o enillydd y Gystadleuaeth Stori Fer Sprout!
Mae’r parti yn cael ei gynnal yn Grassroots, sydd newydd gael ei ail-wneud, yng nghanol y dref. Yn ystod y noson bydd cyfle i edrych ar eu cyfleusterau newydd, sydd yn cynnwys stiwdio recordio newydd sbon, swt golygu a chaffi (sydd ar gael i bawb ddefnyddio!).
Holl syniad y noson ydy i hyrwyddo theSprout a’r SpoutZine. Gynharach yn y mis roedd y Zine yn cael ei yrru i ysgolion uwchradd dros Gaerdydd ac yna’r diwrnod wedyn roedd dros 1,000 o ymweliadau i’r wefan. Mae’r newyddion yma yn wych ac yn golygu fod y Zine yn gwneud y joban! Er hyn, mae dal pobl arall yno yn mynd o gwmpas yn hollol anymwybodol fod y wefan wych yma’n bodoli ac rydym angen dy gefnogaeth di i newid hyn. Mae dal oddeutu 5,000 o zines ar l mewn pentwr yn swyddfa theSprout i gyd yn disgwyl i gael eu darllen. Ar y noson bydd posib mynd a phentwr gyda thi i ti gael helpu lledaenu’r neges!
Felly i grynhoi, tyrd lawr i Grassroots dydd Iau nesaf am (yng ngeiriau Sam y Is-Olyg) coctel ffrwythau, cerddoriaeth byw a mwy o Zine’s na gredi di!
Gobeithio dy weld yno!
Arielle
Manylion Lansiad
Dyddiad: 5ed Awst
Amser: 7-9yh
Lleoliad: Grassroots, 58 Charles St, Caerdydd