Pam Dwi’n Casu Gwleidyddiaeth
“Dwi’n poeni am y byd o fy nghwmpas, ac eisiau newid pethau. Ond mae gwleidyddiaeth yn diflasu fi i farwolaeth: mae pob plaid a gwleidydd yr un peth a dim byd yn newid mewn gwirionedd, pwy bynnag ti’n pleidleisio amdano.”
Ydy hyn yn swnio’n gyfarwydd? Os ydy, yna ti ddim dy hun. Mewn pl gan y BBC ar noson etholiad 2001, dywedodd 77% o rai nad oedd wedi pleidleisio na fyddai pleidleisio yn newid dim, tra roedd 65% wedi dweud nad oeddent yn ymddiried mewn gwleidyddion. Mewn pl wedyn gan y Guardian adroddwyd fod 67% o bobl Prydain yn credu fod y corfforaethau mawr efo mwy o ddylanwad dros eu bywydau bob dydd nag y llywodraeth a 71% o rai 16 i 25 oed yn credu fod pleidleisio yn gwneud dim gwahaniaeth i’w bywydau o gwbl.
Mae’r agwedd mae nifer ohonom yn mabwysiadu pan ddaw i’r etholiadau yn cael ei ddisgrifio orau efallai yng ngeiriau agoriadol y can The Kind Blues, ‘Taking Over’: We have the right to choose between Labour and Tory / Like we have the right to choose between Coke and Pepsi. Mae “apathi pleidleisiwr” yn gyffredin ac mae hyn yn ddealladwy: tra roedd nifer ym Mhrydain yn cefnogi Barak Obama yn yr etholiadau Unol Daleithiau diweddar – yn credu gallai ddod a newid i America a’r byd o’r diwedd – pan ddaw i etholiadau ein hunain mae’r rhan fwyaf ohonom yn teimlo na fyddai yn gwneud unrhyw wahaniaeth pwy rydym yn pleidleisio amdano, neu os ydym yn pleidleisio o gwbl.
Mae llai na 2% o’r etholaeth Cymraeg (pobl yng Nghymru sydd yn gallu pleidleisio) yn aelodau swyddogol o blaid wleidyddol. Gan fod pleidiau gwleidyddol yn cynrychioli diddordebau eu haelodau, golygai hyn nad yw barn 98% o etholaeth Cymru yn cael ei gynrychioli. Rydym yn byw mewn gwlad ddemocrataidd, sydd yn golygu fod gan bawb yr hawl a’r gallu i benderfynu sut mae’r wlad yn cael ei lywodraethu. Yn hytrach nag cwyno, gallem wneud rhywbeth. Wyt ti’n meddwl dylai’r oed pleidleisio gael ei ostwng, neu’r cyflog lleiafswm gael ei godi? Mae’r p?er gen ti i newid y pethau hyn, ond dim ond os wyt ti’n defnyddio’r p?er hyn. Dydy’r rhan fwyaf o bobl ddim. Pam fod hyn? Yn edrych ar y ffigyrau yno efallai dy fod yn meddwl fod pobl ddim yn poeni am lywodraethu’r wlad, ond byddwn i’n dweud fod hynny’n bell iawn o’r gwirionedd. Rydym yn poeni lot iawn am ein gwlad; ond rydym wedi cael llond bol ar wleidyddiaeth.
Gad i ni roi dwylo i fyny, yr amser yma llynedd faint ohonoch oedd yn gwybod beth oedd pob plaid yn sefyll amdano? Doeddwn i ddim. Roedd fy ymwybyddiaeth i o’r pleidiau gwleidyddol wedi’i selio ar stereoteipiau o benawdau’r papurau newydd ac yn gwrando ar The Now Show: mae’r Ceidwadwyr i gyd yn gyfoethog, mae pleidleiswyr Llafur i gyd yn ddosbarth gweithiol, aelodau’r BNP i gyd yn hiliol, y Blaid Wyrdd ar gyfer hipis a chefnogwyr y Democratiaid Rhyddfrydol i gyd yn oreuyddion wedi’u twyllo. Mewn gwirionedd, mae’r datganiadau yna i gyd yn anghywir ond doeddwn i’n gweld dim oedd yn dweud fel arall. Oedd Llafur yn gostwng troseddu yn fy ardal i? Dim syniad. Ydy’r Ceidwadwyr eisiau gostwng yr oed pleidleisio? Dim clem. Yna, ychydig wythnosau cyn yr etholiad, daeth lori lawn o bamffledi trwy’r drws: rhai yn amlinellu ychydig o bolisau, ond y rhan fwyaf efo lluniau o bobl doeddwn i erioed wedi’i weld yn sefyll yn fy stryd fel bod nhw “i mewn gyda’r gymuned” ac yn addo byddai “pob plaid arall yn achosi’r awyr i ddisgyn – ni ydy’r UNIG rai gall achub y dydd.” Byddai pobl yn dod i’r drws ac yn gofyn: “Beth wyt ti eisiau gweld yn newid? Fi ydy dy AS lleol. Dweud wrtha i beth sy'n dy boeni ac fe wni ddatrys y peth!” O yfory ymlaen, bydd y taflennu hyn yn stopio a ni fyddaf yn gweld na chlywed dim gan y bobl hyn am bedair blynedd arall.
Edrycha ar wyneb hunanfoddhaol David Cameron sydd wedi’u plastro ar fyrddia biliau dros Gaerdydd, yn syllu arnat ti fel rhyw Frawd Mawr ‘airbrushed’: os mai’r rheswm ti’n pleidleisio Ceidwadwyr ydy oherwydd dy fod “wedi gweld poster mawr yn dweud wrthyf wneud” yna yn fy marn i ti ddim yn haeddu pleidleisio. Ond yn anffodus dyna ehangder gwybodaeth nifer o bobl am beth mae pleidiau yn sefyll amdano: pa bynnag bwnc poeth gall stwffio ar daflen neu fwrdd biliau. Os wyt ti’n mynd i bleidleisio am blaid, yna fe ddylai ti wybod beth ydy eu polisau. Ac os wyt ti’n anghytuno gyda’r pleidiau sydd ar gynnig yna yn lle gwastraffu dy bleidlais ar y blaid ti’n casu lleiaf, fe ddylai ti wneud plaid dy hun (wrth gwrs, gyda’r sustem pleidleisio gyfoes hyd yn oed os byddet yn gwneud hynny ac yn llwyddo i berswadio pob person yn y wlad i bleidleisio amdanat, yna ni fyddent i gyd yn gallu gwneud hyn os na fyddai’r arian a’r p?er gen ti i recriwtio 650 o bobl i sefyll drosot ti ymhob etholaeth ym Mhrydain dyma pam mai’r ddwy blaid fawr, cyfoethog ydy’r unig rhai byth i ennill).
Fel llawer ohonoch, dwi ddim eisiau gwastraffu fy mhleidlais yfory – a diolch i’r sustem gyfoes, dydy gwastraffu dy bleidlais ddim yn golygu aros gartref yn unig: mae’n golygu pleidleisio am unrhyw un heblaw am blaid fawr, gan na fyddent yn ennill. Ond yn ogystal, dwi ddim eisiau cael fy ngorfodi i ddewis rhwng y lleiaf o ddau ddiafol a bwydo’r un anghenfil aneffeithiol Llafwadwyr sydd wedi bod yn dominyddu’r dirwedd wleidyddol fy holl fywyd. Mae’n ddrwg gen i, Dave a Gordon, ond dwi ddim yn teimlo eich bod wedi hyd yn oed ceisio cael effaith arnaf i. Rydych chi’n ddieithrion o fyd gwahanol – byd o addysg preifat a gofal iechyd preifat, lle rydych chi’n ennill mwy mewn blwyddyn nag y mae rhai pobl yn gwneud yn eu bywydau ac eto dal i fod a digon o gywilydd i i hawlio treuliant am bethau mae pobl arferol yn gorfod gwario’r arian maent wedi gweithio mor galed i gael – felly maddeua i mi am beidio pryderu beth ydy Canghellor y Trysorlys.
Mae’r penbleth o’r honedig “pleidleisiwr difater” – term dwi’n meddwl sydd yn gwbl anghywir: mae “Sinig Cythruddol” yn gweddu llawer gwell. Rho beint a phennawd i unrhyw un a chyn hir byddent yn siarad am faterion mae ganddynt farn arnynt; mae pobl ymhell o fod yn ddifater. Y gwir ydy nad oes pwynt pleidleisio gyda’r system etholiadol bresennol.
Y Ffordd Mae Pleidleisio Yn Gweithio:
Fel hyn mae pethau’n gweithio: Mae Plaid A yn llywodraethu’r wlad. Maen nhw’n iawn, ond yn ddim byd anhygoel. Mae pobl yn raddol yn dod yn anhapus gyda’r ffordd mae pethau, ac maen nhw’n dweud “Dwi’n beio Plaid A am y pethau drwg i gyd! Dwi eisiau newid!” ac yn rasio allan ar ddiwrnod etholiad i bleidleisio am Plaid B, sydd yn addo rhedeg y wlad yn hollol wahanol. Mae Plaid B yn dod i mewn i b?er, ac yn llywodraethu’r wlad mewn ffordd gwahanol-ond-yr-un-mor-aneffeithiol am 4-8 mlynedd. Mae rhai pethau yn gwella, ond pethau eraill yn gwaethygu. Erbyn yr etholiad nesaf, mae pethau wedi mynd mor ddrwg fel bod y bobl anhapus i gyd yn dweud “Dwi’n beio Plaid B am y pethau drwg i gyd! Dwi eisiau newid!” ac yn rasio allan ar ddiwrnod etholiad i bleidleisio am Blaid A, sydd yn mynnu eu bod wedi dysgu o’u camgymeriadau a ddim yn creu pethau drwg ddim mwy. Mae Pari A yn dod i b?er, yn rhedeg y wlad mewn ffordd gwahanol-ond-yr-un-mor-aneffeithiol am 4-8 mlynedd (Wyt ti’n gweld patrwm yn fan hyn?) Ar yr un amser mae yna gannoedd o bleidiau eraill yn sefyll ar y cyrion, yn tagu ac yn ceisio cael sylw pobl. Maen nhw wastad yn cael ychydig o bleidleisiau, ond mae'r rhain fel pryfaid yn taro’r sgrin wynt. Mae yna fwy o bobl byddai’n pleidleisio am y pleidiau llai, ond pan maen nhw yn dweud hyn mae eu ffrindiau yn gwneud iddynt deimlo’n euog drwy ddweud byddai’n “wastraff pleidlais” ac “drwy wastraffu pleidlais rwyt ti’n gadael i Blaid A/B (pa bynnag un sydd yn cael ei gasu ar y funud) ennill.”
Mewn ymdrech i ddiweddu’r rhefru yma ar nodyn positif, ac efallai cynnig ychydig o gysur i gymar “bleidleiswyr difater” allan yna, hoffwn dynnu dy sylw tuag at ddau feddwl gorau yn hanes Prydain. Yn gyntaf, i’r darllenwyr, coda gopi o glasur George Orwell Nineteen Eighty-Four a darllena’r llyfr-o-fewn-llyfr The Theory and Practice of Oligarchical Collectivism. Mae’n llyfr mae’n rhaid i ti ddarllen cyn i ti farw, ond os ydy hynny yn swnio ychydig yn rhy hir ac yn debygol o roi cur pen i ti yna yn lle hyn cer i frig y dudalen, lle mae darllediad plaid wleidyddol gan John Cleese. Mae’r fideo'r un oed a fi, ac yn hyrwyddo’r SDP – Cynghrair Rhyddfrydol (sydd nawr yn Ddemocratiaid Rhyddfrydol). Mae John Cleese yn gwneud mwy o synnwyr o wleidyddiaeth – a’i ddiffygion – yn y fideo 10 munud hwn nag y gall unrhyw ddadl wleidyddol. Gall sgipio’r jociau sydd wedi dyddio ar y cychwyn gan nad ydynt yn ddoniol ddim mwy, ond tala sylw i weddill y fideo os wyt ti eisiau dysgu rhywbeth. Mae’n esbonio cynrychiolaeth gyfrannol – dull newydd o bleidleisio sydd yn rhoi cyfle realistig i’r pleidiau llai mewn etholiadau, ac un mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau i gefnogi hyd heddiw. Fe wyliais i’r fideo hwn yn y Brifysgol ac fe ysbrydolodd fi i bleidleisio am y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau’r Cynulliad Cymru. Pan gyrhaeddais yn yr orsaf pleidleisio fe ddywedon wrthyf na fedrwn i wneud hyn (gan nad oedd cynrychiolydd yn fy ardal) ac fe daniodd hyn fy angerdd i ymladd am newid i’r system ethol i rywbeth sydd yn debyg i ddemocratiaeth.
Dwi’n meddwl fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn bell o fod yn berffaith a dwi ddim yn meddwl ohonof fy hun fel aelod rhonc o gwbl. I fod yn onest, fory dwi eisiau pleidleisio am un ai Newid (plaid newydd gwrth-wleidyddion hudol) neu Blaid Mr-leidr DU (fel protest yn erbyn caniatu’r Mesur Economi Digidol gwarthus), ond bydd y system etholiadol ddim yn gadael i mi wneud hyn gan fy mod yn byw mewn pentref bach heb unrhyw gynrychiolydd yn yr ardal. Felly fory dwi’n bancio ar y ‘Cleggmania’ yma yn rhoi’r cymorth i’r Democratiaid Rhyddfrydol maen nhw angen i wneud gwahaniaeth. Ydw i’n meddwl byddai’n datrys problemau’r byd os bydda nhw mewn p?er? Na. Ond mae’n gam tuag at ddemocratiaeth ac i roi cyfle maent yn haeddu i’r pleidiau llai. Meddylia amdano am funud: os ydy fy mhlaid i yn gadael i’r Democratiaid Rhyddfrydol gael y p?er maent angen i newid y ffordd mae pleidleisio yn gweithio yn y wlad hon yna mewn 4 mlynedd ni fydd hi’n ddyfodol o Coke yn erbyn Pepsi. Bydd dewis go iawn gennym, a chyfle go iawn i gael pleidiau llai i b?er. Bydd fy mhleidlais wedi gwneud gwahaniaeth.
Dwi’n deall ei bod yn annhebygol y bydd Clegg yn ennill, ond am y tro cyntaf dwi wedi cyffroi am bleidleisio fory.
Fel gyda phob erthygl ar theSprout, mae’r farn sydd yn cael ei fynegi yn y darn hwn yn berchen i’r awdur ac nid o angenrheidrwydd barn CLIC, theSprout na’i gysylltiadau. Rydym yn annog trafodaeth a dadl, felly os oes gen ti rywbeth i ddweud am yr erthygl hon yna gadael sylwad neu ysgrifenna a chyflwyna erthygl dy hun.
Erthyglau perthnasol:
Egluro Etholiad
Cwestiwn Ac Ateb Etholiad Red Dragon
Linciau:
Gwleidyddiaeth Cymraeg
BBC: Pleidleisio Am Y Tro Cyntaf
Comedi: Gwragedd Arweinyddion