Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Ofnau Ffioedd

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 15/06/2011 at 15:57
0 comments » - Tagged as Education

  • fees

English version

Yn hwyr llynedd, amlygwyd fod Cynulliad Cymru wedi cytuno helpu gyda ffioedd dysgu myfyrwyr prifysgol.

Y dl oedd byddai myfyrwyr yn talu'r ffi bresennol o £3400 y flwyddyn o 2012 a byddai'r Cynulliad yn talu unrhyw beth dros hynny, i dalu'r gwahaniaeth.

Ffantastig. Wrth gwrs, dim ond os wyt ti wedi byw yng Nghymru am o leiaf y tair blynedd ddiwethaf.

Yn bod yn flwyddyn 12, nid yw'r brifysgol yn bell i ffwrdd – felly ychydig wythnosau yn l, cychwynnais edrych ar brifysgolion posib. Dwi eisiau aros yn agos i gartref ac am fy mod eisiau cymryd mantais o gynnig Cynulliad Cymru,  canolbwyntiais ar chwilio o fewn Cymru.

Ni fyddai'n gwneud llawer o synnwyr i fynd i brifysgol yn Lloegr, pan gallaf aros yng Nghymru a chael talu rhan o'm ffioedd. Ond roedd hynny tan i mi glywed fod y Cynulliad yn talu am unrhyw beth dros y ffi bresennol hyd yn oed os dwi'n mynd i brifysgol yn Lloegr! Roedd hyn yn amlygiad mawr i mi ac roeddwn wedi cynhyrfu!

Beth sydd ddim yn gwneud synnwyr i mi ydy pam nad yw'r llywodraeth wedi gwneud mwy o sylw o hyn? Mae'n ymddangos fel eu bod wedi cadw hyn yn ddistaw. Fel nad ydynt eisiau i bobl wybod efallai bod hyn yn ymwneud efo'r posibilrwydd o beidio cael unrhyw fyfyrwyr Cymraeg ar l yng Nghymru, gafodd ei awgrymu yn ddiweddar.

Er bod hyn yn newyddion grt, mae wedi codi ychydig o bryderon cyhoeddus a gelyniaeth wleidyddol. Mae nifer o bobl yn cwestiynu o ble fydd yr arian yn dod a pa mor hir bydd hyn yn bodoli. Mae'n swm mawr o arian i fod yn talu am bob myfyriwr Cymraeg, yn enwedig mewn cyfnod pan mae arian mor dynn.

Mae myfyrwyr Saesneg wedi dangos eu dicter wrth brotestio a gwrthdystio, ac maent hefyd wedi gwneud i rhai o'r Gymru deimlo'n euog am y penderfyniad. Ond beth allwn ni ddweud? Dwi'n tybio mai gwobr yw hyn am fod yn Gymraeg.

Mae'r Ceidwadwyr Cymraeg hefyd wedi taro allan – "Mae polisi Llafur yn gimig cyn-etholiad gafodd ei gostio ar gefn amlen." Ychydig yn hawl i ddweud y gwir, ond dyna mae gwrthbleidiau yn gwneud orau.

Ysgrifennodd Leighton Andrews, Gweinidog dros Addysg a Sgiliau yng Nghymru: "Rydym yn cynllunio datblygiad o'n sustem addysg uwch. Os ydy hyn yn rhoi ni yn y prif lif Ewropeaidd, tra mae Lloegr yn nofio mewn cyfeiriad gwahanol, felly fel yna y bydd."

Dwi'n meddwl beth mae'n ceisio'i ddweud ydy gallwn barhau gyda phethau ein hunain ac fe gaiff y Saeson barhau efo beth maen nhw'n gwneud – ond peidiwch farnu beth rydym ni'n gwneud.

Mae'r Llywodraeth Cymru yn sicr bod eu cynlluniau nhw yn hollol gynaliadwy a bydd hyn yn cael ei warantu tan 2016. Ond, amser a ddengys.

Ond, y prif bwyntiau dwi'n ceisio'i wneud ydy:

  • Ydy'r Llywodraeth yn rhoi digon o wybodaeth i bobl ifanc?
  • Ydy nhw'n rhoi gwybodaeth gywir i ni?
  • Fydd yr addewid enfawr yma yn gallu cael ei gynnal?

Ond beth mae pawb arall yn meddwl am y pwnc yma?

Newyddion Categorau Addysg
Gwybodaeth Addysg Addysg Uwch
Gwybodaeth Addysg Addysg l-16 Chweched Dosbarth
Gwybodaeth Arian Arian tra'n dysgu Addysg uwch - LlCC

DELWEDD: Drop Fees gan Medmoiselle T

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.